7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:52, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein cynnig yn cynnig bod y Senedd hon yn gresynu at fethiant rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Fel llawer, rhoddais fy nghefnogaeth i'r rhaglen drechu tlodi honno pan gafodd ei lansio oherwydd dywedwyd wrthym ei bod yn ymwneud â grymuso a pherchnogaeth gymunedol go iawn. Fodd bynnag, datblygodd pryderon wrth i dystiolaeth dyfu nad oedd y rhaglen yn cyflawni'r canlyniadau gwell sydd eu hangen ar bobl yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. 

Wyth mlynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', a ganfu y dylai cyfranogiad y gymuned wrth gyd-gynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau lleol fod yn ganolog i unrhyw raglen olynol ar gyfer trechu tlodi. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac ar ôl gwario bron i £0.5 biliwn arno, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dod â Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol, ar ôl methu gostwng prif gyfraddau tlodi na chynyddu ffyniant cymharol yng Nghymru.

Fel y dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yn 2011,

'mae angen i unrhyw raglen sy’n olynu Cymunedau yn Gyntaf greu’r amodau i symud o raglen llywodraeth o’r brig i lawr i strategaeth sy’n cael ei harwain gan y gymuned ar gyfer mynd i’r afael ag amddifadedd a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.' 

Fel y canfu astudiaeth ddofn Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru 2014 yn Nhredegar, 

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r agenda grymuso cymunedol wedi'i fframio fwyfwy o fewn y dull cydgynhyrchu,  a, dylai gwaith llywodraethu ar gyfer lleoedd gwydn a chynaliadwy geisio denu dinasyddion lleol i gymryd rhan,  gan fynnu persbectif gwahanol iawn i'r ymagwedd arferol tuag at bŵer ar lefel gymunedol ac yn ddibynnol ar allu parod ac agored i rannu pŵer a gweithio tuag at amcanion cyffredin.

Fel y canfu adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf: yr hyn a ddysgwyd' y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2017, hanes cymysg oedd i Cymunedau yn Gyntaf oherwydd  roedd gormod o amrywioldeb ledled Cymru, a fframweithiau rheoli perfformiad annigonol. 

Fel y nododd Sefydliad Bevan yn 2017, 

Ni wnaeth Cymunedau yn Gyntaf ostwng y prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth drwy Gymru gyfan. 

Mae Oxfam Cymru wedi galw’n benodol ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol sy’n eu hatal hwy a’u cymunedau rhag cyrraedd eu potensial. Fel y dywed Sefydliad Bevan, os yw pobl yn teimlo bod polisïau’n cael eu gorfodi arnynt, nid yw'r polisïau'n gweithio a dylid cynhyrchu rhaglen newydd gyda chymunedau, nid ei chyfeirio o'r brig i lawr. 

Yn yr adroddiad ‘Valuing place’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n seiliedig ar ymchwil mewn tair cymuned, gan gynnwys Cei Connah, canfuwyd y dylai sefydlu rhwydweithiau lleol i gydgysylltu pobl sydd am weithredu’n lleol fod yn flaenoriaeth. Yn bersonol, cefais y pleser o weithio gyda meddygon teulu lleol a chydgynhyrchwyr newid trydydd sector ar Lannau Dyfrdwy i geisio gwneud hyn.