8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 8 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:35, 8 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae hi wedi bod yn ddadl ddiddorol, ond rydym 20 mlynedd i mewn i'r ganrif hon ac ers troad y mileniwm, mae 2020 wedi bod ar y gorwel, ac mae wedi bod ym meddyliau'r mwyafrif o bobl yn goelcerth ac yn gyrchfan i bob math o bolisïau a dyheadau. Ac rydym yma, felly mae'n werth myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd, a’r hyn a allai fod eto i'w wneud. 

Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd 223,000 o aelwydydd di-waith yng Nghymru; heddiw, mae'n 182,000—gostyngiad o bron 20 y cant. Nid yw hynny'n ei wneud yn ffigur da; mae'n ei wneud yn ffigur gwell. Ond y duedd fawr yn yr amser hwnnw fu'r cynnydd mewn tlodi mewn gwaith, cymaint felly fel bod mwy o blant mewn tlodi bellach mewn cartrefi sy'n gweithio nag mewn rhai di-waith. A beth yw'r rheswm am hynny? Y rheswm yw bod y Llywodraeth Dorïaidd yn y DU yn y degawd diwethaf wedi gorfodi newidiadau cosbol i fudd-daliadau a newidiadau treth sy'n golygu nid yn unig nad yw bod yn ddi-waith yn talu, ond yn aml, nid yw gweithio’n talu chwaith. Mae aelwydydd un rhiant sy'n gweithio yn arbennig o agored i dlodi, ac erbyn hyn mae gennym Brif Weinidog a fu unwaith yn dadlau y dylid gorfodi  amddifadrwydd sicr ar raddfa Fictoraidd ar 'ferched ifanc' i wneud iddynt feddwl ddwywaith ynglŷn â chael babi.

Daw hynny o geg dyn na all hyd yn oed ddweud, neu sy'n gwrthod dweud, faint o blant sydd ganddo. Ond mae wedi cael yr hyn roedd ei eisiau, oherwydd rhieni sengl bellach yw bron i chwarter y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd yr ystyrir bod bron bob un ohonynt yn byw mewn amddifadrwydd. Hyd at 2012, yn oes Fictoria y byddai'r gair 'amddifadrwydd' yn ymddangos. [Torri ar draws.] Gallwch edrych am y dyfyniad; fe anfonaf y ddolen atoch. 

Felly, yn anffodus, y gwir amdani yw y bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i liniaru effaith tlodi sy'n cael ei bweru gan y Torïaid yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n golygu parhau â'r gwaith da ar bethau fel y cyflog cymdeithasol, gofal plant am ddim—beth bynnag fo'i broblemau, ni fyddwn yn cefnu arno—yn ogystal â pholisïau strwythurol ar sgiliau, addysg a datblygu economaidd. A bydd cadw mwy o arian ym mhocedi pobl yn rhan hanfodol o hynny. Dylem geisio ehangu’r nifer fawr o bolisïau sy'n cefnogi pobl, a chlywsom gyd-Aelodau yn siarad yma heddiw am syniadau a pholisïau sy'n cefnogi pobl; polisïau sy'n eu helpu i gadw'r arian yn eu pocedi. 

Roeddwn am sôn yn benodol heddiw am bwysigrwydd cymunedau cryf fel clustog yn erbyn cymdeithas. Cyn y Nadolig, cyhoeddodd elusen Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad 'State of Hunger'. Nid yw'n syndod iddo ddod o hyd i dystiolaeth glir fod maint ac amseriad pum newid allweddol i fudd-daliadau, sef sancsiynau, Credyd Cynhwysol, ‘treth ystafell wely’, lefelau budd-daliadau, asesiadau Taliad Annibyniaeth Personol, wedi arwain at effeithiau sylweddol ac arwyddocaol ar y defnydd o fanciau bwyd. Felly, beth wnaeth y Torïaid? Fe wnaethant bensaer hynny, Iain Duncan Smith, yn farchog yn anrhydeddau'r flwyddyn newydd. Felly, mae'n amlwg eu bod wedi newid, onid ydynt? 

Profiadau bywyd heriol ac afiechyd oedd y rhesymau eraill dros y newidiadau hynny, yn ogystal â diffyg cymorth anffurfiol, a dyma lle gallwn wneud rhai newidiadau. Fel yr eglura'r adroddiad, roedd mwyafrif helaeth y bobl a gyfeiriwyd at fanciau bwyd naill ai wedi dihysbyddu'r cymorth gan deulu neu ffrindiau, yn meddu ar rwydwaith cymdeithasol heb fawr o adnoddau, neu wedi methu cael hyd i gymorth oherwydd ynysu cymdeithasol. Yn sicr, gallwn gamu i'r bwlch hwnnw. Felly, o ran rhoi’r cymorth hwnnw, mater i ni fydd hynny, oherwydd mae un peth yn sicr yn fy meddwl: mae'n annhebygol iawn y bydd Llywodraeth y DU—ac maent yn gwadu hynny yn y fan acw—yn helpu i newid unrhyw beth. Nid yw’r dyn rwyf newydd ei ddyfynnu’n mynd i newid eu meddyliau na’u teimladau’n sydyn. Ei eiriau ef nid fy rhai i yw'r geiriau hynny. Felly, yn onest, byddem yn ffôl braidd pe baem yn meddwl, yng Nghymru, fod y Torïaid yn San Steffan, dan arweiniad dyn sy'n credu y dylem gosbi menywod i'w hatal rhag cael babi, yn mynd i fod yn dosturiol rywsut—fe anfonaf y ddolen atoch—ynglŷn â dyfodol yr union bobl hynny.