Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Ionawr 2020.
Rŷn ni yn ymwybodol bod angen gwneud mwy o ran cynllunio ieithyddol, a dyna pam rŷn ni wedi dod ymlaen â phrosiect 2050. Bydd hwnnw yn dechrau gyda'r Llywodraeth yn edrych ar sut rŷn ni'n cynllunio'n ieithyddol y tu fewn i'r Llywodraeth, ac wedyn, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni yn effeithiol tu fas i'r Llywodraeth, yn sicrhau ein bod ni'n gwthio rhai o'r cyfleoedd yna o ran y cyfleusterau cyhoeddus, i sicrhau bod nhw hefyd yn cymryd eu cyfrifoldeb nhw yn ystyrlon.
Dwi yn meddwl hefyd ei bod hi'n bwysig i danlinellu ein bod ni wedi gofyn i Academi—sydd wedi ymrwymo i sicrhau fod arweinyddion y dyfodol tu fewn i'r Llywodraeth yn ymwybodol o'u dylanwad nhw, ac o'u cyfrifoldeb nhw tuag at yr iaith Gymraeg yn y ffordd maen nhw yn mynd i arwain yn ein canolfannau cyhoeddus ni yn y dyfodol.