Arian y Loteri

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:04, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch o gadarnhau bod gwariant y loteri ym Merthyr Tudful a Rhymni, fel y gwyddoch, dros £13 miliwn dros gyfnod y gwariant hwnnw ac mae 70 o brosiectau wedi'u cwblhau neu wrthi'n cael eu cyflawni. Ac fe fyddwch yn gwybod, am ein bod wedi ymweld â rhai o'r prosiectau hyn gyda'n gilydd, am y gwaith pwysig a wnaed ac sy'n dal i gael ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, y dyfarnwyd arian iddi ar gyfer prosiect clyweledol ym mis Ionawr 2018. Nawr, o ran parc Cyfarthfa, mae cais prosiect Ailddarganfod Parc Cyfarthfa, a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn dal i fod yn agored i drafodaeth bellach—gallaf gadarnhau hyn—rhwng y cyngor bwrdeistref a'r loteri. Ac rwy'n gobeithio y deuir o hyd i ffordd o gyflawni hyn oherwydd, yn amlwg, mae budd cymunedol yn un o’r meini prawf sy’n dangos effeithiolrwydd gwariant loteri. Byddaf yn parhau i sicrhau, yn fy nhrafodaeth gyda'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru—byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn rheolaidd iawn, ac fe wnaf yn siŵr bod yr agweddau hyn yn cael eu trafod yn llawn yn ein cyfarfod nesaf.