Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 8 Ionawr 2020.
Roedd yn ddiddorol clywed hynny, a dweud y gwir, ond mae'r diwygiadau contract hyn wedi bod yn mynd rhagddynt o ran cynlluniau peilot, neu gynnydd cyffredinol, ers oddeutu tair neu bedair blynedd bellach. O gofio bod y newid yn y contract yn ymwneud â helpu pobl i ddod yn well wrth ofalu am iechyd y geg, buaswn wedi meddwl y gallai fod llai o angen am wariant Llywodraeth Cymru, nid yn unig oherwydd llai o apwyntiadau diangen, ond hefyd llai o driniaethau ar gyfer difrod y gellir ei atal.
Yn 2015-16, costiodd yr hen raglenni gofal deintyddol a gofal iechyd y geg £137 miliwn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r refeniw o £33 miliwn o daliadau cleifion, sef 2.14 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Sut y mae hynny'n cymharu bellach â'r gwariant o dan y contract diwygiedig hwn a pha dystiolaeth a gawsoch gan y Gweinidog i gyfiawnhau'r newidiadau?