Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Ionawr 2020.
Hoffwn holi'r Gweinidog ymhellach ar hynny, os caf, am unrhyw gynnig yn y dyfodol i gynnal Gemau’r Gymanwlad yma ac a ydych wedi dysgu neu siarad â Llywodraeth yr Alban am y buddion a ddaeth i’r Alban, nid yn unig o ran chwaraeon, ond hefyd y buddion diwylliannol a'r buddion i iechyd y cyhoedd a ddaeth i'r wlad honno ar ôl cynnal Gemau'r Gymanwlad. Yn amlwg, roeddem yn siomedig, ynghyd â miliynau—wel, miliynau yn rhyngwladol—o gefnogwyr chwaraeon pan fethodd y cynlluniau i geisio'u cynnal. Mae'r cynigion ar gyfer 2026 a 2030 wedi'u penderfynu ar yr un pryd, ond a allwch ymrwymo i sicrhau y gwneir gwaith yn awr i baratoi'r ffordd inni allu cynnig am gemau 2034?