Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch. Wel, nid wyf wedi cael cyfarfod diweddar â phobl Gemau'r Gymanwlad, ond byddaf yn ceisio darganfod a ydynt wedi gwneud unrhyw gynnydd wrth geisio cael timau i leoli yma yng Nghymru. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae gennym gryn ddiddordeb mewn bwrw ymlaen ag ef, gan ein bod yn awyddus i sicrhau cymaint o ffocws ag y gallwn ar Gymru yn ystod y cyfnod hwnnw.
Rwy'n ymwybodol fod gan Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft, gysylltiad strategol bellach â thîm Cymru o ran hyrwyddo Cymru, ac maent yn defnyddio masgot yr Urdd fel y dull o hyrwyddo Cymru yn ystod Gemau'r Gymanwlad. Felly, fe af ar drywydd hynny a gweld a ydym wedi gwneud mwy o gynnydd wrth ddenu pobl i leoli yma.