2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, mi wnes i godi achos dyn oedrannus Cymraeg ei iaith o Ynys Môn sy'n byw efo dementia. Mae'r ffaith bod bwrdd iechyd sydd i fod yn gweithredu'n unol â'r safonau iaith hyd yn oed yn ystyried darparu gofal iddo yn Lloegr, lle, wrth gwrs, na fyddai yna wasanaeth Cymraeg ar gael, yn brawf gwbl ddiamheuol fod y safonau ar y byrddau iechyd yn ddiffygiol.
O dan eich safonau chi fel maen nhw ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa oedd yn wynebu'r gŵr o Fôn yn berffaith gyfreithlon a does dim gwarchodaeth gyfreithiol o gwbl i gleifion. Does bosib y dylai hi fod yn ddisgwyliad ar fwrdd iechyd i ddarparu gwasanaeth i gleifion bregus, megis cleifion dementia, yn eu hiaith gyntaf, ac na ddylai hi syrthio ar deuluoedd, gwleidyddion a grwpiau pwyso i ddiogelu hawliau dynol sylfaenol siaradwyr Cymraeg i wasanaeth yn eu hiaith. Ydych chi'n cytuno ag awgrym y Prif Weinidog ddoe fod yna ddiffygion sylfaenol i'r safonau iechyd a bod rhaid ail-ymweld â nhw ar fyrder?
Wel, gaf i ategu at yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog ddoe? Mae'n anodd inni drafod materion personol ynglŷn ag un unigolyn, ond mae yn bwysig ein bod ni'n deall hefyd fod yna faterion clinigol ambell waith sydd yn golygu ei fod e'n ofynnol i bobl adael ein gwlad ni. Ond dwi yn cyd-fynd â'r Prif Weinidog wrth iddo ddweud bod angen inni gydnabod bod hawliau siaradwyr Cymraeg i gael eu materion nhw wedi ymdrin â nhw trwy gyfrwng y Gymraeg a'u gofal nhw trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth rŷm ni'n ei weld fel rhywbeth elfennol a sylfaenol y dylem ni fod yn cael ein cynnig yng Nghymru.
Yn ôl e-bost anfonoch chi i swyddogion yn holi cwestiynau cyn pasio'r safonau iechyd—. Mae'n dod yn amlwg, o ddarllen yr e-bost yna, eich bod chi'n gwbl effro i ddiffygion y safonau iechyd. Dwi'n dyfynnu—rydych chi'n gofyn hyn:
Felly, hoffwn ddweud yn glir, os oes dynes fach 90 oed o Wynedd sy'n siarad Saesneg gwael yn mynd i'r ysbyty ac ar fin cael llawdriniaeth gymhleth, yn gyfreithiol, ni all ofyn i rywun esbonio iddi beth sy'n digwydd yn Gymraeg, ac mai'r hyn rydym yn ei gynnig yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud cynlluniau fel y gallant nodi i ba raddau y byddant yn gallu cynnal ymgynghoriadau clinigol yn y Gymraeg ymhen pum mlynedd, a allai olygu, yn ôl pob tebyg, na fyddant yn gallu gwneud hynny o hyd.
Ac rydych yn mynd ymlaen i ddweud:
Rydych chi'n dweud hyn:
Credaf y bydd yn eithaf anodd perswadio pobl i dderbyn hyn. Unrhyw syniadau?
Onid y gwir amdani ydy nad ydy polisi'ch Llywodraeth chi yn gallu gwarantu gwasanaeth Cymraeg sylfaenol i gleifion bregus heddiw, a'ch bod chi'n gwbl gywir yn eich dadansoddiad chi na fyddan nhw ar gael ymhen pum mlynedd chwaith, oni bai ein bod ni yn newid y safonau iechyd? Ac, fel y dywedoch chi eich hun, mae sefyllfa fel hyn yn tough sell i bobl sy'n siarad Cymraeg.
Wel, dwi yn meddwl bod yna wahaniaethau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl, os ŷch chi'n edrych ar rywle fel Betsi, bod ymrwymiad tuag at y Gymraeg yn rhywbeth nawr sydd yn cael ei weld fel rhywbeth sylfaenol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw ddarparu; mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o beth yw gofynion iaith y cleifion sy'n dod i'w gweld nhw. A dwi yn meddwl bod yna newid wedi bod yn yr agwedd y tu fewn i'r adrannau iechyd sydd gyda ni ar draws Cymru.
Wel, dwi'n siomedig iawn efo'r ateb yna. Rydyn ni yn sôn am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn achos y gŵr efo dementia o Ynys Môn, fel mae'n digwydd. Felly, mae beth rydych chi'n ei ddweud yn anghywir.
Diffyg arall y gwnaethoch chi ei adnabod yn y drafodaeth ynglŷn â'r safonau iechyd, cyn iddyn nhw gael eu pasio, oedd y diffyg sylw i gynllunio'r gweithlu meddygol drwy hyfforddi. Cyngor eich swyddogion chi ar y pryd oedd bod angen ymdrin efo hynny trwy gamau polisi, a dwi'n cytuno. Mae'n allweddol cynllunio'r gweithlu. Mi fyddai gosod targedau er mwyn sicrhau recriwtio nifer digonol o ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg ar gyrsiau o'r fath yn sicrhau fod gweithlu'r dyfodol wedi'i gynllunio ar sail anghenion pobl Cymru.
A allwch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth chi yn gwneud hynny? Achos, o beidio gwneud, y peryg ydy na fyddwn ni ddim nes i ddarparu'r gwasanaethau sy'n hanfodol o ran diogelwch, ac o ran ansawdd gofal pobl Cymru yn awr eu hangen.
Rŷn ni yn ymwybodol bod angen gwneud mwy o ran cynllunio ieithyddol, a dyna pam rŷn ni wedi dod ymlaen â phrosiect 2050. Bydd hwnnw yn dechrau gyda'r Llywodraeth yn edrych ar sut rŷn ni'n cynllunio'n ieithyddol y tu fewn i'r Llywodraeth, ac wedyn, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni yn effeithiol tu fas i'r Llywodraeth, yn sicrhau ein bod ni'n gwthio rhai o'r cyfleoedd yna o ran y cyfleusterau cyhoeddus, i sicrhau bod nhw hefyd yn cymryd eu cyfrifoldeb nhw yn ystyrlon.
Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i danlinellu ein bod ni wedi gofyn i Academi—sydd wedi ymrwymo i sicrhau fod arweinyddion y dyfodol tu fewn i'r Llywodraeth yn ymwybodol o'u dylanwad nhw, ac o'u cyfrifoldeb nhw tuag at yr iaith Gymraeg yn y ffordd maen nhw yn mynd i arwain yn ein canolfannau cyhoeddus ni yn y dyfodol.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ynghanol y tymor gwobrau teledu a ffilm ledled y byd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch Taron Egerton o Aberystwyth ar ei lwyddiant—
Clywch, clywch. [Chwerthin.]
Roeddwn yn meddwl y byddai hyn yn eich plesio, Lywydd.
Rwy'n ei longyfarch ar ei lwyddiant gwych hyd yn hyn. Ei ddawn yw gwneud i bobl gofio bod Cymru'n enwog fel magwrfa ar gyfer llwyddiant eithriadol ar y sgrin fawr, a hoffwn ddymuno'n dda iddo gyda'i yrfa yn y dyfodol. Er ei fod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, at ei gilydd, Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym yn cyflawni ein potensial llawn ar hyn o bryd, yn enwedig o gymharu ein hunain â gwledydd eraill o faint tebyg.
Mae gan Seland Newydd, er enghraifft, ddiwydiant ffilm a theledu ffyniannus sydd wedi'i adeiladu ar ei hatyniadau fel lleoliad ffisegol gwych—ac mae hynny'n gamp, yn amlwg, y gallem ei hefelychu. Mae'r diwydiant yno'n werth oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn i Seland Newydd. Nawr, nid wyf yn dweud y byddwn o reidrwydd yn anelu mor uchel â hynny, ond ar hyn o bryd, credaf ei bod yn deg dweud nad ydym wedi gwneud cystal ag y byddem wedi gobeithio dros y pum mlynedd diwethaf. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo Cymru fel lleoliad penigamp ar gyfer y diwydiant ffilm gan fod y gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau wedi'i chadw'n ôl?
A gaf fi hefyd longyfarch Taron Egerton? Rydym yn falch tu hwnt ohono, ac rydym yn edrych ymlaen at yr Oscars, lle rwy'n siŵr ein bod yn gobeithio y bydd yn cael ei wobrwyo hefyd. Bu o gymorth mawr i ni yn y Llywodraeth ddiwethaf, yn ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru fel lle i ddod i fuddsoddi mewn perthynas â theledu a ffilm, yn ôl ym mis Tachwedd. Felly, mae'n berthynas rydym yn falch iawn o'i chael. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni hefyd danlinellu'r ffaith bod gennym ddau actor o Gymru yn serennu yn y prif rannau yn The Two Popes hefyd, sy'n ffilm wych y buaswn yn argymell eich bod yn ei gwylio.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod gennym enw da iawn bellach fel man lle gallwn greu rhaglenni teledu a ffilmiau o safon. Mewn perthyna â'r strategaeth ryngwladol y byddwn yn ei lansio yr wythnos nesaf, dyna pam mai un o'r tri sector rydym yn gobeithio y byddant yn hyrwyddo Cymru'n fawr, o ran sut rydym am gael ein gweld yn rhyngwladol, yw teledu a ffilm. Ac os edrychwch ar y datblygiadau dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gennym bellach oddeutu 50,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant hwn, a chredaf fod hwnnw'n dwf o oddeutu 50 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf. Felly, credaf ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond mae angen i ni ledaenu'r neges yn rhyngwladol, ac yn sicr, mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio ei wneud.
Diolch am eich ateb, Weinidog, a chredaf fod pob un ohonom yn rhannu'r uchelgais hwn, ond mae a wnelo hyn mewn gwirionedd â'r map i'n cael ni yno; oherwydd, os edrychwn ar y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n denau iawn ar yr hyn a wnawn i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyflawni ein potensial llawn o ran yr hyn y gallai trawsnewid diwydiannau creadigol teledu a ffilm, yn benodol, ei gyflawni.
Ac unwaith eto, os edrychwch ar yr hyn y gall rhaglenni teledu ei wneud o ran cynhyrchu twristiaeth, mae rhaglenni fel Game of Thrones wedi cael effaith enfawr ar dwristiaeth yn Croatia a Gogledd Iwerddon, er enghraifft, a mannau eraill. Ac yn Seland Newydd, fel y soniais yn gynharach, mae rhan gyfan o’u heconomi dwristiaeth bellach yn seiliedig ar Tolkien a’r llwyddiant a gawsant yno yn sgil y cynhyrchiad The Lord of the Rings.
Tybed a ydym yn mynd i gael manylion go iawn yn y strategaeth lawn, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys ei bod yn denau iawn. Ac mae hwn yn amlwg—rwy'n cytuno â chi—mae hwn yn amlwg yn faes lle gall Cymru gael gwir fantais gystadleuol, a dylem geisio gwireddu'r potensial llawn hwnnw ar unwaith.
Y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â'r economi greadigol. Yr hyn y byddwch yn ei weld, yn fuan ar ôl lansio'r strategaeth ryngwladol, yw y bydd strategaeth Cymru Greadigol yn cael ei lansio, a bydd hwnnw'n gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn, fel y gofynnoch chi amdano. A bydd hynny'n digwydd ochr yn ochr â'r strategaeth dwristiaeth hefyd, felly mae honno'n cael ei adnewyddu. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ystyried y tair strategaeth gyda'i gilydd fel cyfle i ni weiddi. Ac wrth gwrs, mae His Dark Materials yn enghraifft arall lle mae Cymru bellach wedi gwerthu'r gyfres honno'n rhyngwladol, ac mae cyfle i ni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio nid yn unig ar ba mor wych ydym ni'n dechnegol mewn perthynas â'r datblygiadau ffilm hyn, ond hefyd mae'n gyfle i ddangos ychydig o dirwedd Cymru hefyd. Dylai hynny annog mwy o dwristiaeth hefyd, gobeithio.
Weinidog, os caf droi at gynhyrchu domestig, mae 27 mlynedd wedi bod bellach ers i ffilm Gymraeg gael ei henwebu am Oscar; Hedd Wyn, yn 1993, sy'n ffilm wych iawn. Ac wrth gwrs, gall hyn fod yn rhan allweddol o'n strategaeth ryngwladol i bortreadu i Gymru fodern y diwylliant Cymraeg hanfodol rydym yn ei fwynhau yma. Nawr, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r maes hwn, roedd yna ganfyddiad fod ffilmiau Cymraeg yn fasnachol anhyfyw, ac roedd hynny'n ei gwneud yn anodd i gynhyrchwyr sicrhau cefnogaeth ariannol. Cafwyd beirniadaeth hefyd ynglŷn â'r fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth hyn ac roedd llawer o bobl yn cwyno am ba mor rhwystredig oedd hynny, cyfreithiol gyfyngol, a disgrifiwyd gofynion eraill fel rhai beichus. Ond credaf fod y strategaeth ryngwladol yn caniatáu i ni fanteisio ar y mathau hyn o bethau hefyd. Ac onid oes lle i Lywodraeth Cymru wneud mwy o lawer i hyrwyddo ffilmiau Cymraeg ar gyfer y gynulleidfa ffilmiau artistig ac arbrofol ryngwladol, a allai arwain at fanteision enfawr o ran canfyddiad pobl ledled y byd o Gymru? Ac yn wir, mae'r gynulleidfa honno'n tueddu i gynnwys llawer iawn o ffurfwyr barn a phenderfynwyr.
Diolch, mae hynny'n gwbl gywir, ac roedd yn wych gweld Hedd Wyn yn cael ei henwebu yn y sefyllfa honno am Oscar. Ond bu sawl enghraifft cyn hynny. Fy swydd gyntaf oedd gwerthu animeiddio ar gyfer S4C a bu sawl achlysur pan gafodd cwmnïau cynhyrchu animeiddio S4C yng Nghymru lwyddiant yn yr arenâu rhyngwladol hynny hefyd.
Credaf mai un o'r pethau sydd angen i ni eu gwneud yw edrych ar ble rydym mewn sefyllfa unigryw o ran teledu a ffilm, ac enghraifft o hynny yw sut rydym yn gwneud cynyrchiadau cefn wrth gefn. Felly, os ydych yn meddwl am rai o'r cynyrchiadau y mae S4C yn eu creu, maent yn gwneud fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg, ac mae hynny'n rhywbeth y credwn sy'n werth ei archwilio i weld a hoffai gwledydd eraill edrych ar sut y gwnawn hynny.
Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod gyda S4C a chyda rhai cwmnïau teledu eraill. Cynhaliais gyfarfod bwrdd crwn yn ddiweddar gyda phenaethiaid teledu a ffilm yng Nghymru i drafod hyn: beth yw'r peth unigryw y gall Cymru ei gynnig yn y maes hwn? Felly, un o'r pethau rwyf wedi bod yn ceisio'u gwneud yw ceisio penderfynu beth yn union yw'r neges pan fyddwn yn gwerthu teledu a ffilm i'r byd? Beth sy'n ein gwneud yn unigryw? Beth sy'n ein gwneud yn wahanol? Ac yn sicr, mae cynhyrchu cefn wrth gefn yn rhywbeth a nodwyd.