Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 8 Ionawr 2020.
Efallai y gallaf i drio ymateb i'r cwestiwn yna, te. Er mwyn osgoi dyfodol o basio'r baich ar y pwnc yma, allech chi egluro'r newidiadau i gyllideb comisiynydd yr iaith Gymraeg y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'w gyfrifoldebau hyrwyddo newydd? Pa arian fydd yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru am ei chyfrifoldebau hyrwyddo? Achos hoffwn i gadw llygad ar hyn ymlaen llaw.
Allech chi hefyd ddweud a fydd cynnydd mewn cyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd yn cynnwys arian ar gyfer gwella eu cydymffurfiad â safonau, gan gynnwys unrhyw gyfrifoldebau am hyrwyddo'r Gymraeg, neu a fyddant yn gallu cael gafael ar arian o brif grŵp gwariant y Gymraeg i'w wneud hynny?