Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Ionawr 2020.
Wel, rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn negodi cyfranogiad cyfatebol yn Erasmus+ ag yr ydym ni wedi ei fwynhau hyd yma, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwn a wnaeth Mandy Jones: nid oes unrhyw reswm pam na allen nhw wneud hynny, oherwydd caiff trydedd wlad gymryd rhan lawn yn Erasmus+. Dyna'r wyf i'n chwilio amdano gan Lywodraeth y DU, ac nid rhyw fersiwn wannach, fwy cyfyngedig, wedi ei chreu gartref. Rwyf i eisiau i bobl ifanc Cymru gael yr un cyfleoedd yn union ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ag y maen nhw wedi eu cael nawr. Nid yw'r llyfr rheolau yn atal hynny, a dyna y mae'n rhaid iddyn nhw ei sicrhau.