Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Ionawr 2020.
Y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am faterion yn ymwneud â'r economi greadigol. Yr hyn y byddwch yn ei weld, yn fuan ar ôl lansio'r strategaeth ryngwladol, yw y bydd strategaeth Cymru Greadigol yn cael ei lansio, a bydd hwnnw'n gyfle i roi mwy o gig ar yr asgwrn, fel y gofynnoch chi amdano. A bydd hynny'n digwydd ochr yn ochr â'r strategaeth dwristiaeth hefyd, felly mae honno'n cael ei adnewyddu. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ystyried y tair strategaeth gyda'i gilydd fel cyfle i ni weiddi. Ac wrth gwrs, mae His Dark Materials yn enghraifft arall lle mae Cymru bellach wedi gwerthu'r gyfres honno'n rhyngwladol, ac mae cyfle i ni sicrhau hefyd ein bod yn manteisio nid yn unig ar ba mor wych ydym ni'n dechnegol mewn perthynas â'r datblygiadau ffilm hyn, ond hefyd mae'n gyfle i ddangos ychydig o dirwedd Cymru hefyd. Dylai hynny annog mwy o dwristiaeth hefyd, gobeithio.