Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 14 Ionawr 2020.
Prif Weinidog, mae llawer o wledydd y tu allan i'r UE, fel y gwyddoch yn iawn, yn cymryd rhan lawn yn Erasmus+, gan gynnwys Twrci. Does neb yn dadlau na fyddai myfyrwyr y DU yn mwynhau'r un cyfleoedd addysgol a diwylliannol ag y byddai myfyrwyr o Dwrci yn eu mwynhau. Nid oes angen i'r Llywodraeth rwymo ei hun drwy statud i negodi hyn o gwbl. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hwn yn faes y gallai'r Llywodraeth a'r holl bleidiau gwleidyddol fod yn unol yn ei gylch yn y negodiadau sydd ar fin cael eu cynnal gyda'r UE?