Tata Steel

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:28, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r sylwadau hyn gan bennaeth Tata yn amlwg yn peri pryder mawr. Hoffwn ailadrodd yn fyr un o'r sylwadau a wnaed gan David Rees. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn galw am uwchgynhadledd diwydiant i Gymru. Pwysleisiodd yr Aelod dros Aberafan yn awr yr angen i ddod ag elfennau o ddiwydiant dur y DU a rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd ar y lefel uchaf, a boed hynny'n golygu cyngor dur neu'r math o uwchgynhadledd y bûm yn siarad amdani, nid siopau siarad yw'r rhain. Mae'r rhain yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd y sectorau hyn a'r angen i weithredu ar frys. A wnaiff Llywodraeth Cymru alw'n benodol yn awr am ailgynnull y cyngor hwnnw gyda sedd i Lywodraeth Cymru o gwmpas y bwrdd er mwyn dadlau bob amser dros bwysigrwydd y diwydiant dur i Gymru? Nid yw'n ymwneud ag ynni yn unig, wrth gwrs, ond mae angen ynni rhad arnom ar gyfer dur. Mae arnom angen ynni rhad a glân ar gyfer dur. Mae angen inni lanhau'r diwydiant dur, ac mae'n amlwg fod ein hamser yn brin.