2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gwariant ar hybu'r Gymraeg yn y gyllideb ddrafft? OAQ54886
Diolch yn fawr. Mae'r gyllideb ddrafft 2020-21 yn cynnwys dros £37 miliwn i’r Gymraeg. O hyn, mae tua £13 miliwn yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar weithgareddau hybu. Mae ein partneriaid grant yn chwarae rôl bwysig wrth gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith. Rŷm ni'n falch o allu parhau i gyllido 27 partner a 52 papur bro.
Diolch am y rhestr yna. Mi wnaeth y Gweinidog cyllid, wrth gwrs, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, ddweud nad oedd cyllideb y Gymraeg yn mynd i gael ei thorri. Allech chi jest, o ran eglurder, felly, i ni, gadarnhau y bydd cynnydd yn unol â chwyddiant yn y gyllideb honno? Fel arall, wrth gwrs, mae yn doriad mewn termau real, onid yw e? Felly, dwi jest eisiau cadarnhad bod yna gynnydd yn unol â chwyddiant, o leiaf hynny, o safbwynt eich cyllideb chi ar gyfer y Gymraeg.
Hefyd, dwi'n deall eich bod chi, y bore yma, wedi awgrymu yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu efallai y byddai'n ofynnol i chi dorri cyllideb Cymraeg i Oedolion er mwyn gallu cyfeirio peth o'r arian yna at liniaru effeithiau Brexit. Allech chi gadarnhau os ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi wir yn ei ystyried, ac efallai esbonio pam targedu Cymraeg i Oedolion yn benodol, a pha elfennau eraill o'ch cyllideb chi y bydd yn cael eu torri am y rheswm hwnnw?
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod Cymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ar draws y Llywodraeth, a'r ffaith yw dŷn ni ddim wedi gweld toriadau yn y cyllid i'r Gymraeg. Beth sydd wedi digwydd yw bod peth o'r gwariant a oedd yn y gyllideb ar gyfer y llinellau addysg wedi symud i linell arall, a dyna pam, efallai, roedd yna rywfaint o ddryswch ynglŷn ag os oedd toriad wedi bod.
Rŷm ni wedi dod o hyd i £50,000 ychwanegol i dalu am gostau staff Comisiynydd y Gymraeg, ac rŷm ni hefyd wedi rhoi arian cyfalaf o £0.38 miliwn i'r comisiynydd fel ei fod e'n gallu cael system gyfrifiadurol newydd. Beth rŷm ni'n ei wneud—o ran edrych ar y gyllideb yn gyffredinol, un o'r pethau y gwnes i oedd gofyn i'r bobl sydd yn fy helpu i, i sicrhau ein bod ni ar y trywydd cywir, i edrych ar y cyfeiriad ac ar a ydym ni'n gwneud y pethau iawn o ran cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Mi edrychem ni—. Beth oedd yn amlwg oedd ein bod ni'n gwario lot fwy na hanner y gyllideb sydd gen i ar hyfforddi Cymraeg i Oedolion. Felly, os ŷm ni'n gwneud hynny, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n iawn a sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Felly, i fi, beth sy'n bwysig yw ein bod ni yn gyson yn edrych ar a ydym ni'n gwario yn y llefydd cywir.
Mae'n rhaid i fi ddweud yn hollol glir fy mod i'n falch iawn gyda'r gwaith y mae'r ganolfan dysgu yn ei wneud, ac mae tua 12,000 o bobl yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond rŷm ni yn rhoi tua £13 miliwn i'r ganolfan. Felly, mae hi'n gyfran eithaf mawr o'm cyllideb i. Dyna pam dwi eisiau jest craffu yn fwy manwl ar sut mae hynny'n cael ei wario.
Efallai y gallaf i drio ymateb i'r cwestiwn yna, te. Er mwyn osgoi dyfodol o basio'r baich ar y pwnc yma, allech chi egluro'r newidiadau i gyllideb comisiynydd yr iaith Gymraeg y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w gyfrifoldebau hyrwyddo newydd? Pa arian fydd yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am ei chyfrifoldebau hyrwyddo? Achos hoffwn i gadw llygad ar hyn ymlaen llaw.
Allech chi hefyd ddweud a fydd cynnydd mewn cyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yn cynnwys arian ar gyfer gwella eu cydymffurfiad â safonau, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldebau am hyrwyddo'r Gymraeg, neu a fyddant yn gallu cael gafael ar arian o brif grŵp gwariant y Gymraeg i'w wneud hynny?
Wel, rŷm ni wedi sicrhau ein bod ni'n cydweithredu lot yn well nawr gyda'r comisiynydd iaith. Felly, mae gyda ni memorandwm o ddealltwriaeth ynglŷn â phwy sy'n gwneud beth fel ein bod ni ddim yn dyblygu'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth a'r gwaith mae e'n ei wneud fel comisiynydd. Dwi yn meddwl bod arbedion yn gallu cael eu gwneud, felly, yn y maes yna gan ein bod ni ddim, wedyn, yn dyblygu.
O ran beth sy'n digwydd o ran iechyd, un o'r pethau rŷm ni wedi bod yn ei wneud yw helpu pobl i gael hyfforddi a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gyllideb yna ar hyn o bryd yn dod oddi wrthym ni ar gyfer iechyd. Roeddwn ni'n gobeithio yn y pen draw y bydd yr adran ei hunan yn cymryd y cyfrifoldeb dros hyfforddi pobl trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r un peth yn wir hefyd yn ymwneud â hyfforddi athrawon i addysgu pobl ifanc, er enghraifft. Felly, ar hyn o bryd, mae hwnna'n dod o dan y ganolfan dysgu genedlaethol, a ni sy'n ariannu hwnna; gobeithio, yn y tymor hir, bydd hwnna'n cael ei gymryd i mewn i'r adrannau eu hunain.