Gwariant ar Hybu'r Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:54, 8 Ionawr 2020

Diolch am y rhestr yna. Mi wnaeth y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, ddweud nad oedd cyllideb y Gymraeg yn mynd i gael ei thorri. Allech chi jest, o ran eglurder, felly, i ni, gadarnhau y bydd cynnydd yn unol â chwyddiant yn y gyllideb honno? Fel arall, wrth gwrs, mae yn doriad mewn termau real, onid yw e? Felly, dwi jest eisiau cadarnhad bod yna gynnydd yn unol â chwyddiant, o leiaf hynny, o safbwynt eich cyllideb chi ar gyfer y Gymraeg.

Hefyd, dwi'n deall eich bod chi, y bore yma, wedi awgrymu yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu efallai y byddai'n ofynnol i chi dorri cyllideb Cymraeg i Oedolion er mwyn gallu cyfeirio peth o'r arian yna at liniaru effeithiau Brexit. Allech chi gadarnhau os ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi wir yn ei ystyried, ac efallai esbonio pam targedu Cymraeg i Oedolion yn benodol, a pha elfennau eraill o'ch cyllideb chi y bydd yn cael eu torri am y rheswm hwnnw?