Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 8 Ionawr 2020.
Weinidog, efallai y cofiwch i mi eich holi ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â sicrhau'r budd mwyaf posibl i Gymru yn sgil Gemau'r Gymanwlad 2022, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham. Bryd hynny, fe gadarnhaoch chi eich bod wedi cyfarfod â threfnwyr y gemau i weld a allai rhai o'r timau sy'n cystadlu gael eu lleoli yma yng Nghymru. O gofio'ch ateb, a allwch ddweud a ydych wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ar hyn i ddenu rhai o'r digwyddiadau chwaraeon eu hunain i gael eu cynnal yng Nghymru, neu a oes posibilrwydd o hyd y bydd hyn yn digwydd? Bydd ein sector lletygarwch yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gennych ar y mater hwn yn fawr.