Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Ionawr 2020.
Wel, dwi yn meddwl bod yna wahaniaethau ar draws y wlad. Dwi'n meddwl, os ŷch chi'n edrych ar rywle fel Betsi, bod ymrwymiad tuag at y Gymraeg yn rhywbeth nawr sydd yn cael ei weld fel rhywbeth sylfaenol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw ddarparu; mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o beth yw gofynion iaith y cleifion sy'n dod i'w gweld nhw. A dwi yn meddwl bod yna newid wedi bod yn yr agwedd y tu fewn i'r adrannau iechyd sydd gyda ni ar draws Cymru.