Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 8 Ionawr 2020.
Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os ydynt wedi'u gwreiddio mewn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang ei sail. Felly, mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cam hwn a thrwy'r cyfan yn hollbwysig, ond mae'r ymgysylltiad gwleidyddol yn bwysig hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, fy ail gwestiwn i'n Cadeirydd yw holi a fydd—a sut y bydd—yn parhau i drafod â'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd, yn ogystal â'r elfennau gwleidyddol arwyddocaol eraill yng Nghymru nad ydynt wedi'u cynrychioli yma, er mwyn gallu bwydo eu safbwyntiau hwy i mewn hefyd, ond fel y gallant weld ac ymwneud â'r dystiolaeth a glywn. Yn benodol—mae wedi cael ei grybwyll yn barod—rwy'n chwilio am gadarnhad gan y Cadeirydd fod yna sedd, yn wir, wrth fwrdd y pwyllgor ar gyfer yr holl brif bleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yma, a byddem am weld y sedd las wag honno yn cael ei llenwi gan Aelod galluog, ystyrlon a chraff o'r meinciau yn union gyferbyn â mi yma, ac y bydd yn parhau, ar ran y pwyllgor, fel y byddaf i'n bersonol yn ei wneud, i annog llenwi'r sedd honno, fel y gallwn oll ymwneud â'r dystiolaeth gyda'n gilydd, ni waeth beth fo'n safbwyntiau unigol neu ein safbwyntiau pleidiol wleidyddol. Yn sicr, dyna'r dasg fwyaf sylfaenol sydd gennym fel deddfwyr a llunwyr polisïau—ymgodymu â'r cwestiynau anodd hyn gyda'n gilydd.
Rwyf o ddifrif yn gweld colli llais a chyfraniad fy nghyd-Aelodau ar draws y llawr ar y pwyllgor hwn, ac rwy'n siŵr bod y blaid honno, a fu, o dan Disraeli ac o dan Gladstone, yn ymgodymu ag anhawster, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn hyderus hefyd, gyda phethau fel y cwestiwn Gwyddelig, fel ymestyn yr etholfraint, a diwygio seneddol mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae'n fwy na galluog a hyderus, rhaid imi ddweud—. Rwy'n edrych ar unigolion gyferbyn yn awr, byddai unrhyw un o'r Aelodau hynny'n gallu cymryd rhan yn y pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol. [Torri ar draws.] Rwy'n gwneud fy ngorau i annog hyn, Lywydd. Byddent yn fwy na galluog, o'r blaid honno, i ymwneud â'r pwyllgor bach amser cyfyngedig ar ddiwygio etholiadol yn yr unfed ganrif ar hugain.
A gaf fi hefyd ofyn i'r Cadeirydd ymhelaethu ychydig ar drefn, amserlen, y pwyllgor gorchwyl a gorffen hwn i bob pwrpas? Yn y pen draw, mae gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar ddiwygio etholiadol yn mynd i fod yn nwylo holl Aelodau'r Senedd yma, wedi'u llywio gan y cyhoedd a'u pleidiau eu hunain, ond hefyd yn cael eu llywio gan waith y pwyllgor hwn. Felly, a all amlinellu ei barn gyffredinol, fel Cadeirydd y pwyllgor, ar ba bryd y mae'n rhaid i'n hargymhellion ddod i'r amlwg er mwyn galluogi'r Senedd hon i'w hystyried yn gynhyrchiol, ac a fydd hi'n trafod gyda'r Llywydd, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y pleidiau o bob plaid sut y mae'r amserlen hon yn galluogi unrhyw gynigion ar gyfer diwygio y gellir eu cyflwyno, os yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi ac os teimlir y gall cynigion ennyn cefnogaeth y Senedd, yn yr amserlen sy'n caniatáu i gynulliadau'r Senedd hon neu Seneddau yn y dyfodol wneud y paratoadau angenrheidiol, y ddeddfwriaeth angenrheidiol, os yw'n briodol, a'i chyflwyno?
Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Cadeirydd am ei barn ar rywfaint o'r dystiolaeth a glywsom eisoes? Crybwyllodd hyn funud yn ôl—ar y goblygiadau i berfformiad ac effeithiolrwydd y Senedd hon ac ar ein dulliau o weithio a'n hwythnos waith, neu ar yr hyn y gallai fod yn rhaid inni ddewis peidio â'i wneud â'n pwerau presennol, heb sôn am bwerau nad ydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd, neu unrhyw bwerau yn y dyfodol, os byddwn yn dewis peidio â chyflawni newidiadau pellach a allai gynyddu capasiti ac amrywiaeth o ran cynrychiolaeth i adlewyrchu hyn yn llawn, ein gwlad, ein Senedd Cymru. Rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth ar hyn ac roedd yn ddiddorol iawn clywed beth y mae'r sefydliadau sy'n ymgysylltu â ni'n rheolaidd ac yn ein lobïo ar faterion pwysig iechyd a'r amgylchedd a chymaint o bethau eraill, yn ei feddwl fyddai goblygiadau dewis peidio â bwrw ymlaen â rhyw fath o ddiwygio etholiadol a fyddai'n cynyddu capasiti ac amrywiaeth y lle hwn. A fyddai'n dymuno ymhelaethu ar hynny?