Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 8 Ionawr 2020.
Bydd y strategaeth ryngwladol yn seiliedig ar set glir o werthoedd fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth ei gwraidd, bydd yn hyrwyddo tair thema, sef creadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg, gyda'r gwerth craidd o hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.