Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ganslo llawdriniaethau cleifion mewnol ddydd Llun 6 Ionawr 2020 yn ysbytai Bronglais, Glangwili, ysbyty'r Tywysog Philip a Llwynhelyg? 375

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:34, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe ddechreuaf trwy ailadrodd fy niolch, ynghyd â diolch y Prif Weinidog ddoe, i'n staff ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyfnod o bwysau gwirioneddol eithriadol. Mae pob gaeaf yn creu anawsterau, ond gwelsom bwysau eithriadol ar draws ein system ar ddiwedd cyfnod y Nadolig ac ar ddechrau mis Ionawr. Heb eu hymroddiad, ni fyddem yn gallu darparu’r lefel o ofal sy'n dal i gael ei darparu ledled Cymru. 

Roedd y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau cleifion mewnol yn Hywel Dda yn benderfyniad gweithredol a chlinigol a wnaed gan y bwrdd iechyd i sicrhau na châi diogelwch cleifion mo'i beryglu. Mae fy swyddogion wedi bod yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn gweithredu'r holl gamau angenrheidiol i'w galluogi i isgyfeirio mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. 

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:35, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â'i sylwadau am y gwaith rhagorol y mae'r staff yn ei wneud o dan amgylchiadau anodd iawn. Ond tybed sut y byddai'n ymateb i alwad y Coleg Nyrsio Brenhinol ddoe i ailedrych ar faint y pwysau hyn. Tybed sut y byddai'n ymateb i Dr Philip Banfield, BMA Cymru, sy'n dweud—ac rwy'n dyfynnu — eu bod yn poeni o ddifrif am effaith llwyth gwaith a phwysau ar weithlu a staff y GIG ar hyn o bryd. Mae'n mynd rhagddo i ddweud bod gwir berygl y caiff bywydau eu colli'n ddiangen.

Hoffwn wybod hefyd beth fyddai gan y Gweinidog i'w ddweud wrth fy etholwyr, ac etholwyr Aelodau eraill yma, sydd wedi cael eu llawdriniaethau wedi'u gohirio. Gwyddom—a dylwn fod yn glir, Lywydd: nid wyf yn beirniadu'r penderfyniad y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud; os nad yw'r gwasanaethau'n ddiogel, nid oedd dewis ganddynt. Ond tybed a hoffai'r Gweinidog ymuno â mi i fynegi ei ofid i gleifion fod eu llawdriniaethau—gyda rhai ohonynt wedi bod yn aros amdanynt ers amser maith, a rhai ohonynt mewn poen difrifol iawn—wedi gorfod cael eu gohirio. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi gwybod i ni beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oherwydd fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi gohirio rhai llawdriniaethau a gynlluniwyd heddiw. Cafodd ei awgrymu i mi hefyd nad oes gan Betsi Cadwaladr gynllun y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf. A tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym a yw hynny'n wir ai peidio, ac a ydynt, mewn gwirionedd, wedi cael eu cyfran o'r adnoddau ychwanegol y mae wedi'u rhoi i mewn.

Sonia'r Gweinidog am bwysau eithriadol, a hoffwn ddweud wrth y Gweinidog unwaith eto fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, fel y mae norofeirws, fel y mae'r ffliw. Mae'r pethau hyn yn hollol ragweladwy. Wrth gael ei holi am y materion hyn ddoe, disgrifiodd y Prif Weinidog y trefniadau a oedd ar waith gyda'r bwrdd iechyd fel rhai 'gwydn'. Wel, hoffwn awgrymu ei fod yn dod i ardal bwrdd iechyd Hywel Dda i esbonio hynny i fy etholwyr, oherwydd nid yw'n edrych fel set o drefniadau gwydn neu dderbyniol i mi. Ac yn bwysicaf oll efallai, Lywydd, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi inni fod y math o ddull pob-system y mae'r BMA yn gofyn amdano—? Mae angen inni weld cynnydd ar frys yn nifer y gwelyau. Yn y tymor hwy, mae'r neges yn aros yr un fath—rhaid i ni gynyddu lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd ac mewn cymunedau. Tybed beth y gall ei wneud i dawelu ein meddyliau na fyddwn yn cael y sgwrs hon yn y Siambr hon ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Ac yn bwysicach, beth y gall ei wneud i sicrhau'r staff rheng flaen y mae'n siarad mor gynnes amdanynt, a chleifion, na fyddant yn y sefyllfa hon?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:37, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ystod eang o gwestiynau yn y fan honno, Lywydd; fe geisiaf ymdrin â'r pwyntiau fel y cawsant eu rhoi. Y man cychwyn yw ein bod yn gwybod, wrth gwrs, fod pwysau ychwanegol yn dod dros y gaeaf, ac mai dechrau Ionawr yw'r amser anoddaf oll, gyda'r pwysau sy'n deillio o ddiwedd un cyfnod gŵyl, pobl sydd wedi gohirio eu gofal, pobl sydd wedi mynd adref ynghanol hynny, ac angen triniaeth bellach wedyn. Nid yn ein hysbytai'n unig y mae'n digwydd chwaith—mae hon yn her wirioneddol mewn gofal sylfaenol hefyd. Ac mae'r hyn a welwn yn Hywel Dda, gyda chanslo gweithgaredd cleifion mewnol, yn symptom o'r pwysau ar y system gyfan. Ac o ran disgrifio'r pwysau ar y system gyfan, adroddwyd bod naw o'r 11 mis diwethaf yn 2019 yn rhai lle cafwyd mwy o weithgarwch nag a welwyd erioed o'r blaen—naw o'r 11 mis a gofnodwyd. Dyna raddfa'r galw ar ein system. Gyda phob parch, y gaeaf diwethaf, ni fyddai neb yn yr ystafell hon wedi rhagweld gweithgarwch o'r fath.

Yr hyn sy'n cael ei wneud yw cynllun ar gyfer y gaeaf ym mhob bwrdd iechyd. Nid oes gennyf syniad o ble y daeth y syniad na cheir unrhyw gynllun ar gyfer Betsi Cadwaladr, ac mae hi braidd yn anodd i mi ymdrin â ffuglen a dychymyg. Ond yn sicr, ceir cynllun ar gyfer y gaeaf ar draws gogledd Cymru—cafodd ei gytuno, nid yn unig o fewn y gwasanaeth iechyd, ond materion uniongyrchol o dan reolaeth y gwasanaeth iechyd, a'u cyfran, y mae pob bwrdd iechyd, gan gynnwys gogledd Cymru, wedi'i dderbyn o'r £30 miliwn o arian ar gyfer heriau'r gaeaf, ond y cynllun ar y cyd a gyflawnir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol ar gyfer beth i'w wneud ar draws y system gyfan. Mae hynny'n cynnwys mwy o welyau—a chyhoeddais cyn y toriad fod hynny'n golygu oddeutu 400 o wlâu ychwanegol ar draws y system. Dyna faint ysbyty cyffredinol dosbarth mawr o gapasiti ychwanegol sydd wedi'i roi i mewn i'r system. Mae hynny'n cynnwys capasiti ychwanegol yn Hywel Dda.

O ran y sgyrsiau sy'n digwydd gyda staff, gwnaeth Cymdeithas Feddygol Prydain eu sylwadau ar y ffordd i uwchgynhadledd glinigol y mae fy swyddogion yn ei chynnal heddiw—sy'n cynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol a rhanddeiliaid eraill—i archwilio realiti ein sefyllfa, yr ymateb, a beth arall sy'n bosibl ar lefel genedlaethol. Ac o ran lle Hywel Dda yn hynny, maent mewn sefyllfa yn awr lle maent yn gweld mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar ryddhau cleifion i o leiaf dri o'r pedwar safle, oherwydd y gwaith y maent yn ei wneud ac oherwydd gweithredu cynllun y gaeaf, ond yn fwy na hynny, oherwydd y berthynas sy'n bodoli rhwng y bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol. A heb fod y berthynas honno mewn lle llawer gwell nag mewn gaeafau a fu, byddem yn annhebygol o weld y cleifion hynny'n cael eu rhyddhau.

Mae'n broblem system gyfan ac mae'n ymateb system gyfan yn awr, ac mae'r diwygio parhaus rwyf wedi siarad amdano'n rheolaidd ac sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod gennym gapasiti ychwanegol, a gofal cartref a phreswyl, sy'n cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu hynny. Ac mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn dewis defnyddio'r system wrth inni barhau i weld mwy o alw'n cael ei yrru i mewn i'n system. Mae angen inni edrych eto ar sut rydym yn ei ddiwallu ac yn ei gynllunio. Ac o gofio'r holl uchafsymiau ac isafsymiau gweithgarwch, mae angen inni gydnabod nad ydym yn debygol o weld lleihad sylweddol yn y galw. Mae'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â'r galw hwnnw i wneud yn siŵr nad yw diogelwch cleifion yn cael ei beryglu, a dyna'n union pam mai dyna oedd y peth iawn i Hywel Dda ei wneud, gyda'r holl wahanol risgiau cysylltiedig, i wneud yn siŵr eu bod yn blaenoriaethu'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:41, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Waw, ble mae dechrau? Soniwn am y gair 'diogelwch', sydd wedi cael ei ddefnyddio unwaith neu ddwy, ond gadewch inni fod yn glir, y gwelyau yn Hywel Dda—mae'r llawdriniaethau wedi'u canslo oherwydd bod y ward orthopedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip wedi'i chau i driniaeth orthopedig, i lawdriniaeth ddewisol, ac maent yn rhoi achosion meddygol i mewn yno. Mae hynny'n cynnwys nifer enfawr o broblemau gyda llawdriniaeth ddewisol. Ceir diffyg eglurder gan reolwyr Hywel Dda y siaradais â hwy heddiw ynglŷn â pham y canslwyd llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Glangwili, ond maent yn eglur iawn ynglŷn â pham y cawsant eu canslo yn Ysbyty'r Tywysog Philip. Mae wardiau llawdriniaeth ddewisol y Tywysog Philip yn cael eu defnyddio ar gyfer achosion meddygol am eu bod yn dweud eu bod wedi cael mwy o gynnydd mewn achosion meddygol.

Nawr, pan siaradais â'r prif weithredwr yn gynharach, a thrafod hyn gydag ef, un o'r pethau a deimlais yn gryf iawn oedd fy mod yn derbyn bod cynlluniau pwysau'r gaeaf ar waith gyda phob un o'r byrddau iechyd, ond ni chredaf eu bod yn ddigon dychmygus nac yn adeiladu digon o gapasiti wrth gefn. Gwyddom beth yw'r tueddiadau; gwyddom beth yw'r tueddiadau trwy gydol y flwyddyn. Weinidog, fe wnaethoch ofyn iddynt gyflwyno cynlluniau pwysau'r gaeaf. Fe roesoch chi £30 miliwn ychwanegol. Ond wrth wrando, ac fe wnes i wrando'n ofalus, mae'n ymddangos bod yna 'nid wyf yn gwybod beth yw'r pwysau' go iawn o ran a oeddent yn teimlo nad oedd ganddynt gyllid i'w wneud, neu a oedd yn fater o 'beth am inni gynhyrchu'r cynllun gaeaf a gawsom y llynedd. Fe chwythwn y llwch oddi arno, ei gynyddu ychydig a'i ail-lunio'. Ond mae'n fater—llawer iawn ohono—o ddiffyg cynllunio wrth gefn, y braster ychwanegol yn y system, lle rydym wedi gorfod cau wardiau triniaethau dewisol cyfan.

Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn deall gennych beth y gellir ei wneud i sicrhau bod y data'n cael ei ddadansoddi go iawn. Oherwydd, unwaith eto, pan siaradais â'r prif weithredwr, dywedodd y byddent yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd—byddent yn edrych i weld pam yr achoswyd y sefyllfa hon, ond fe wnaeth rhywun y penderfyniad i atal y llawdriniaethau ddydd Llun a dydd Mawrth ac eto heddiw. Felly, mae rhywun eisoes yn gwybod y data hwnnw. Felly, ni allaf ddeall pam nad yw'r data ar gael ar hyn o bryd o ran beth yw'r rheswm sylfaenol.

Tybed a allech geisio annog y bwrdd iechyd, a Betsi Cadwaladr yn awr, i sicrhau bod rhaglen gref iawn yn cael ei sefydlu i ddal i fyny â llawdriniaethau dewisol. A gadewch i ni fod yn glir, gyfeillion: nid sôn am gluniau a phengliniau yn unig a wnawn; yn Hywel Dda, mae rhestr aros o 19.4 mis ar gyfer hynny eisoes. Felly, dychmygwch eich bod yn meddwl eich bod yn mynd i gael eich pengliniau wedi'u gwneud, a pwff, mae'n rhaid i chi aros eto. Ond mae'n cynnwys llawdriniaeth torgest fentrigl, llawdriniaeth fariatrig, llawdriniaeth wrth-adlifo—mae pob math o lawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo gyda rhestri aros o hyd at 15 mis. Felly, rydym yn mynd i wneud ein rhestrau aros yn hirach. Felly, Weinidog, a allech edrych ar yr hyn y gellid ei wneud yn y byrddau iechyd lle maent wedi gorfod canslo llawdriniaethau er mwyn iddynt allu cyflymu rhaglen dal i fyny fel y caiff ein hamseroedd aros gyfle i wella yn hytrach na'u hymestyn?

Yn olaf, rwy'n credu mai'r eliffant yn yr ystafell yw bod angen i wasanaethau cymdeithasol fod ar alwad saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn, fel ein gwasanaethau iechyd. Ar alwad o ran gallu lleddfu oedi wrth drosglwyddo gofal, oherwydd, eto, wrth siarad â'r bwrdd iechyd, maent yn dweud na allant gael pobl allan o'r ysbyty, oherwydd er bod ganddynt berthynas dda â gwasanaethau cymdeithasol, yn ystod cyfnodau fel y Nadolig a'r flwyddyn newydd a gwyliau banc, mae pobl yn cael gwyliau wrth gwrs, ac yn briodol felly. Nid oes neb yn dweud, 'Mae'n rhaid i chi weithio drwy'r amser', ond mae'n rhaid inni gael system ar waith lle ceir staff wrth gefn fel bod y gwaith arferol o ryddhau pobl, a fyddai yn ei dro yn rhyddhau gwelyau i alluogi pobl sy'n dod i mewn drwy'r drws blaen i fynd i'r ysbyty, yn gallu parhau'n ddiymdroi. Oherwydd, unwaith eto, yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw mai rhan o'r broblem yw na allant gael pobl oddi yno. Mae angen i hynny fod yn rhan o'r cynllunio ar gyfer y gaeaf lle ceir ychydig mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ar ddyletswydd i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau. Hoffwn glywed eich barn ar hynny.

Ac yn olaf, hoffwn ychwanegu fy mod yn credu bod y staff wedi gwneud gwaith gwych a hoffwn ddweud bod y prif weithredwr yn hollol glir, yn fy sgwrs gydag ef yn gynharach, fod staff wedi dod i mewn, eu bod wedi dod i mewn ar eu dyddiau gwyliau, maent wedi gweithio goramser, maent wedi cyfyngu ar eu gwyliau er mwyn ceisio helpu gyda hyn. Felly, nid yw'n ymwneud â'r ymdrech a'r ymrwymiad a'r ymroddiad rheng flaen, mae'n ymwneud â sicrhau bod yr ochr gynllunio a'r ochr gynllunio wrth gefn yn well ac yn fwy ystwyth er mwyn atal hyn rhag digwydd y flwyddyn nesaf.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:46, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n deall pam y mae Angela wedi gofyn ystod o gwestiynau, ond rwy'n credu bod nifer o'r casgliadau y daeth iddynt yn hynod annheg a chredaf y dylai edrych arnynt eto. Rwy'n hapus iawn i fynd drwy pam rwy'n credu hynny. Mae'n hawdd iawn dweud bod hyn oll yn ymwneud â chynllunio ac ag anallu i gyflawni ac nad yw'r cynlluniau'n ddigon dychmygus. Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n annheg iawn, oherwydd, os edrychwch ar y cynlluniau ar gyfer y gaeaf hwn, maent yn wahanol, maent wedi dysgu gwersi o'r gaeaf diwethaf. Dechreuodd y cynllunio ar gyfer y gaeaf yn ystod y gwanwyn y llynedd er mwyn dysgu'r gwersi—beth ddigwyddodd y gaeaf diwethaf, beth oedd yn llwyddiannus. Dyna pam ein bod wedi cynyddu capasiti mewn nifer o feysydd y gaeaf hwn. Dyna pam rydym wedi cyflawni ymrwymiadau'r Groes Goch, dyna pam y mae'r cynllun Gofal a Thrwsio wedi parhau. Dyma pam hefyd eu bod wedi cynnwys capasiti ychwanegol yn fwriadol gyda phartneriaid ar draws awdurdodau lleol. Y peth hawsaf i'w ddweud yw, 'Gallwch fod yn fwy dychmygus a gallech wneud mwy'. Mewn gwirionedd, ni allwch ond gwneud nifer gyfyngedig o bethau â rhestr gyfyngedig o adnoddau, ac nid dim ond arian yw hynny, ond pobl.

Ac mewn gwirionedd, o ran eich sylwadau am ofal cymdeithasol, mae gofal cymdeithasol eisoes yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Ac mewn gwirionedd, nid y cyfnod rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd yw'r cyfnod problemus fel y cyfryw, oherwydd rydym eisoes yn gweld ysbytai'n gweld pobl yn gadael dros y cyfnod hwnnw, ac mae'r her ar y pwynt hwn yn ystod y pythefnos nesaf. Ac mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud mewn gwirionedd â chapasiti o fewn y system gofal cymdeithasol ehangach, mewn gofal cartref a gofal preswyl. Yng ngorllewin Cymru yn arbennig, ond mewn rhannau eraill o'r wlad—nid Cymru'n unig ond ar draws gweddill y DU hefyd—mae breuder rhannau o ofal cartref a phreswyl yn broblem wirioneddol ac yn ffactor gyfyngol go iawn o ran gallu cael pobl allan o'r ysbyty ac i'w cartref eu hunain, boed y cartref hwnnw'n stryd mewn cymuned rydych chi neu fi yn byw ynddi neu'n gyfleuster gofal preswyl. Felly, ceir her wirioneddol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny a dyna pam y mae diwygio mwy hirdymor mor bwysig ar gyfer y dyfodol, oherwydd i ddychwelyd at y flwyddyn nesaf, mae hynny'n ymwneud â pha mor llwyddiannus y gallwn fod wrth gomisiynu capasiti sy'n gynaliadwy ac o'r ansawdd y byddai pawb ohonom yn ei ddymuno i'n teuluoedd ein hunain pan fyddwn yn darparu ar gyfer y cyhoedd yn ehangach.

Fodd bynnag, dyna pam rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol fod y bwrdd iechyd wedi cyhoeddi eu bod am wneud archwiliad dwfn gwrthrychol o'r penderfyniadau a wneir dros y penwythnos hwn ac yn ystod y dyddiau diwethaf. Nid yw hynny'n golygu bod y penderfyniadau hynny'n anghywir o ran y wybodaeth sydd ar gael, ond mae'n ymwneud â bod eisiau dysgu yn awr a pheidio ag aros i adolygu hyn ymhen chwe mis, ond dysgu, gydag ychydig bellter, yn wrthrychol, sut y cafodd y penderfyniadau eu gwneud, a oes pethau y gallem fod wedi'u gwneud yn wahanol, felly nid yw'n golygu dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ar gyfer yr wythnos nesaf a'r mis nesaf. A dyna'n sicr yw'r peth iawn i'w wneud. Yn wir, pe na baent yn gwneud hynny, byddai beirniadaeth yn y Siambr hon am beidio â chyflawni'r broses honno ar bwynt agos i'r digwyddiadau mewn amser.  

Rwy'n credu bod arweinwyr y bwrdd iechyd, ynghyd â staff rheng flaen, yn gwneud y peth iawn. Ac mae'n gyfnod eithriadol o amser gydag ymateb eithriadol gan ein staff. Edrychaf ymlaen at weld isgyfeirio'n digwydd a byddwch chi ac eraill yn gallu edrych ar eich etholaeth a gweld bod llawdriniaeth ddewisol wedi dychwelyd i lefelau mwy arferol. Ond nid wyf yn mynd i feirniadu'r bwrdd iechyd am gamgymeriadau lle nad wyf yn credu ei bod yn deg beirniadu, a dyna pam nad wyf yn cytuno â'r ystod o gasgliadau y daeth Angela Burns iddynt.  

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:49, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Y peth cyntaf rwyf am ei wneud yw diolch i'r holl staff sy'n gweithio'n anhygoel o galed i roi cymorth ymroddedig i'r rhai sydd ei angen a chydnabod eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddiwallu anghenion eu cleifion. Rwyf am ddechrau gyda hynny oherwydd teimlaf fod hynny'n bwysig ac yn gysur iddynt ein bod yn cydnabod hynny. Darllenais yr e-bost gan Dr Philip Banfield o BMA Cymru a'r pryderon a fynegwyd ganddo, oherwydd rwy'n tybio ei fod wedi ei anfon at nifer ohonom. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r trallod i gleifion sydd wedi bod yn aros am lawdriniaeth, beth bynnag fo'r llawdriniaeth honno, a bod pobl yn mynd yn bryderus ac yna'i bod yn cael ei chanslo. Felly, rwyf am gofnodi fy mod yn cydnabod hynny; rwy'n siŵr bod pawb yn yr ystafell hon yn cydnabod hynny. Felly, hoffwn geisio symud hyn ymlaen yn awr, a chafwyd ambell awgrym yn natganiad Dr Phil Banfield. Ac mae'n galw am angen brys i ehangu nifer y gwelyau sydd ar gael fel un ateb posibl i symud pobl drwy'r system. Nid wyf yn gwybod beth yw eich safbwyntiau ar hynny, ond hoffwn eu clywed.  

Gwn eich bod wedi darparu capasiti ychwanegol yn Hywel Dda, fel y gwnaethoch ledled Cymru, ac unwaith eto mae hynny'n newyddion i'w groesawu. Ond rwy'n credu mai'r prif beth—a lle rwy'n cytuno ag Angela—yw na ddylai'r bobl sydd heb gael llawdriniaeth y tro hwn gael eu gwthio i waelod y rhestr ond eu bod yn aros lle'r oeddent, ar frig y rhestr. Ac os oes unrhyw ffordd o gwbl y gallwn ni yng Nghymru, ble bynnag y bo, gyflawni'r llawdriniaethau hyn yn gynt neu o leiaf gynnig y posibilrwydd hwnnw i'r unigolion fel eu bod yn gweld diwedd ar yr hyn y maent yn gobeithio ei ddatrys yn eu pecyn gofal a'u llawdriniaeth—.  

Felly, dyna'r cwestiynau yr hoffwn eu gwybod ac rwy'n deall hefyd y bydd cyfarfod ar y cyd rhyngoch chi a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar symud ymlaen yn gyflymach ac yn fwy gofalus ar yr her gofal cartref y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohoni ac sydd wedi'i gwaethygu wrth i lawer o'r unigolion sy'n gweithio yn y sector hwnnw deimlo nad oes croeso iddynt fel ymateb i Brexit. Felly, rydym yn fwy prin o staff yn awr nag o'r blaen hyd yn oed.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:53, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Joyce Watson yn gwneud pwynt teg am y realiti o fod eisiau recriwtio staff a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref a phreswyl, ac rydym yn dibynnu ar amrywiaeth o bobl o'r tu allan i'r DU i wneud hynny. Felly, mae unrhyw rwystrau i recriwtio'r bobl hynny, sy'n aml o dan gap mewnfudo arfaethedig y Llywodraeth, yn broblem wirioneddol i bawb ohonom ym mhob un o wledydd y DU. Pe baem yn cael y sgwrs hon yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, byddech yn gweld darparwyr ac aelodau etholedig yn mynegi'r un pryderon yn union am yr effaith ymarferol ar wasanaethau iechyd a gofal.  

O ran yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn y gallwn ei wneud, rwy'n falch o gadarnhau i Joyce Watson y bydd pobl y gohiriwyd eu llawdriniaethau gan y gwasanaeth iechyd yn cael eu hysbysu o ddyddiad cynnar yn fuan i'r llawdriniaeth honno gael ei haildrefnu. Nid yw'r llawdriniaethau wedi'u canslo a'u symud i waelod y rhestr. Mae'n rhan o'r hyn a wnawn pan fydd y gwasanaeth iechyd yn dweud bod angen iddo ohirio llawdriniaeth; byddant yn cael cynnig dyddiad newydd a buan yn awtomatig. Ac wrth gwrs, rwyf am dynnu sylw, fel y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud, at y ffaith ei bod hi'n ddrwg iawn gennyf ac rwy'n deall yr effaith ar unigolion sydd wedi bod yn edrych ymlaen, yn aml gyda rhywfaint o bryder, at lawdriniaeth, a'i chael wedi'i gohirio wedyn. Nid yw honno'n sefyllfa bleserus i fod ynddi, ac eto gwyddom yn wrthrychol hefyd fod y bobl sy'n cael gofal brys ac sy'n cael llawdriniaeth ganser—pe na baem yn blaenoriaethu'r bobl hynny, byddem yn iawn i gael ein beirniadu am beidio â gwneud hynny ar draws y system.  

O ran yr heriau a'r ateb posibl y mae Phil Banfield wedi'i awgrymu—dywedodd ei fod yn ateb posibl—mae mwy o welyau yn aml yn ateb deniadol. Mae gennym gapasiti ymchwydd, felly, fel y dywedais yn gynharach, ceir 400 o welyau ychwanegol ar draws y system iechyd a gofal—gwelyau neu'r hyn sy'n cyfateb i welyau. Os ydym am gynyddu capasiti'n barhaol, yr her yw bod angen inni ddeall i ba ddiben, sut rydym yn staffio hynny, fel bod gennym staff parhaol i allu gwneud hynny, ac eto, mewn gwirionedd, pan fydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn siarad am yr hyn y maent am ei weld i ryddhau'r hyn y maent yn cyfeirio ato fel bloc gadael, nid sôn am fwy o feddygon ymgynghorol yn unig a wnânt—ac mae'n nodweddiadol fod pawb yn gofyn am fwy o'u haelodau eu hunain—ond maent yn dweud eu bod am weld buddsoddi mewn gofal cymdeithasol ac yn y system gofal cymdeithasol, oherwydd eu bod yn cydnabod nad problem wrth ddrws blaen y system acíwt yn ein hysbytai yn unig yw hon, mae'n her sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cadw gartref yn ddiogel, ond hefyd o ran gallu mynd i'w cartrefi eu hunain gyda phecyn gofal a chymorth. Byddwch wedi gweld yn y gyllideb ddrafft fod y gyllideb iechyd eto eleni wedi rhoi swm bwriadol o arian tuag at ofal cymdeithasol. Rwyf wedi cynyddu'r swm hwnnw o arian o fewn y gyllideb. Mae hefyd yn ymwneud â pham y rhoddwn arian i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n ei gwneud yn ofynnol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio â phartneriaid eraill, a dyna yw'r newid i'r system sydd angen inni ei weld yn parhau'n gyflym er mwyn ceisio sicrhau y gallwn ymdrin â'r problemau hyn mor effeithiol ac mor gyflym â phosibl, oherwydd nid ydynt yn mynd i ddiflannu.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:55, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Cawn y sesiynau ymchwiliol hyn mor aml oherwydd pwysau eithriadol ar y gwasanaeth iechyd, ond mae hynny'n dangos bod y pwysau eithriadol wedi dod yn drefn arferol mewn rhai ffyrdd a dyna'r broblem systemig sydd gennym yma. Mae llawdriniaethau wedi cael eu canslo yn awr am y trydydd diwrnod yn olynol yn Hywel Dda a gellid maddau i bobl, felly, am feddwl y dylem newid enw'r bwrdd iechyd i Hywel Ddim Mor Dda.

Nid wyf yn meddwl bod unrhyw un—yn sicr, nid wyf fi—yn cwestiynu ymrwymiad y staff a'r rheolwyr yn Hywel Dda i wneud pethau'n well, ac maent wedi bod yn gweithio'n galed iawn ers y newid i'r drefn er mwyn gwella pethau ac wedi cael llawer o lwyddiant yn fy marn i. Yn amlwg, mae ffordd bell i fynd o hyd, ond mae yna broblem systemig, nid yn unig yn Hywel Dda. Dangosodd ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf fod perfformiad damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai ledled Cymru yn waeth nag erioed am y trydydd mis yn olynol a bod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi methu cyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.

Mae Dr Banfield, sydd wedi cael ei grybwyll sawl gwaith yn y sesiwn hon y prynhawn yma, wedi dweud nad un person sydd ar fai am hyn. Dywedodd ei bod yn broblem gyda'r system. Ac meddai:

Rydym yn clywed adroddiadau am lawdriniaeth ganser yn cael ei chanslo yn awr hefyd drwy wahanol ysbytai yng Nghymru.

Clywaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y cwestiwn gwelyau funud yn ôl, ond unwaith eto, mae Dr Banfield yn gwneud pwynt elfennol yn fy marn i, sef bod gwelyau llawfeddygol yn llawn o gleifion meddygol ac mae hynny'n rhoi'r math anghywir o glaf yn y gwely ysbyty anghywir ar yr adeg anghywir ac mae'n amlwg nad ydynt yn cael y gofal y dylent ei gael.

Nid oes neb yn disgwyl i unrhyw un yn y gwasanaeth iechyd allu proffwydo'n berffaith, a bydd pethau'n mynd o chwith, yn aml am resymau damweiniol na allai neb fod wedi'u rhagweld, felly mae'n rhaid inni fod yn rhesymol ynglŷn â hyn. Ond fel y dywedodd Helen Mary Jones o'r dechrau, rydym yn gwybod bod y gaeaf yn digwydd bob blwyddyn a bod pwysau eithriadol yn debygol o daro, a chlywais y Prif Weinidog yn dweud ddoe, 'Wel, fe wyddem fod hyn yn dod beth bynnag. Dyna pam nad oeddem wedi cynllunio llawdriniaethau ar gyfer yr wythnos diwethaf.' Wel, os felly, does bosibl na allem fod wedi bod ychydig yn fy manwl gywir yn ein rhagfynegiadau o'r math o bwysau a fyddai'n cael eu hychwanegu ar ben yr hyn a oedd yn y system beth bynnag.

Mae'r Gweinidog yn dod yma mor rheolaidd yn awr fel bod ganddo ryw olwg barod i ildio i'w dynged ar ei wyneb wrth ateb y pwyntiau sydd gan bawb ohonom i'w gwneud. A phe bai yn ein lle ni, heb amheuaeth byddai'n eu gwneud yn yr un ffordd â ni. Unwaith eto, nid wyf yn amau ei ymrwymiad i wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru o gwbl, ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth.

Rhaid darparu mwy o arian rywsut yn ogystal â rhyw fath o welliannau ar y lefel micro ym mhob un o'r byrddau iechyd sy'n dioddef o'r mathau hyn o broblemau systemig. Mae Hywel Dda wedi bod mewn sefyllfa anodd, mae wedi bod yn gwneud gwelliannau, ond yn amlwg mae ffordd bell i fynd eto. Gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ei orau i sicrhau bod bwrdd iechyd Hywel Dda yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arno i ymdopi â'r pwysau y mae wedi bod yn eu dioddef.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:59, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym wedi darparu cymorth sylweddol fel Llywodraeth i'r system iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cynnal buddsoddiad sy'n uwch na'r symiau canlyniadol o arian. Felly, o ran cymorth ariannol, mae'r Llywodraeth hon yn bendant wedi—. Ac mae hynny'n wrthrychol ddiymwad: mae ffigurau'r Trysorlys ei hun yn dangos ein bod yn parhau i roi mwy o arian tuag at ein system iechyd ac iechyd a gofal na Lloegr, ac rydym wedi cynnal y buddsoddiad hwnnw at ddiben bwriadol.

Mae a wnelo â mwy nag arian. Fel y dywedais ar sawl achlysur arall, mae'n ymwneud â sut y mae rhannau iechyd a gofal cymdeithasol y system yn gweithio gyda'i gilydd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod ei fod yn gymhleth. Nid yw mor syml â dweud, 'Rhowch fwy o arian ac ymdrechwch yn galetach a bydd popeth yn iawn.' Mae'n ymwneud â lefel a natur y galw, ac un o'r enghreifftiau gorau o'r modd y mae'r galw hwnnw wedi cynyddu yn ei gymhlethdod yw bod y galwadau coch y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ymateb iddynt—. Pan wneuthum y penderfyniad i newid y statws galwadau coch, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth—mae peth beirniadaeth o hyd bob hyn a hyn—a geisiai awgrymu bod a wnelo hynny mewn gwirionedd â newid y ffigurau i fy siwtio i. Fe ddigwyddodd yn sgil adolygiad clinigol, wedi'i gefnogi gan ein staff rheng flaen, gyda chefnogaeth pob cyfarwyddwr meddygol yng Nghymru. Mae gennym gategori newydd, diffiniad newydd i gyrraedd y bobl salaf. Dyna pam fod yna gategori coch newydd. Ac eto, yn awr, mae gennym 15 y cant yn fwy o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans na'r gaeaf diwethaf, a thros y tri mis diwethaf cafwyd nifer uwch nag erioed o alwadau coch. Mae'r rhain yn bobl sâl iawn sydd angen gofal ysbyty. Felly, mae'r proffil galw wedi newid ers y gaeaf diwethaf.

Felly, hanfod yr her yw'r holl fesuriadau a gymerwyd gennym y gaeaf diwethaf, y mesuriadau ychwanegol a gymerir gennym ar hyn o bryd, a'n gallu i gael pobl allan o'r system ysbytai ac i ofal cymdeithasol. Dyna pam y mae breuder gofal cartref a phreswyl yn gymaint o fygythiad a phroblem, sef pam ein bod yn edrych mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at ei gilydd. Ac fe ddywedaf eto, heb y berthynas well a'r camau y mae'n rhaid i lywodraeth leol eu cymryd ochr yn ochr â'r gwasanaeth iechyd—mae'r pethau hynny'n digwydd yn awr, wrth imi siarad, i gael mwy o bobl allan o'r ysbyty—byddai'r broblem hon yn waeth o lawer.

Ond nid yw wedi'i orffen. Yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon nac yn hapus fy myd, oherwydd rwy'n cydnabod bod hynny'n golygu nad yw profiad rhai pobl yr hyn y dylai fod. A'r nifer fach o lawdriniaethau a gynlluniwyd a oedd i fod i ddigwydd ond nad ydynt wedi digwydd—y system yn cynllunio ar gyfer yr hyn y gall ddisgwyl ei weld yw hynny. Ond mae'r rhain yn dderbyniol o hyd, serch hynny, y tu hwnt i'r gweithgarwch a gynlluniwyd. Felly, bydd yr archwiliad dwfn y soniais amdano, y cyfeiriodd Angela Burns ato, yn digwydd. Fe fydd yn ddefnyddiol nid yn unig ar gyfer Hywel Dda ond ar gyfer rhannau eraill o'n system hefyd. Ac rwy'n edrych ymlaen at ateb cwestiynau tebyg yr wythnos nesaf yn ôl pob tebyg pan fyddaf yn gwneud datganiad ar bwysau'r gaeaf.