Effaith y Gyllideb ar Ogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:08, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i Llyr am godi'r mater hwn. Gwn fod ganddo gryn ddiddordeb yn y sector ynni dŵr, fel sydd gennyf innau a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am bapur gan gorff cynrychiadol y sector ynni dŵr, sy'n cyfeirio at y newidiadau posibl yn y fethodoleg a ddisgrifiwyd gennych, ond rwy'n agored i gael trafodaethau pellach, fel rwyf eisoes wedi dweud wrth y Gweinidog, mewn perthynas â chefnogaeth i'r sector y flwyddyn nesaf.