Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Ionawr 2020.
Felly, hoffwn ddweud yn glir, os oes dynes fach 90 oed o Wynedd sy'n siarad Saesneg gwael yn mynd i'r ysbyty ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, yn gyfreithiol, ni all ofyn i rywun esbonio iddi beth sy'n digwydd yn Gymraeg, ac mai'r hyn rydym yn ei gynnig yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynlluniau fel y gallant nodi i ba raddau y byddant yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn y Gymraeg ymhen pum mlynedd, a allai olygu, yn ôl pob tebyg, na fyddant yn gallu gwneud hynny o hyd.
Ac rydych yn mynd ymlaen i ddweud: