– Senedd Cymru am 4:02 pm ar 8 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Un datganiad sydd heddiw, ac mae'r datganiad hynny gan Russell George.
Diolch, Lywydd. Cyrhaeddodd yr Angel Cyllyll Oriel Davies Gallery yn y Drenewydd ddydd Sadwrn. Dyma'r lleoliad cyntaf yng Nghymru i groesawu'r cerflun wrth iddo barhau ar ei daith ar draws y DU, a bydd yn aros yn y Drenewydd tan ddiwedd mis Ionawr, mewn ymdrech i roi diwedd ar droseddau cyllyll ac ymddygiad treisgar. Yn ffodus, nid oes gan Bowys broblem ddifrifol gyda throseddau cyllyll, ond mae'r Angel Cyllyll yn bodoli hefyd i weithredu yn erbyn bwlio a llinellau cyffuriau ac ymosodiadau eraill.
Cludwyd yr angel o Ganolfan Gwaith Haearn Prydain yng Nghroesoswallt, a nod y cerflun, sydd wedi'i greu'n gyfan gwbl o gyllyll, yw codi ymwybyddiaeth y gymdeithas o droseddau cyllyll. Ar ôl cysylltu â heddluoedd, gosodwyd 200 o fanciau cyllyll mewn lleoliadau ar draws y wlad a dechreuodd y broses o greu'r Angel Cyllyll.
Cafodd y seremoni ddydd Sadwrn diwethaf i groesawu'r Angel Cyllyll i'r Drenewydd ei harwain gan y Cynghorydd Joy Jones, sydd wedi gweithio'n galed iawn hefyd gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a Chyngor Sir Powys i ddod â'r cerflun i'r Drenewydd. Felly, hoffwn dalu teyrnged iddi hi a phawb arall sydd wedi gweithio i sicrhau hyn.
Roedd y nifer a ddaeth i weld y cerflun yn y Drenewydd yn anhygoel ac roedd yn dangos yr effaith y mae'r Angel Cyllyll yn ei chael ym mhob man y mae'n mynd, gan gyfleu neges gwrth-drais. Ac am weddill y mis hwn, mae Cyngor Sir Powys yn cynnal amryw o weithdai a rhaglenni addysgol, ac mae'r ymgyrch yn cynnwys ysgolion a grwpiau ieuenctid hefyd. Heb gymorth y cyhoedd, ni all y cerflun cenedlaethol yn erbyn trais ac ymddygiad ymosodol gyfleu ei neges i'r rhai y bwriadwyd iddi eu cyrraedd. Felly, os ydych yn y Drenewydd neu'n mynd heibio i'r Drenewydd y mis hwn, ewch i weld yr Angel Cyllyll.