Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Rwy’n gweld gwerth arian y loteri gyda fy llygaid fy hun yn fy etholaeth, yn enwedig pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n fuddiolwyr lleol. Fodd bynnag, rwy'n awyddus i weld pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau mwy fyth o arian i'n cymunedau mwy difreintiedig. Felly, a allwch ddweud wrthyf beth arall y gellid ei wneud trwy eich rôl mewn perthynas â dosbarthu cyllid loteri i helpu i ddiwallu anghenion cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni yn benodol?