Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 8 Ionawr 2020.
Fe ymunaf ag Aelodau eraill yn y Siambr i ddweud pobl mor hyfryd yw'r Ceidwadwyr a pha mor wych fyddai eu gweld yn ymwneud â hyn. Llyr, peidiwch â dweud, 'Peidiwch â mynd mor bell â hynny'—rwy'n credu y byddai'n beth da iawn pe baent yn cymryd rhan. [Chwerthin.]
Lywydd, fe ddefnyddiaf eich geiriau chi i'r pwyllgor, ac mae'r Cadeirydd eisoes wedi sôn am hyn. Fe ddywedoch chi am ASau San Steffan fod dros 100 o'r dros 600 o Aelodau Seneddol heb fod yn aelodau o unrhyw bwyllgorau o gwbl, ac yn eich geiriau chi, fe ddywedoch chi nad ydynt yn cymryd unrhyw ran yn y Llywodraeth na'r wrthblaid, ac—. Nid wyf yn gwybod beth y maent yn ei wneud.
Fe ddywedoch chi:
Nid wyf yn gwybod sut beth yw'r bywyd hwnnw, dod i'r Senedd a pheidio â chael dim i'w wneud am yr wythnos.
Ac mae hynny'n bell iawn o'n profiadau ni. Mae hynny'n bell iawn o brofiad pob un yn y Siambr hon, a ninnau ar ddau neu fwy o bwyllgorau, yn treulio penwythnosau'n ceisio deall ein papurau ar gyfer dau bwyllgor yr wythnos ganlynol, i'r rheini ohonom sydd ar bwyllgorau. Ac ni allaf ddychmygu, felly, sut y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn cydbwyso gwaith etholaethol a bod mewn Llywodraeth. Mae'n rhaid ei fod yn uffern llwyr o ran cydbwysedd gwaith a bywyd. Ni allaf ddychmygu bod yn y sefyllfa honno byth, yn enwedig gyda dau o blant ifanc. Ni allaf ddychmygu sut y caiff ei wneud gyda'r niferoedd sydd gennym ar hyn o bryd a'r llwyth gwaith sydd gennym ar hyn o bryd.
Ond o ran y ddadl fwy poblogaidd dros berswadio pobl, credaf fod angen ichi ddweud wrth bobl, 'Os yw Gweinidog Llywodraeth yn destun craffu, beth fyddai orau gennych? A fyddai'n well gennych iddynt gael llawer o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt, neu lai o bobl yn craffu ar yr hyn a wnânt?' A buaswn yn dweud y byddai pobl yn dweud, 'Wel, byddai'n well gennyf fod llawer o bobl yn arbenigwyr mewn meysydd bach, cyfyngedig yn craffu ar y Llywodraeth, yn hytrach na bod ychydig o bobl yn ceisio gwneud popeth.' Rwy'n credu eich bod yn cael craffu gwell gyda mwy o Aelodau—[Torri ar draws.]—a hefyd mae dyfnder y craffu yn dod yn well yn ogystal. Mae'n ddrwg gennyf, buaswn wrth fy modd yn derbyn ymyriad, ond datganiad ydyw, felly ni allaf wneud hynny. Ond nid wyf yn gwybod beth rydych newydd ei ddweud, Janet Finch-Saunders, mae'n ddrwg gennyf.
A'r mater arall yw tegwch etholiadol ac eglurder. Tegwch etholiadol ac eglurder. Rwyf wedi cael cwynion, Delyth Jewell, gan etholwyr yn Nelson sydd wedi dweud eu bod wedi derbyn taflenni gan Blaid Cymru yn dweud nad fi oedd yr Aelod Cynulliad mwyach ac mai Delyth Jewell oedd yr Aelod Cynulliad. Ac roeddent yn cwyno wrthyf, 'Pa bryd y rhoesoch chi'r gorau iddi?' Wel, wrth gwrs, nid dyna a wnaethoch, dim ond dosbarthu taflen wnaethoch chi, yn dweud, 'Fi yw'r Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru ac rwyf yma i'ch helpu.' Wrth gwrs mai dyna a wnaethoch, nid wyf yn credu i chi wneud unrhyw beth o'i le. Delyth, pe baech chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le, buaswn wedi mynd yn syth at y comisiynydd safonau. [Chwerthin.]