Erasmus+

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen Erasmus Plus? OAQ54932

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:12, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Lynne Neagle am hynna. Mae'n siomedig iawn bod y Llywodraeth Geidwadol newydd, yr wythnos diwethaf, wedi trechu ymdrechion i'w gwneud yn ofynnol i'r DU gymryd rhan yn Erasmus+ ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny, Dirprwy Lywydd, er gwaethaf galwadau cyson gan Lywodraethau Cymru a'r Alban i'r cyfranogiad hwnnw gael ei sicrhau.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n rhannu'r siom honno ynglŷn â'r bleidlais yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n fyfyriwr Erasmus. Cefais i, o gartref dosbarth gweithiol, o un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, nad oedd erioed wedi cael gwyliau teuluol dramor hyd yn oed, gyfle i fynd i astudio ym Mhrifysgol Paris o dan raglen Erasmus, ac rwyf i wedi bod yn ddiolchgar erioed am y cyfle hwnnw.

Nid yw parhau i gymryd rhan yn Erasmus yn anghydnaws mewn unrhyw ffordd â gadael yr UE. A wnewch chi, gan weithio gyda'ch Gweinidog Addysg, wneud popeth yn eich gallu i roi ar ddeall i Lywodraeth y DU y manteision enfawr y mae Erasmus+ yn eu cynnig i bobl ifanc, yn enwedig ein pobl ifanc fwyaf difreintiedig, a gwneud beth bynnag y gallwch chi i sicrhau y gall Cymru barhau i chwarae rhan lawn yn y rhaglen UE hon sy'n newid bywydau?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am hynna? Mae ei thystiolaeth unigol yn rymus iawn. Yn sicr, dylem ni i gyd fod yn benderfynol na chaiff pobl ifanc yn y dyfodol eu hamddifadu o gyfleoedd a oedd ar gael i eraill o ganlyniad i gymryd rhan yn Erasmus ac Erasmus+.

Gwn fod y Gweinidog addysg, Kirsty Williams, wedi dadlau'n gyson mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU i'r DU barhau i gymryd rhan ynddo oherwydd, fel y dywed Lynne Neagle, mae ar gael i drydydd gwledydd; nid oes dim byd o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd sy'n golygu bod yn rhaid i ni adael Erasmus+. Ac mae Cymru wedi elwa'n fawr iawn ohono. Mae dros €40 miliwn wedi dod i Gymru ar gyfer prosiectau Erasmus+ rhwng 2014 a 2018, a buddsoddwyd €13.6 miliwn i roi'r profiadau hynny i bobl ifanc dim ond y llynedd. Yn aml, nid yw'n cael ei ddeall yn dda, Dirprwy Lywydd, yn ogystal â'r math o brofiadau prifysgol y cyfeiriodd Lynne atyn nhw, ei fod hefyd ar gael erbyn hyn ar gyfer addysg bellach, ar gyfer ysgolion, mewn addysg i oedolion, ac yn hollbwysig, i'r math o bobl ifanc y cyfeiriodd Lynne Neagle atyn nhw, drwy'r gwasanaeth ieuenctid hefyd. Rwyf innau, hefyd, wedi cael profiad uniongyrchol o fynd â grwpiau o bobl ifanc i Ewrop o dan gynllun Erasmus+ na fydden nhw erioed wedi cael y cyfle hwnnw pe na byddai'r cyllid hwnnw ar gael iddyn nhw, ac mae'n drueni mawr, o gael cyfle yr wythnos diwethaf i sicrhau'r cyfranogiad hwnnw yn y dyfodol, bod y Llywodraeth Geidwadol newydd wedi cefnu arno.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:15, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Ar ôl y bleidlais i chi gyfeirio ati ar y cymal hwn, dywedodd gwefan FactCheck Channel 4 News nad yw pleidleisio yn erbyn y cymal yr un fath â diddymu cyfraniad y DU yn y cynllun, ac fe'i gwnaed yn eglur gan Lywodraeth y DU nad yw'r bleidlais yn terfynu nac yn atal y DU rhag cymryd rhan yn Erasmus. Sut felly ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Lywodraeth y DU, sef, wrth i ni ddechrau negodi gyda'r UE ar y berthynas yn y dyfodol, ein bod ni eisiau sicrhau y caiff myfyrwyr y DU ac Ewropeaidd barhau i elwa ar systemau addysg blaenllaw ei gilydd a'i bod yn anghywir dweud bod y bleidlais gan ASau ddydd Mercher diwethaf yn golygu y bydd y DU yn gadael cynllun Erasmus?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, pe na byddai'r bleidlais gan ASau yn newid unrhyw beth, Dirprwy Lywydd, pam felly y gwnaeth ei Lywodraeth ef ei threchu? Os mai eu bwriad yw sicrhau y dylid parhau â phopeth sydd gennym ni nawr yn y dyfodol, roedd ganddyn nhw ffordd o sicrhau y byddai hynny'n digwydd. Gofynnodd i mi beth yr wyf i'n ei ofni, a dyma fy ofn: pan ddaw Llywodraeth y DU i gynllunio ei system ei hun, y bydd yn system fwy cyfyngedig, y bydd yn system llai hael, y bydd yn atal cyfranogiad y math o bobl ifanc a nodwyd gan Lynne Neagle yn ei chwestiwn.

Roedd ffordd syml, uniongyrchol a diamwys y gallai'r Llywodraeth fod wedi anfon ei neges ynglŷn â pharhau i gymryd rhan yn Erasmus+: gallai fod wedi caniatáu i'r gwelliant hwnnw fynd drwodd yr wythnos diwethaf. Ni wnaeth hynny, ac mae'n rhaid bod rheswm am hynny. Y rheswm yw nad ydyn nhw'n bwriadu disodli Erasmus ar sail tebyg am debyg yn y dyfodol, a bydd pobl ifanc yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:17, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed eisoes bod hwn yn gyfle gwych i lawer o bobl ifanc, nid yn yn unig yn academaidd, ond mae'n gallu newid eu bywydau a'r bobl y maen nhw'n cyfarfod â nhw a'r math o fywyd y byddan nhw'n mynd ymlaen i'w fyw yn y wlad hon. Ac rwy'n credu, fel plaid uchelgais, bod y Ceidwadwyr yn cymryd y safiad anghywir yn y fan yma, oherwydd os ydyn nhw'n credu y dylai pawb gael cyfle i astudio dramor, mae'n bosibl y byddan nhw'n atal pobl dosbarth gweithiol a dosbarth canol rhag cael y cyfle a dim ond y cyfoethog fydd yn gallu cymryd rhan yn y cynlluniau penodol hyn. Ac mae hynny'n codi cywilydd arnyn nhw.

Rwyf i wedi clywed, ac rwyf i wedi darllen yr wybodaeth gwirio ffeithiau, eu bod nhw'n ystyried—dim ond yn ystyried—cael trafodaeth ar ddyfodol Erasmus mewn unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol. Nid yw'n sicrhau y byddwn ni'n aros o fewn Erasmus. Os bydd hynny'n digwydd, pa fath o drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r Undeb Ewropeaidd? Er enghraifft, os bydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno'r prosiect wedi'i wanhau hwn yr ydych chi wedi ei ragweld, beth fyddwch chi'n gallu ei wneud o safbwynt Cymru o ran cynllun amgen? Gwn na allwch chi gysylltu'n uniongyrchol, gan nad ydym ni'n genedl-wladwriaeth yn hynny o beth, i allu cael y sgyrsiau hynny, ond a allwn ni ei wneud fesul sefydliad, neu a fydd hynny'n fwy anodd ei wneud? A oes dewisiadau eraill ar y bwrdd, er bod pob un ohonom ni eisiau brwydro dros y rhaglen Erasmus bresennol? Pa ddewisiadau eraill ydych chi'n eu hystyried ar hyn o bryd fel Llywodraeth?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd ffyrdd eraill y gallwn ni geisio cefnogi'r gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud yn Erasmus trwy gysylltiadau rhwng sefydliadau ac yn y blaen, ond y peth cyntaf, Dirprwy Lywydd, y byddai angen i ni ei wneud fyddai sicrhau'r arian ar ei gyfer, oherwydd nid yw'r arian ar gyfer Erasmus yn cael ei gadw yn yr adran addysg yn San Steffan, fe'i cedwir gan y Trysorlys. Ac os bydd Llywodraeth y DU yn dewis gwario llai ar Erasmus yn y dyfodol, yna mae'n rhaid iddyn nhw roi'r arian i ni a fyddai wedi cael ei wario yng Nghymru yn y gorffennol. Dyna yr wyf i'n ei gredu yr oedd y Blaid Geidwadol yn ei olygu wrth honni na fyddai Cymru yr un geiniog yn dlotach. Dylem ni gael yr arian sy'n cael ei wario ar Erasmus nawr, ac os nad ydyn nhw'n mynd i'w wario, dylen nhw roi'r arian i ni fel y gallwn ni greu'r cyfleoedd hynny i bobl ifanc yng Nghymru.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:19, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae llawer o wledydd y tu allan i'r UE, fel y gwyddoch yn iawn, yn cymryd rhan lawn yn Erasmus+, gan gynnwys Twrci. Does neb yn dadlau na fyddai myfyrwyr y DU yn mwynhau'r un cyfleoedd addysgol a diwylliannol ag y byddai myfyrwyr o Dwrci yn eu mwynhau. Nid oes angen i'r Llywodraeth rwymo ei hun drwy statud i negodi hyn o gwbl. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hwn yn faes y gallai'r Llywodraeth a'r holl bleidiau gwleidyddol fod yn unol yn ei gylch yn y negodiadau sydd ar fin cael eu cynnal gyda'r UE?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n sicr yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn negodi cyfranogiad cyfatebol yn Erasmus+ ag yr ydym ni wedi ei fwynhau hyd yma, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwn a wnaeth Mandy Jones: nid oes unrhyw reswm pam na allen nhw wneud hynny, oherwydd caiff trydedd wlad gymryd rhan lawn yn Erasmus+. Dyna'r wyf i'n chwilio amdano gan Lywodraeth y DU, ac nid rhyw fersiwn wannach, fwy cyfyngedig, wedi ei chreu gartref. Rwyf i eisiau i bobl ifanc Cymru gael yr un cyfleoedd yn union ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ag y maen nhw wedi eu cael nawr. Nid yw'r llyfr rheolau yn atal hynny, a dyna y mae'n rhaid iddyn nhw ei sicrhau.