Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Vikki. Dylwn roi gwybod i chi fod y Gweinidog addysg wedi cynnig cyfarfod â chi i drafod hyn ymhellach, ond er gwybodaeth, ceir darpariaeth yn y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg newydd sy'n mynnu bod ADY yn cael eu hystyried. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i gryfhau. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ymwybodol ohono. Cawsant gyfarfod ym mis Rhagfyr. Felly, mae hwn yn fater y maent yn deall bod angen mynd i'r afael ag ef, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf y byddai'n peri pryder i ni, i feddwl na fyddai'r ddarpariaeth honno ar gael. Yn sicr, mae angen i ADY fod yn hygyrch drwy gyfrwng y Gymraeg fel y maent drwy gyfrwng y Saesneg.