2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthoedd sy'n sail i strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54873
Bydd y strategaeth ryngwladol yn seiliedig ar set glir o werthoedd fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Wrth ei gwraidd, bydd yn hyrwyddo tair thema, sef creadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg, gyda'r gwerth craidd o hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Nodaf eich sylwadau i ginio masnach ryngwladol cyntaf Siambr Fasnach De Cymru cyn y Nadolig. Yn eich araith, fe sonioch chi am y ffocws ar gloddio data a seiberddiogelwch, gan gyhoeddi mai Cymru yw'r clwstwr mwyaf ar gyfer cwmnïau seiber yn y DU. Nawr, mae taer angen swyddi, yn enwedig yn rhannau mwyaf difreintiedig ein gwlad, ac rwy'n cydnabod bod seiberddiogelwch yn sector sy'n tyfu'n gyflym ac y bydd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Ond yr hyn rwy'n ei chael yn anodd derbyn yw bod Llywodraeth Cymru yn ariannu mentrau seiberddiogelwch a gyflawnir gan gwmnïau sy'n ymwneud â'r fasnach arfau. Ystyriwch y ganolfan seiber £20 miliwn rydych wedi'i sefydlu gyda'r gwneuthurwr arfau o Ffrainc, Thales. Mae'r trefniant hwn yn golygu i bob pwrpas fod y Llywodraeth yn fuddsoddwr mewn cwmni sy'n cynhyrchu arfau ar gyfer cyfundrefnau gormesol fel Saudi Arabia. Credir hefyd fod Thales yn cyflenwi cydrannau ar gyfer tanciau Rwsiaidd. A ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol i fuddsoddi mewn cwmnïau nad ydynt yn ymwneud â'r busnes o gynhyrchu arfau a gynlluniwyd i anafu ac i ladd? Sut y mae hynny'n cyd-fynd â pholisïau'r Llywodraeth ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Ac os nad ydych yn cytuno y dylai fod gennym gyfrifoldeb moesegol, a allwch egluro pam i'r Senedd hon?
Wel, nid wyf am gefnu ar ein hymrwymiad i gefnogi'r sector seiber yng Nghymru. Mae'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ynghyd â'r ffaith ein bod yn datblygu'r ganolfan seiber yng Nglynebwy, ardal ddifreintiedig tu hwnt, lle ceir ymrwymiad i helpu i ddatblygu cyfleuster addysg yno, lle cafwyd digwyddiadau i annog menywod, yn arbennig, i ymuno â'r sector seiberddiogelwch. Credaf fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn wirioneddol falch ohono, ac mae perygl, wrth gwrs, a phosibilrwydd fod cysylltiad i'w gael rhwng amddiffyn a meysydd eraill, ond credaf fod yn rhaid i chi ddeall hefyd fod angen seiberddiogelwch ar bob un ohonom. Mae ei angen arnom ar gyfer ein cyfrifiaduron yma. Mae ei angen ar ffatrïoedd. Mae ei angen arnoch i fynd ar awyren. Mae'n rhywbeth sy'n treiddio i bob agwedd o'n cymdeithas, ac os ydych yn meddwl y gallwch wahanu'r ddau beth, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall pwysigrwydd seiberddiogelwch ym mhob agwedd o'n bywydau, bron â bod.
Lywydd, mae fy nghwestiwn ychydig yn llai rhyfelgar. [Chwerthin.] Os caf droi at Susie Ventris-Field, prif weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae hi wedi tynnu sylw at ein cyflawniad dinesig gwych yng Nghymru mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Mae'n dyfynnu enghreifftiau fel y neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, yn cyrraedd ei chanmlwyddiant; yr apêl heddwch a wnaed yn 1924, pan lofnododd 40 y cant o fenywod Cymru ddeiseb i fenywod America yn galw arnynt i lobïo arlywydd America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a gallai hynny fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol iawn; a chysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a Somalia, Uganda, Lesotho a lleoedd eraill; a sefydliadau fel mudiad gwrth apartheid Cymru. Yn amlwg, mae sefydliadau anllywodraethol a'r sector dinesig yn gyffredinol wedi chwarae rhan enfawr yn anffurfiol yn ein strategaeth gysylltiadau rhyngwladol, felly nawr, yn eich strategaeth ffurfiol, sut y byddwch yn cynnwys y sector hanfodol hwn wrth gyflawni eich strategaeth a'i datblygu yn y dyfodol?
Diolch. Wel, rydym wedi cael sgyrsiau hir gyda'r sector, maent yn sicr wedi gwneud llawer i'n helpu i ddatblygu'r strategaeth, a chredaf y dylem fod yn falch o'n cyflawniad yng Nghymru mewn perthynas â hyrwyddo heddwch. Fel y dywedwch, credaf y dylem fod yn wirioneddol falch o neges flynyddol yr Urdd i'r byd ac y dylem fod yn ei dathlu, yn sicr pan fyddant yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw yn 2021.
O ran y pethau eraill rydym yn awyddus i'w datblygu, gŵyl ryngwladol Llangollen—ni ddylem anghofio iddi gael ei sefydlu'n wreiddiol gyda neges o heddwch yn rhan annatod ohoni. Gwn fod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i weld a allwn adfywio hynny, ac rydym wedi bod yn siarad â'r trefnwyr yno i weld a ellir sicrhau bod hynny'n dod yn fwy canolog unwaith eto.
Gwn hefyd fod Mererid Hopwood wedi gwneud cryn gynnydd yn datblygu’r academi heddwch, gan weithio gydag amryw brifysgolion ledled Cymru i weld beth y gellir ei wneud yn y maes hwnnw. Felly, credaf fod yna ddatblygiadau diddorol iawn yma y gallem fod yn adeiladu arnynt o ran y math o negeseuon y byddwn yn eu cyfleu ochr yn ochr â'n strategaeth ryngwladol.