Ariannu Gwasanaethau Deintyddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:57, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ddeintyddiaeth yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gallu ymrwymo'r un geiniog o fuddsoddiad newydd. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi nodi:

Ni fydd yr argyfwng sy'n wynebu deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn cael ei ddatrys gan ychydig eiriau cynnes.

Eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Felly, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Gweinidog iechyd i sicrhau bod y diwygiadau angenrheidiol i'r contractau a recriwtio ychwanegol mewn perthynas â deintyddion yn cael eu cefnogi gan gyllid digonol ac ychwanegol?