2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau dynol drwy ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol? OAQ54866
Mae gwerthoedd ac egwyddorion clir yn sail i'r strategaeth ryngwladol, gan gynnwys pwyslais ar gefnogaeth i hawliau dynol. Mae gennym draddodiad hir a balch o fod yn genedl groesawgar i bobl o bob diwylliant a gwlad ac ymrwymiad hefyd i nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig.
A gaf fi gymeradwyo'r ymrwymiad a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir, Llywodraeth y DU ar hawliau dynol a hyrwyddo'r hawliau hynny ym mhob cwr o'r byd? Wedi dweud hynny, rwy’n poeni ychydig fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod iawn ei chroeso i Lywodraeth gomiwnyddol Fietnam dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig drwy gyswllt addysg Cymru-Fietnam. Nawr, yn wir—[Torri ar draws.] Yn wir, gosodwyd y carped coch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymweliad gan Weinidog addysg Fietnam y llynedd, lai na 12 mis yn ôl. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae cyfundrefn Fietnam yn wladwriaeth heddlu, sy'n cael ei chyhuddo'n rheolaidd o fynd yn groes i hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol leiafrifol yno. [Torri ar draws.] Credaf y dylai'r Gweinidog addysg gael ei haddysgu mewn perthynas â hawliau Cristnogion yn Fietnam, hawliau sy'n cael eu torri'n rheolaidd. Yn ôl yr elusen Open Doors, mae Fietnam yn un o’r 50 man gwaethaf yn y byd am erlid Cristnogion, gyda’r rheini o leiafrifoedd ethnig yn ei chael hi'n arbennig o anodd, wrth iddynt wynebu ymosodiadau treisgar, aflonyddwch, wrth i'w haddoldai gael eu dymchwel ac wrth iddynt gael eu carcharau. A gaf fi ofyn, fel y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda Fietnam ynglŷn â'u record mewn perthynas â hawliau dynol, yn enwedig mewn perthynas â'r gymuned Gristnogol yno? A pha gamau rydych yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth i sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r materion hawliau dynol hyn gyda Gweinidogion, fel Gweinidog addysg Fietnam, pan fyddant yn ymweld yn y dyfodol?
Diolch, Darren. Rwy'n siomedig, gan y credaf y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith ein bod yn datblygu perthynas addysg gref iawn â Fietnam. Y ffaith ein bod yn eu helpu i wella eu systemau addysg, ein bod yn annog mwy o bobl o'r wlad honno i ddod i astudio yng Nghymru, fod hon yn wlad llawn addewid a bod cyfleoedd i ni, felly, i helpu i ddylanwadu ar—
A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol?
—gyfeiriad y wlad, yn bartneriaeth strategol bwysig iawn i ni, rwy'n credu—
A ydych yn eu herio ar eu record mewn perthynas â hawliau dynol?
—ei hystyried.
A gaf fi—? Darren, rydych wedi gofyn eich cwestiwn ac mae'n rhaid i chi roi cyfle i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn. Weinidog.
Credaf ei bod yn werth tanlinellu nad ni yn unig sydd â pherthynas â Fietnam, ond Llywodraeth y DU hefyd. Mae gan Lywodraeth Dorïaidd y DU berthynas agos iawn hefyd. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod cysylltiadau rhyngwladol ym maes hawliau dynol bob amser yn gallu bod yn eithaf anodd, ond mae'n rhaid i chi wneud rhai penderfyniadau anodd weithiau, ac rydym wedi gwneud penderfyniad yn yr achos hwn ei bod o fudd adeiladol i ni a'n partneriaeth i sicrhau ein bod yn gweithio gyda Fietnam i'w helpu i ddatblygu eu system addysg.
Yr hyn y buaswn yn cytuno â Darren yn ei gylch yw y dylai pob Llywodraeth—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, pob Llywodraeth—sicrhau, fel y bo'n briodol, eu bod yn codi materion ynghylch hawliau dynol gydag unrhyw genedl—unrhyw genedl a phob cenedl. Ond mae'r un mor briodol, ac mae'n rhaid i ran o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, ymwneud â datblygu cysylltiadau lle gallwch gael y sgyrsiau hynny hefyd.
Yr hyn yr hoffwn holi yn ei gylch—mae'n fater rwyf wedi'i godi eisoes, ond nid wyf wedi cael yr eglurder rwy'n chwilio amdano—yw materion rhyngwladol ehangach yn y dyfodol, ac yn enwedig mewn cytundebau masnach yn y dyfodol, lle rwy'n pryderu y byddwn yn gweld ymrwymiadau'n cael eu glastwreiddio, Darren, mewn perthynas â hawliau dynol, oherwydd i bob pwrpas, rydym wedi gweld hynny, yng nghytundebau Fietnam, lle mae'r hyn a oedd yn gyfreithiol rwymol o dan rwymedigaethau hawliau dynol cyfreithiol rwymol a chyfreithiol orfodadwy'r Undeb Ewropeaidd bellach wedi'u gosod mewn ffurf o eiriau ochr yn ochr ag ef. Felly, a gaf fi ofyn am gadarnhad y bydd llais Llywodraeth Cymru drwy'r Gweinidog yn nodi'n glir ein bod yn dymuno gweld rhwymedigaethau hawliau dynol rhwymol mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, boed gyda'r UDA, boed gyda Fietnam, boed gydag unrhyw un? A bydd angen i Lywodraeth y DU ddeall y byddant yn gorfodi'r mater.
Diolch, a chredaf ei bod yn werth tanlinellu, yn y gorffennol, fod maniffesto'r Ceidwadwyr yn dymuno diweddaru'r Ddeddf Hawliau Dynol—yn y gorffennol, roeddent yn dymuno cael gwared arni'n gyfan gwbl a chyflwyno bil hawliau Prydeinig yn ei lle. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod gennyf fwy o hyder yn y system sydd gennym ar hyn o bryd nag unrhyw system arall y maent yn debygol o'i chyflwyno, gan y credaf fod meincnodi rhyngwladol yn wirioneddol bwysig. Ac os yw'n dymuno bod mewn sefyllfa lle mae'r math o bobl y mae'n cymysgu â hwy—. Os yw'n dymuno ymbellhau oddi wrth y Ddeddf Hawliau Dynol, y bobl y bydd yn cymysgu â hwy, yr unig bobl yn y Cyngor Ewropeaidd, yw Belarws a Kazakhstan, a dyna'r llwybr rydym arno, o bosibl. Yn sicr, dyna oedd persbectif maniffesto'r Ceidwadwyr. Felly, gadewch inni fod yn glir pwy yw'r blaid sy'n awyddus i israddio hawliau dynol.
Nawr, i ddod at eich cwestiwn, credaf yn gyntaf oll ei bod yn werth dweud nad yw hawliau dynol yn rhywbeth y darperir ar eu cyfer fel y cyfryw mewn cytundebau masnach. Yr hyn sy'n digwydd yw y cyfeirir atynt, ceir cyfeiriadau atynt, mewn cytundebau fframwaith ehangach, a'r hyn y byddem ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno'i weld yw cyfeiriad clir at y cytundebau fframwaith ehangach hynny a fyddai'n cynnwys hawliau dynol i sicrhau bod cysylltiad rhwng y polisïau masnach a'r sefyllfaoedd hawliau dynol ehangach hynny. Credaf ei bod hefyd yn werth nodi, fodd bynnag, fod nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig wedi awgrymu bod hawliau dynol yn hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Felly, mae'n debyg y byddai meddwl y gallwch eu gwahanu'n gyfan gwbl yn anghywir hefyd.