Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 8 Ionawr 2020.
Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt teg am y realiti o fod eisiau recriwtio staff a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref a phreswyl, ac rydym yn dibynnu ar amrywiaeth o bobl o'r tu allan i'r DU i wneud hynny. Felly, mae unrhyw rwystrau i recriwtio'r bobl hynny, sy'n aml o dan gap mewnfudo arfaethedig y Llywodraeth, yn broblem wirioneddol i bawb ohonom ym mhob un o wledydd y DU. Pe baem yn cael y sgwrs hon yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, byddech yn gweld darparwyr ac aelodau etholedig yn mynegi'r un pryderon yn union am yr effaith ymarferol ar wasanaethau iechyd a gofal.
O ran yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn y gallwn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau i Joyce Watson y bydd pobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau gan y gwasanaeth iechyd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cynnar yn fuan i'r llawdriniaeth honno gael ei haildrefnu. Nid yw'r llawdriniaethau wedi'u canslo a'u symud i waelod y rhestr. Mae'n rhan o'r hyn a wnawn pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dweud bod angen iddo ohirio llawdriniaeth; byddant yn cael cynnig dyddiad newydd a buan yn awtomatig. Ac wrth gwrs, rwyf am dynnu sylw, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud, at y ffaith ei bod hi'n ddrwg iawn gennyf ac rwy'n deall yr effaith ar unigolion sydd wedi bod yn edrych ymlaen, yn aml gyda rhywfaint o bryder, at lawdriniaeth, a'i chael wedi'i gohirio wedyn. Nid yw honno'n sefyllfa bleserus i fod ynddi, ac eto gwyddom yn wrthrychol hefyd fod y bobl sy'n cael gofal brys ac sy'n cael llawdriniaeth ganser—pe na baem yn blaenoriaethu'r bobl hynny, byddem yn iawn i gael ein beirniadu am beidio â gwneud hynny ar draws y system.
O ran yr heriau a'r ateb posibl y mae Phil Banfield wedi'i awgrymu—dywedodd ei fod yn ateb posibl—mae mwy o welyau yn aml yn ateb deniadol. Mae gennym gapasiti ymchwydd, felly, fel y dywedais yn gynharach, ceir 400 o welyau ychwanegol ar draws y system iechyd a gofal—gwelyau neu'r hyn sy'n cyfateb i welyau. Os ydym am gynyddu capasiti'n barhaol, yr her yw bod angen inni ddeall i ba ddiben, sut rydym yn staffio hynny, fel bod gennym staff parhaol i allu gwneud hynny, ac eto, mewn gwirionedd, pan fydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn siarad am yr hyn y maent am ei weld i ryddhau'r hyn y maent yn cyfeirio ato fel bloc gadael, nid sôn am fwy o feddygon ymgynghorol yn unig a wnânt—ac mae'n nodweddiadol fod pawb yn gofyn am fwy o'u haelodau eu hunain—ond maent yn dweud eu bod am weld buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn y system gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod yn cydnabod nad problem wrth ddrws blaen y system acíwt yn ein hysbytai yn unig yw hon, mae'n her sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cadw gartref yn ddiogel, ond hefyd o ran gallu mynd i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal a chymorth. Byddwch wedi gweld yn y gyllideb ddrafft fod y gyllideb iechyd eto eleni wedi rhoi swm bwriadol o arian tuag at ofal cymdeithasol. Rwyf wedi cynyddu'r swm hwnnw o arian o fewn y gyllideb. Mae hefyd yn ymwneud â pham y rhoddwn arian i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n ei gwneud yn ofynnol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio â phartneriaid eraill, a dyna yw'r newid i'r system sydd angen inni ei weld yn parhau'n gyflym er mwyn ceisio sicrhau y gallwn ymdrin â'r problemau hyn mor effeithiol ac mor gyflym â phosibl, oherwydd nid ydynt yn mynd i ddiflannu.