Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 8 Ionawr 2020.
Mae lleihau’r cynnydd mewn tlodi plant yng Nghymru, gan anelu at ddileu tlodi plant yn llwyr, yn haeddu sylw llawn gan Lywodraeth ein gwlad—sylw llawn, blaenoriaeth uchel a gweithredu brys. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa.
Siomedig iawn oedd clywed y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bore yma yn dweud nad oedd hi yn hyderus o gwbl fod modd gwella ar sefyllfa argyfyngus ble mae 29 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Bron fel ei bod hi wedi rhoi’r ffidil yn y to yn llwyr gan luchio’r bai ar newidiadau lles y Llywodraeth yn Llundain. Nid gwaith Llywodraeth ydy rhoi’r ffidil yn y to; gwaith Llywodraeth ydy troi pob carreg—gweithio'n ddiflino i ganfod atebion a rhoi’r arweiniad cwbl glir er mwyn gyrru newid. Dydw i felly ddim wedi fy argyhoeddi o gwbwl fod y Llywodraeth yma yn wirioneddol ceisio mynd at wraidd y broblem. Does yna ddim hyd yn oed strategaeth draws-Lywodraeth ar daclo tlodi. I mi, mae hynny yn dweud y cwbl.
Fe gollwyd cyfle, yn fy marn i, i wneud gwahaniaeth efo'r cynllun gofal plant 30-awr. Mae hwn yn gynllun cwbl wallus. Mae o'n gynllun sy'n cau allan plant o rai o deuluoedd tlotaf Cymru ac yn wir yn gosod y plant hynny o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion. Oherwydd dydy plant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni yn gweithio yn gymwys ar ei gyfer. Pam yn y byd y byddai Llywodraeth sy’n ceisio dileu tlodi plant yn blaenoriaethu plant o deuluoedd lle mae rhieni mewn gwaith o flaen plant lle nad ydy'r rhieni yn gweithio? Pam y byddai Llywodraeth sydd am ddileu tlodi plant yn gwahaniaethu yn erbyn rhieni sy’n fyfyrwyr a rheini ar gontractau dim oriau?
Mae’r cynllun wedi wynebu sawl tro trwstan yn barod, ac wedi ei feirniadu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan y Comisiynydd Plant am nad oedd yn gymwys i bawb. Mi ddoeth yna dro trwstan pellach pan roedd rhaid rhoi heibio’r bwriad o’i weinyddu drwy Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ac fe wastraffwyd £1 miliwn yn y broses, ac erbyn hyn, yr awdurdodau lleol sydd yn ysgwyddo’r bach gweinyddol, er mai dros dro ydy'r trefniant hynny a does yna ddim sicrwydd i'r tymor hir.
Ac yna, fe ddangosodd gwerthusiad o’r cynllun fod dryswch pellach wedi codi wrth i rieni orfod talu am ofal yn ystod y gwyliau pan oedden nhw dan yr argraff ei fod o ar gael am ddim. Fe gafodd un rhiant sioc anferth o dderbyn bil am dros £800 am ofal plant un mis yn ystod yr haf ar ôl peidio â sylweddoli bod ei hawl hi wedi dod i ben. Mae yna ddryswch hefyd am sut mae’r cynnig yn effeithio ar gredydau treth a materion efo rhieni hunangyflogedig yn profi eu cymhwysedd ar gyfer y cynllun.
Dyma beth ydy traed moch go iawn. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gofal plant ar gael i bob plentyn. Mae mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd yn allweddol yn y dasg o ddileu tlodi plant. Mae o hefyd yn allweddol ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad.
Yn ogystal â chyflwyno’r taliad plant wythnosol, fe fyddai gan Blaid Cymru bolisïau priodol eraill yn cynnwys polisi gofal plant a blynyddoedd cynnar uchelgeisiol a phell-gyrrhaeddol. Ac fe fyddem ni yn mynnu datganoli gweinyddu'r gyfundrefn les i Gymru. Mi fyddai gan Lywodraeth Plaid Cymru yr ewyllys, yr egni a’r tân yn ein boliau i fynd ati i daclo tlodi plant, gan roi iddo fo'r flaenoriaeth uchaf posib. Gwnawn ni ddim—fedrwn ni ddim jest derbyn sefyllfa lle rhagwelir y bydd 39 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi erbyn 2022. Fe fyddwn ni yn mynd ati i daclo'r mater ac yn rhoi'r flaenoriaeth iddo mae o yn ei haeddu.