10. Dadl Fer: Cymru Dairieithog: Y gwerth i Gymru o addysgu ieithoedd tramor modern

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 7:15, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Nawr, mae Suzy'n iawn, mae rhannau o Dyfodol Byd-eang wedi cyflawni a cheir rhannau o Dyfodol Byd-eang lle nad ydym wedi gweld y cynnydd y byddem yn dymuno ei weld. Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi dull newydd o gyflawni rhaglen Dyfodol Byd-eang ym mis Ebrill eleni. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gefnogi ein hysgolion wrth i ni drosglwyddo i'n cwricwlwm newydd.

Rhaid inni beidio ag anghofio, pan fo disgyblion yn dewis astudio—ac i fod yn deg â Suzy, fe wnaeth hi gyfeirio at hyn—y myfyrwyr hynny sy'n dewis ieithoedd tramor modern, wel, maent yn gwneud yn wirioneddol dda mewn gwirionedd. Cefais fy nghalonogi'n arbennig gan gyrhaeddiad rhagorol myfyrwyr ieithoedd tramor modern, sy'n dyst nid yn unig i'w gwaith caled, ond hefyd i'r addysg ieithoedd tramor modern rhagorol y mae'r myfyrwyr hyn yn ei chael. Roeddwn wrth fy modd fod athrawon ysgol gynradd Sant Paul yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Ysgol Osbaston yr Eglwys yng Nghymru yn Nhrefynwy wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Athrawon Almaeneg 2019 am eu cyfraniad rhagorol i addysgu Almaeneg yn y sector cynradd, sy'n dangos bod ymarfer rhagorol i'w weld yma yng Nghymru eisoes, ond mae angen inni adeiladu arno.

Yn y tymor hwy, bydd cymwysterau Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol yn newid hefyd ac mae angen inni weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru i ystyried sut y dylai cymwysterau newid yn unol â'r cwricwlwm newydd er mwyn mynd i'r afael â'r dull mwy cyfannol o ddysgu ieithoedd. Ac fel chi, Suzy, rwy'n credu y dylai fod pwyslais ar siarad a chyfathrebu yn hytrach na'r hyn sy'n digwydd weithiau yn y system bresennol o bosibl, lle ceir pwyslais ar ysgrifennu a darllen, yn hytrach na'ch gallu i gyfathrebu â bod dynol arall a gallu dangos cymhwysedd yn eich gallu i gyfathrebu ar lafar gyda gwahanol bobl.

Rydym yn symud oddi wrth system atebolrwydd sydd â phwyslais anghymesur nad yw'n ddefnyddiol ar rai mesurau perfformiad unigol i hyrwyddo'r defnydd o ystod ehangach o wybodaeth sy'n crisialu cynnydd ein holl ddysgwyr yn well a'r cyfan o'u dysgu a'u profiad a'n huchelgeisiau o fewn y cwricwlwm newydd. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi bod yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd a fydd yn cefnogi'r broses o roi cwricwlwm Cymru ar waith, a bydd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn—dylent fod yn deg, yn gydlynol, yn gymesur ac yn dryloyw. Rydym yn cychwyn ar gynllun strategol tair blynedd ar gyfer treialu, datblygu a gweithredu'r trefniadau newydd hyn. Drwy amlygu agweddau ar y trefniadau gwerthuso a gwella eleni, byddwn yn gallu profi agweddau ar y trefniadau newydd a bydd hyn yn rhoi eglurder ynghylch y gwahanol rolau a chyfrifoldebau wrth symud ymlaen. Bydd y trefniadau newydd yn cefnogi ein nod i godi safonau, gan leihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel Suzy, rwy'n pryderu wrth weld bod ieithoedd yn cael eu hystyried ar gyfer math penodol o fyfyriwr, yn hytrach na'u bod o werth i bob myfyriwr, ac fel bob amser, Ddirprwy Lywydd, yn canolbwyntio ar ddarparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac sy'n ennyn hyder y cyhoedd.

I gloi, hoffwn ddweud bod ieithoedd yn hanfodol ac yn bwysig iawn i ffyniant Cymru yn y dyfodol ac i'n dylanwad yng ngweddill y byd. Rwy'n cydnabod yr her yn y tymor byr, ac wrth i'n newidiadau ddechrau cael effaith, bydd angen inni ddyblu ein hymdrechion gyda phartneriaid ar yr agenda hon, gan ddeall rhai o'r rhesymau go iawn pam y mae myfyrwyr yn dewis peidio ag astudio pynciau TGAU—ac mae Mike Hedges yn iawn, weithiau mae materion amserlennu yn broblem—hyrwyddo ieithoedd, a'r canfyddiad fod cymwysterau TGAU iaith yn anodd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rhai newidiadau eisoes wedi'u gwneud yn Lloegr o ran graddio TGAU Ffrangeg ac Almaeneg, er nad Sbaeneg, ac mae Cymwysterau Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yn edrych ar y systemau hynny o fewn ein system ni, gan fod canfyddiad yn aml fod gwneud y cymwysterau TGAU hyn yn anodd a bod pethau haws a ffyrdd haws o gael eich gradd A* drwy ddewis pynciau eraill. Ond oni bai ein bod yn cyfathrebu â myfyrwyr ynglŷn â phwysigrwydd y pynciau hyn a'r cyfleoedd gwych a all ddeillio o ennill cymwysterau o'r fath, ni fyddwn yn gwneud cynnydd pellach. Ac felly byddwn am ystyried hynny, fel y dywedais, yn ein fersiwn newydd o Dyfodol Byd-eang, a gaiff ei chyhoeddi yn nes ymlaen eleni.

Rwy'n deall, ac yn wir, rwy'n gresynu at fy methiant fy hun yn hyn o beth, ond mae Darren yn iawn, nid yw byth yn rhy hwyr, ac fel yntau, gallwch ddod o hyd i mi weithiau, pan fyddaf adref gyda'r nos, ar fy ap Duolingo yn ymarfer ychydig o Gymraeg ac ychydig o Espagnol. Ond mae ffordd bell i fynd. Byddaf yn codi mater mynediad at apiau dysgu ar-lein gyda'r Gweinidogion perthnasol. Yn sicr mae'r ffordd y gallwn helpu pob plentyn i gaffael ieithoedd a defnyddio apiau o fewn y system addysg yn rhywbeth y bydd angen inni ei groesawu'n rhan o'n dyfodol wrth symud ymlaen.

Ond i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i Suzy Davies am gyflwyno'r ddadl hon. Credaf fod consensws yma fod hyn yn bwysig i ddyfodol Cymru a chredaf y gall ein cwricwlwm newydd a'r pwyslais ar gyflwyno dysgu iaith yn llawer cynharach ym mywyd y plentyn ein helpu i oresgyn rhai o'r problemau rydym yn bendant wedi'u gweld, a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â hwy gyda phenderfyniad. Diolch yn fawr.