10. Dadl Fer: Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 7:10, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw a dechrau drwy ddweud fy mod yn credu nid yn unig mewn gweld Cymru yn dod yn genedl dairieithog, ond yn wlad amlieithog. Heb ystyried y newidiadau gwleidyddol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysgu ieithoedd rhyngwladol yn ein system addysg. Rwy'n ymroddedig i sicrhau bod ein dysgwyr yn profi'r ystod o fanteision sy'n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig ar adeg pan fo'n bwysicach nag erioed fod gan ein gweithlu yn y dyfodol sgiliau iaith i allu cystadlu yn y farchnad fyd-eang—dadl a wnaed gan Suzy yn ei haraith agoriadol.

Rwyf hefyd yn derbyn bod heriau gwirioneddol yn gysylltiedig â dysgu iaith ryngwladol, a dyna pam, o dan gwricwlwm newydd trawsnewidiol Cymru, y bydd pob dysgwr yn dechrau profi ieithoedd rhyngwladol o oedran llawer cynharach. Fel y dywedwyd, daw'r cwricwlwm newydd â dysgu ieithoedd at ei gilydd ym maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i athrawon yng Nghymru ddatblygu a rhannu arbenigedd mewn dysgu iaith i roi'r cyfle gorau i'n plant a'n pobl ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol. Yn ein cwricwlwm newydd, caiff ieithoedd tramor modern eu cynnwys yn yr adran ieithoedd rhyngwladol a bydd dysgwyr yn profi ieithoedd rhyngwladol gyda disgwyliadau clir o ran eu cynnydd tra byddant yn yr ysgol gynradd.

Bydd strwythur ein cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i greu polisi amlieithog cyfoethog ac effeithiol ar gyfer addysg iaith yng Nghymru. Bydd dysgu am ieithoedd a diwylliant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein nod o ddatblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd. Bydd y maes dysgu a phrofiad hwn yn annog dysgwyr i fod yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhwng ieithoedd wrth iddynt ddatblygu gwerthfawrogiad o darddiad geiriau a diddordeb mewn patrymau iaith. Byddant yn cael eu hannog i drosglwyddo'r hyn y maent wedi'i ddysgu ynglŷn â sut y mae ieithoedd yn gweithio, er enghraifft yn y Gymraeg neu'r Saesneg, i ddysgu a defnyddio'r profiad hwnnw wrth gaffael a dysgu ieithoedd rhyngwladol. Credaf y bydd y dull amlieithog hwn yn tanio brwdfrydedd dysgwyr ac yn rhoi sylfaen gadarn i ddiddordeb gydol oes yn sgil hynny mewn dysgu ieithoedd a llenyddiaeth o Gymru a'r byd.

Er mwyn meithrin gallu yn y system, eleni rhoddais £188,000 i gonsortia rhanbarthol er mwyn iddynt allu cynorthwyo ysgolion cynradd i ddatblygu eu darpariaeth iaith cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n galonogol iawn fod ein hysgolion cynradd eisoes yn cynyddu eu darpariaeth ieithoedd tramor modern, ac rwyf wedi cefnogi hyn drwy roi rhagor o arian ychwanegol i athrawon ysgolion cynradd gymryd rhan yng nghynllun LXT y Brifysgol Agored ar gyfer dysgu sut i addysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd, sy'n cynnig cyrsiau i ddechreuwyr mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Ac mae Suzy'n iawn, nid ydym ar ein pen ein hunain yn hyn, mae'n rhan o ddirywiad cyffredinol ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae'r rhesymau am hynny'n niferus ac weithiau'n eithaf cymhleth. Nawr, dyna pam, ers 2015, fod dros £2.5 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn rhaglen Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor. Mae'r cyllid hwn wedi arwain at ganolfannau rhagoriaeth newydd, lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a phartneriaid i wella'r profiad addysgu a dysgu. Eleni, yn ogystal â pharhau i ariannu ein rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern sydd wedi ennill gwobrau, rhaglen sy'n anelu at gynyddu nifer y bobl sy'n astudio ieithoedd ar lefel TGAU, rwyf hefyd yn ariannu cynllun peilot ar gyfer rhaglen fentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern gyda'r nod penodol o gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tuag at safon uwch hefyd.