Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Ionawr 2020.
Gweinidog, dwi'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â fi wrth longyfarch Ysgol y Preseli yn fy etholaeth i sydd, fel dŷch chi'n gwybod, yn ysgol uwchradd Gymraeg sydd wedi cael ei graddio'n ail yng Nghymru yn ôl canllaw ysgolion The Sunday Times eleni am ei pherfformiad rhagorol. Nawr, mae'n bwysig bod ysgolion eraill yn dysgu oddi wrth ysgolion Cymraeg fel Ysgol y Preseli er mwyn hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, yn y trafodaethau dŷch chi wedi'u cael ac yn cael gyda'r Gweinidog addysg, sut ydych chi fel Llywodraeth yn sicrhau bod ysgolion eraill yn gallu elwa o'r gwaith arbennig mae Ysgol y Preseli yn ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg?