Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 8 Ionawr 2020.
Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn gresynu at y ffaith bod cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben yn fy etholaeth. Yn gyntaf, roedd unrhyw un a gredai y byddai cynllun £30 miliwn y flwyddyn yn dileu tlodi naill ai’n or-optimistaidd neu’n twyllo’i hun. Adleisir hyn gan y dystiolaeth a roddodd cyngor Caerffili i bwyllgor Cynulliad pan oeddem yn edrych arno. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn dileu tlodi, tlodi o un genhedlaeth i’r llall, gydag un rhaglen wrth-dlodi. Roedd yn llwyddiannus iawn mewn rhai pethau a heb fod mor llwyddiannus mewn pethau eraill, ond economeg sy'n gyfrifol am dlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrth-dlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth i gyd yn iawn, ond oni bai fod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn dileu tlodi. Rydym hefyd yn gwybod mai'r peth cyntaf y mae mwyafrif y bobl sy'n byw mewn ardal homogenaidd dlawd yn ei wneud i gynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud, ac mae gennym enghreifftiau o hynny nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd.
Rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael; nifer uchel o bobl ar fudd-daliadau; y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau, a cheir mwy a mwy ohonynt, ar gyflog isel iawn ar yr isafswm cyflog, ac yn hollbwysig, yn gweithio oriau gwarantedig isel, gan arwain at incwm isel ac amrywiol, ac mae llawer yn mynd trwy broblemau difrifol y mis hwn gan eu bod yn cael 30 a 40 o oriau'r mis diwethaf ac maent bellach i lawr i'w saith a 10 awr warantedig y mis hwn; cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol; fawr ddim llyfrau yn y cartref; gyda llawer yn teimlo na all pethau wella.
Lle mae gennych ardal sydd dan anfantais cymysgryw, i ddyfynnu tystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r un pwyllgor, os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed.
Dywedodd cyngor Ynys Môn:
Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw.
I ddyfynnu Cyngor Abertawe:
Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall.
Roedd llwyddiannau cymunedol yn cynnwys: iechyd; rhaglenni colli pwysau; rhaglenni gwella deiet; rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu; rhaglenni ymarfer corff—rwyf o'r farn fod atal afiechyd yn bwysicach na gweld iechyd fel system driniaeth, a dyna beth rydym yn ei wneud: rhoi mwy o arian tuag at iechyd, trin mwy o bobl, ond gadewch inni gael llai o bobl angen triniaeth.
Ar dlodi, roedd prosiect a oedd yn ceisio helpu pobl trwy leihau eu biliau cyfleustodau. Mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma, roeddem yn siarad am y ffaith fod Nyth ac Arbed wedi gwneud llawer o waith i wella’r adeiladau, a safon ansawdd tai Cymru, ond mae pobl yn dal i dalu llawer mwy os ydynt yn dlawd. Fel y dywedais ar fwy nag un achlysur: mae bod yn dlawd yn ddrud iawn. Mae'r swm y mae pobl yn ei dalu pan fyddant yn gorfod rhoi cardiau yn y system er mwyn cael nwy a thrydan yn fwy o lawer na'r hyn rydym ni yn yr ystafell hon yn ei dalu. Yn wir, rwyf wedi dweud, unwaith eto ar fwy nag un achlysur: mae gennyf etholwyr sy'n gwario mwy o arian ar wresogi i fod yn oer na'r hyn rwy'n ei dalu i fod yn gynnes.
Mae gennym brosiectau sy'n didoli ac yn ailgylchu dillad nad oes mo'u heisiau. Ceir llawer o waith, nid yn Abertawe yn unig, gwnaed gwaith da yn Sir Ddinbych, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ar ailgylchu dillad mewn ysgolion. Mae'r mathau hyn o bethau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Roedd prosiect yn hyrwyddo undeb credyd lleol a chael pobl allan o fenthyciadau stepen y drws, ac mae benthyciadau stepen y drws yn broblem enfawr i lawer iawn o bobl; lle mae rhywun yn dod a chynnig arian iddynt ac yn sydyn, mae'n mynd i gostio llawer iawn iddynt yn y pen draw. Mae addysg a chyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau'n blaenoriaethu gwella cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion i ddychwelyd at addysg; prosiectau dysgu fel teulu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol; grwpiau rhieni a phlant bach gyda'r nod o wella datblygiad a dysgu plant meithrin; clwb gwaith cartref i roi cymorth i blant gyda'u gwaith cartref.
Mae cymdeithas wedi gwaethygu llawer er pan oeddwn yn blentyn yn byw mewn cymuned dlawd iawn. Gallwn wneud popeth a wnâi unrhyw un arall oherwydd gallwn fynd i'r llyfrgell leol. Nid oedd gan neb well mynediad at lyfrau na fi. Erbyn heddiw, mae gennych chi bobl gyda'u dyfeisiau electronig yn eu hystafell wely, pan fyddai pobl fel fi, pe bawn i'n byw yno yn awr, yn wynebu taith ar droed o ddwy filltir er mwyn cyrraedd y llyfrgell. Roedd yna gynllun hefyd a oedd yn annog amgylchedd dysgu o fewn y teulu ac yn y cartref.
Roedd Cymunedau yn Gyntaf, mewn sawl ffordd, yn gynllun rhagorol, ac roedd yn ddiwrnod trist iawn pan benderfynodd Llywodraeth Cymru gael gwared ag ef heb gyflwyno dim i gymryd ei le mewn perthynas â'r pethau hynny sydd o wir bwys: gwella cyfleoedd bywyd i'r rheini yn ein cymunedau tlotaf.