Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:07, 8 Ionawr 2020

Diolch i chi am eich ateb. Byddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, mae gen i nifer o gynlluniau ynni hydro yn fy etholaeth, a dwi wedi codi hyn gyda chi lawer gwaith yn y gorffennol. Mae yna ofid difrifol yn y sector, wrth gwrs, ynglŷn â'r sefyllfa treth fusnes annomestig, a'r effaith mae hynny'n ei gael ar y sector. Mae yna alwadau, ac mae ystyriaeth wedi bod, ynglŷn â newid y fethodoleg i gyfrifo lefel y dreth, neu, wrth gwrs, mae'r cynllun grant sydd wedi bod ar gael gan Lywodraeth i gynorthwyo'r cynlluniau yma, gyda'r taliadau hynny'n dod i ben ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Does yna ddim sicrwydd ynglŷn â beth fydd y trefniadau yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae hynny yn taflu cysgod difrifol dros y sector; mae'n creu ansicrwydd. Mae hynny, wrth gwrs, ar ôl gwrando arnoch chi'n dweud gymaint rydych chi'n ei wneud dros yr amgylchedd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn codi cwestiwn, efallai, ynglŷn â pham nad ŷch wedi gallu rhoi ateb a sicrwydd i'r sector cyn hyn. Oes posib i ni glywed beth yw'r diweddaraf ynglŷn â hyn, ac allech chi roi sicrwydd i fi y byddwch chi'n gwneud popeth y gallwch chi i amddiffyn y sector rhag effeithiau gorfod talu'r dreth yma yn ei llawnder?