1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol? OAQ54875
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ystod o faterion ariannol yn ei bortffolio, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol.
Weinidog, mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddeintyddiaeth yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymrwymo'r un geiniog o fuddsoddiad newydd. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi nodi:
Ni fydd yr argyfwng sy'n wynebu deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn cael ei ddatrys gan ychydig eiriau cynnes.
Eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Felly, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y diwygiadau angenrheidiol i'r contractau a recriwtio ychwanegol mewn perthynas â deintyddion yn cael eu cefnogi gan gyllid digonol ac ychwanegol?
Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Gweinidog iechyd mewn perthynas â diwygio contractau ac ynglŷn â'r problemau sy'n wynebu deintyddiaeth ledled Cymru, gan y gwn fod hwn yn fater sy'n codi'n aml yn y Cynulliad. Rydym wedi cydnabod bod angen diwygio'r system gontractio bresennol, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn sicr yn mynd i'r afael ag ef, ac mae newidiadau sylweddol eisoes yn cael eu gwneud ac mae timau deintyddol yn croesawu'r newidiadau hynny.
Rydym wedi dweud ein bod yn dymuno gweld nifer y practisau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ddiwygio yn cynyddu ymhellach, ac rydym bellach yn disgwyl gweld dros hanner y practisau yn rhan o'r rhaglen erbyn mis Hydref 2020. Ceir 132 ohonynt ar hyn o bryd, felly mae oddeutu 30 y cant o bractisau deintyddol yn cymryd rhan ar hyn o bryd.
Yn amlwg, rydym hefyd yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau gyda'r gweithlu a chadw staff. Mae rhan o hynny'n digwydd drwy'r rhaglenni hyfforddi rydym yn eu rhoi ar waith. Ceir cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn awr yn nifer y deintyddion sy'n darparu gofal y GIG yng Nghymru, ond rydym yn cydnabod bod recriwtio a chadw staff yn broblem benodol, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru—gogledd Cymru, canolbarth Cymru a gorllewin Cymru, yn enwedig—ac mae hynny'n achosi cryn drafferth o ran llenwi swyddi gwag.
Ond gallaf gadarnhau bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn edrych ar gomisiynu pecynnau addysg, niferoedd sy'n hyfforddi a hyfforddiant i ddatblygu’r gweithlu, ac ystyried a oes modelau gweithlu mwy effeithiol i ddarparu gwasanaethau a allai wella llwyth gwaith deintyddion a helpu i sicrhau bod practisau'n fwy cynaliadwy a'r yrfa'n fwy deniadol.
Roedd yn ddiddorol clywed hynny, a dweud y gwir, ond mae'r diwygiadau contract hyn wedi bod yn mynd rhagddynt o ran cynlluniau peilot, neu gynnydd cyffredinol, ers oddeutu tair neu bedair blynedd bellach. O gofio bod y newid yn y contract yn ymwneud â helpu pobl i ddod yn well wrth ofalu am iechyd y geg, buaswn wedi meddwl y gallai fod llai o angen am wariant Llywodraeth Cymru, nid yn unig oherwydd llai o apwyntiadau diangen, ond hefyd llai o driniaethau ar gyfer difrod y gellir ei atal.
Yn 2015-16, costiodd yr hen raglenni gofal deintyddol a gofal iechyd y geg £137 miliwn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r refeniw o £33 miliwn o daliadau cleifion, sef 2.14 y cant o gyfanswm gwariant y GIG. Sut y mae hynny'n cymharu bellach â'r gwariant o dan y contract diwygiedig hwn a pha dystiolaeth a gawsoch gan y Gweinidog i gyfiawnhau'r newidiadau?
Eleni, rydym yn darparu dros £146 miliwn i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Rydym yn gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau deintyddol, sy'n beth da. Felly, mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos bod 1.7 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau deintyddiaeth gofal sylfaenol y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny 42,000 yn fwy o bobl na phum mlynedd cyn y ffigurau diweddaraf. Bellach, mae gennym dros 1,500 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru o gymharu â 1,439 yn ôl yn 2014, felly rydym yn gweld cynnydd yn raddol yn nifer y deintyddion, ond cynnydd cyfatebol hefyd yn nifer y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny.
Mae'n ddealladwy fod gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal iechyd deintyddol gwael i gychwyn pan fyddant yn mynd i gartref gofal, gan eu bod yn aml yn mynd i gartref gofal gan fod eu hiechyd yn dirywio ac oherwydd diffyg symudedd. Gan fod mynediad deintyddol i blant ar lefel uwch nag erioed, ac fel y gwyddoch, rwy'n sôn yn rheolaidd iawn am ba mor dda yw Cynllun Gwên, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn newyddion gwych i bobl hŷn y bydd cyllideb rhaglen Gwên am Byth yn dyblu y flwyddyn nesaf, gan sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd pob cartref gofal ledled Cymru?
Diolch i Mike Hedges am godi'r mater penodol, pwysig hwnnw ac am ei gefnogaeth gyson i Cynllun Gwên. Cofiaf, yn y sesiwn graffu ddiweddar ar gyllid, iddo gyfeirio ato fel un o'r enghreifftiau rhagorol o wariant gwirioneddol ataliol sydd gennym yng Nghymru. Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ceisio canolbwyntio ein hymdrechion er mwyn gwella iechyd y geg ac iechyd deintyddol pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, felly rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi £0.25 miliwn yn ychwanegol i ymestyn rhaglen iechyd y geg Gwên am Byth—A Lasting Smile i'r flwyddyn nesaf, ac rydym yn dyblu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer hynny bellach i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ym mhob cartref gofal yng Nghymru yn 2020.