Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw, gydag ystod eang o gyfraniadau meddylgar a niferus i'r ddadl a'r drafodaeth bellgyrhaeddol hon? Siaradasom gryn dipyn heddiw am gefnogi ein pobl a'n lleoedd a phwysigrwydd cefnogi a galluogi'r ymdeimlad hwnnw o falchder yn ein cymunedau, a bod buddsoddi mewn cymunedau yn ymwneud â mwy na'r manteision economaidd yn unig, ond y manteision ehangach o ddod â chymunedau at ei gilydd a chynyddu cymunedau cydlynus.
Mae Llywodraeth Cymru am i'n cymunedau a'n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych gyda'r llu o drefi hanesyddol y gallwn ymffrostio ynddynt yng Nghymru. Ac rydym wedi cydnabod, ac mae pobl wedi cydnabod yn y ddadl hon heddiw, fod rôl a phwrpas ein trefi'n newid a bod angen i ni ymateb i'r her honno er mwyn ail-greu ac ailddyfeisio ein cymunedau a'n canol trefi.
Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn darparu cefnogaeth adfywio sylweddol i dros 50 o drefi a chymunedau ledled Cymru, gan ryddhau £800 miliwn o fuddsoddiad rhwng 2014 a 2022. Boed yn hen gapeli neu'n neuaddau tref sydd wedi'u hesgeuluso, sinemâu sy'n dadfeilio neu neuaddau bingo sydd bellach yn segur, boed yn stryd fawr sy'n wynebu anawsterau neu'n eiddo adfeiliedig, mae ein buddsoddiad yn helpu i roi bywyd newydd iddynt. Gallai hynny fod ar ffurf swyddfeydd neu ganolfannau menter, canolfannau cymunedol neu ofal neu gyfleusterau hamdden neu ddigwyddiadau, gwell cynigion manwerthu a hyd yn oed cartrefi newydd. Ac rydym wedi clywed gan Huw Irranca-Davies am yr hyn sy'n digwydd gyda neuadd y dref Maesteg hefyd. Felly, rydym yn helpu cymunedau i ail-greu canol eu trefi a'u hadeiladau ar gyfer heriau'r unfed ganrif ar hugain.
Mae'r cynnig gwreiddiol yn awgrymu braidd nad yw trefi glan môr a threfi marchnad yn elwa ar y buddsoddiad hwn ar hyn o bryd er bod llawer ohonynt yn sicr yn gwneud hynny. Yng ngogledd Cymru, mae Bae Colwyn yn cael dros £3 miliwn o fuddsoddiad adfywio i weddnewid adeiladau canol y dref a sicrhau bod gofod llawr masnachol gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i weld drosof fy hun a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i'r nifer sy'n dod i'r dref hefyd. Ac ychydig ar hyd yr arfordir—buddsoddiad enfawr yn y Rhyl. Mae'n cynnwys ailddatblygu eiddo helaeth sydd wedi dirywio ynghanol y dref ac addasu'r promenâd, gyda llawer mwy ar y gweill, ac nid dweud hynny am fod y Dirprwy Lywydd yn y gadair rwyf fi. [Torri ar draws.] [Chwerthin.] Gwerth rhoi cynnig arni. Yn y Barri, rydym yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adeilad y Goods Shed, gan greu 120 o swyddi, swyddfeydd a gofod cymunedol a chynnig bwyd a hamdden yn sgil hynny. Rydym hefyd yn darparu bron i £1 filiwn er mwyn gwella gofod masnachol a manwerthu ac i drawsnewid gofod mewn eiddo masnachol at ddefnydd preswyl a chronfa fenthyg o £1 filiwn dan brosiectau cefnogi tai cymdeithasol ynghanol y dref.
Gan droi'n fyr at drefi marchnad ac ychydig o enghreifftiau: yn Hwlffordd, rydym wedi rhoi cefnogaeth mewn egwyddor i brosiect £3 miliwn a mwy i adnewyddu a thrawsnewid siop adrannol Ocky White yn emporiwm bwyd, a benthyciad o £2.75 miliwn ychwanegol, sy'n darparu 23 o unedau preswyl, ardal fenter ieuenctid a masnachu ac adnewyddu maes parcio aml-lawr i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref.
Yng nghanolbarth Cymru, mae chwe thref farchnad yn elwa o £2.14 miliwn i wella eiddo ynghanol y trefi a sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Ac mae Llanbedr Pont Steffan a'r Drenewydd hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau, gyda gwerth cyfunol o £5 miliwn. Ac yn Llanbedr Pont Steffan, bydd Canolfan Dulais a ailddatblygwyd yn darparu gwasanaethau cymunedol ynghyd â chanolfan fenter sy'n canolbwyntio ar ofal ac a fydd yn hybu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref a chyflogaeth. Gall trefi glan môr hefyd fanteisio ar ein cronfa cymunedau arfordirol, sydd wedi darparu £16 miliwn i ardaloedd arfordirol ers 2011.
Rydym wedi sôn am wahanol gronfeydd heddiw ac rwy'n meddwl mai un o'r pethau rydym wedi—. Ni fuaswn yn dweud bod gennym ddigon o arian, ond credaf fod gennym ddigon o gronfeydd ac mewn gwirionedd, mae'n debyg fod gennym ormod. Ac mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn gweld sut y gallwn atgyfnerthu rhai ohonynt yn hytrach na chreu rhai newydd a gwneud y gorau o'u heffaith mewn trefi a chymunedau ar hyd a lled y wlad.
Rydym yn darparu llawer o gymorth, ond mae blynyddoedd o gyni ac effaith ar ein cyllid yn golygu na allwn ymyrryd ym mhobman yn anffodus. Felly, rydym am helpu i rymuso cymunedau i gymryd yr awenau.
Mae adroddiad diweddar Ymddiriedolaeth Carnegie UK, 'Turnaround Towns UK', yn tynnu sylw at drawsnewid Aberteifi o fod yn dref farchnad a oedd yn methu i fod yn enghraifft o ymarfer gorau drwy ddefnyddio ei hasedau ffisegol a hanesyddol. Mae Aberteifi wedi elwa ar ein cymorth ond mae hefyd yn dangos pwysigrwydd grymuso arweinwyr lleol sy'n adnabod eu trefi ac sy'n allweddol i ysgogi newid. Maent hefyd yn gwneud yn fawr o dechnoleg ddigidol i helpu i yrru hyn i gyd ymlaen.
Mae'r Llywodraeth yn cefnogi ac yn ymgysylltu â'n cymunedau, fel y dangoswyd gan dasglu'r Cymoedd, sydd wedi gweithio gyda chymunedau i ddatblygu cynlluniau a syniadau sy'n helpu i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan gymunedau, ond sydd hefyd yn dathlu ac yn adeiladu ar eu cryfder. Rwy'n awyddus i symud ymlaen i edrych ar sut y gwnawn rymuso cymunedau yn well i fod yn rhan o hyn, a chynnwys cynghorau tref a chymuned a sefydliadau cymunedol eraill.
Rydym yn gweithio i ddatblygu dulliau newydd o gefnogi ein cymunedau drwy Brexit a thu hwnt, gan adeiladu ar brofiadau megis dull LEADER a phwyso ar y rhaglen datblygu gwledig. Bydd gan gymunedau lais yn y ffordd y caiff buddsoddiad rhanbarthol ei dargedu yn eu hardaloedd lleol yn y dyfodol.
Mae cyfundrefn drethi a lles a blynyddoedd o gyni Llywodraeth y DU wedi cael effaith enfawr ar gyfraddau tlodi yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi gweithredu ar draws y Llywodraeth i drechu tlodi ac ar ein cynllun gweithredu economaidd a'n rhaglenni megis Dechrau'n Deg, Cymunedau am Waith ac mae'r grant datblygu disgyblion a Teuluoedd yn Gyntaf yn hanfodol i leihau'r bwlch rhwng ein hardaloedd difreintiedig a mwy ffyniannus.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n gadarn i gynorthwyo a chefnogi ein trefi a'n cymunedau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Yn sicr, nid ydym yn hunanfodlon a gallwn bob amser adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud eisoes. Rwy'n bwriadu dweud mwy yn yr wythnosau nesaf yn y Siambr ynglŷn â sut rydym yn cefnogi ein cymunedau i symud ymlaen i gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych.