4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fuddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:04, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Hysbysodd y Prif Weinidog y Senedd yr wythnos diwethaf fod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, yn eu trafodaeth nhw, wedi mynegi y bydd y Llywodraeth newydd yn gweithio gyda ni mewn ffordd gytûn a bydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol o symud ymlaen o ran materion polisi allweddol. Fe fydd hynny'n gweithio orau pan fydd pob Llywodraeth yn cymryd gofal wrth ystyried y gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd wedi ei neilltuo a'r hyn sydd wedi ei ddatganoli.

Mae datblygiad economaidd rhanbarthol a gwneud penderfyniadau ynglŷn â chronfeydd cysylltiedig yr UE yng Nghymru wedi cael eu datganoli i Gymru ers 20 mlynedd. Rydym ni'n ceisio cael trafodaethau brys â nhw i sicrhau bod y penderfyniadau presennol ynglŷn â llunio polisïau a chyllido yn aros yng Nghymru. Nid barn Llywodraeth Cymru'n unig mo hon; mae ein safbwyntiau ni o ran yr arian i lenwi'r bwlch a nodwyd yn 2017 yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac yn ein papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon, gan grŵp seneddol amlbleidiol, gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Prifysgolion Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a melinau trafod yn cynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

Ers i'r Llywodraeth flaenorol gynnig cronfa ffyniant a rennir dros ddwy flynedd a hanner yn ôl, mae ei gweithgarwch wedi bod yn brin iawn o wireddu'r addewidion i ymgysylltu ac ymgynghori arni. Rydym yn awyddus nawr i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Llywodraeth newydd y DU ar ddatrysiad sy'n golygu cyfranogiad gwirioneddol a chytundeb diffuant ar draws y pedair Llywodraeth, nid un datrysiad yr un peth i bawb a orfodir gan Lywodraeth y DU. Mae ein polisïau ni a'n model rhanbarthol ni yng Nghymru yn unigryw. Dyna pam rydym wedi bod yn cydweithio ar frys gyda'n partneriaid i baratoi model rhanbarthol hyblyg a fydd yn barod i'w gyflenwi yn 2021.

Mae grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, sy'n cynnwys aelodau o'r byd busnes, llywodraeth leol, sefydliadau academaidd a'r trydydd sector, wedi rhoi cyngor i Weinidogion ar faterion sy'n ymwneud â chwmpas polisi, canlyniadau, modelau cyflawni a chynlluniau ymgysylltu ehangach. Mae is-grwpiau technegol, sy'n cynrychioli amrywiaeth o bobl ag arbenigedd, wedi cyfarfod yn rheolaidd hefyd i helpu i lywio syniadau. Cyfarfu'r grŵp llywio bum gwaith y llynedd ac fe fyddan nhw'n cyfarfod eto fis nesaf i ystyried dogfen ymgynghori cyn ei chyflwyno i'r Cabinet i gael cytundeb arni a'i lansio ym mis Mawrth.

Rydym hefyd yn defnyddio arferion gorau rhyngwladol yn ein gwaith. Mae partneriaeth ddwy flynedd â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar y gweill i roi prawf ar ein meddylfryd ni ac i ddarparu her a chyngor manwl lle mae gwelliannau i'w gwneud, i rannu'r hyn sy'n gweithio mewn rhanbarthau eraill a rhoi'r adnoddau inni ar gyfer asesu capasiti a gallu ar bob lefel o Lywodraeth. Yn ystod eu hymweliadau ym mis Mehefin a mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth yr OECD gyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru i gasglu adborth. Roedd hynny'n cynnwys seminar ym mis Tachwedd a dynnodd ynghyd randdeiliaid a chymheiriaid rhyngwladol mewn llywodraethu aml-lefel a buddsoddi cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at argymhellion adroddiad yr OECD erbyn diwedd y flwyddyn.

Rwy'n ddiolchgar i'r OECD, i'r grŵp llywio ac i'r rhanddeiliaid i gyd am eu hymroddiad a'u gwaith nhw hyd yn hyn. Mae'r ymgysylltu eang a'r consensws cyffredinol ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno gweld pethau'n gweithio yn y dyfodol wedi arwain at nifer o ymrwymiadau allweddol y cytunwyd arnynt gan Weinidogion. Mae'r rhain yn cynnwys: buddsoddi rhanbarthol i gynnal twf a chynwysoldeb ledled Cymru, gyda phedwar maes blaenoriaeth buddsoddi cyffredinol, yn cwmpasu cymunedau mwy iach a chynaliadwy, yr economi di-garbon, cynhyrchiant busnes a lleihau anghydraddoldebau incwm pobl; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod wrth wraidd ein cynlluniau; dirprwyo mwy i ranbarthau ac ardaloedd lleol, gan gynnwys yr egwyddor o ddyrannu rhywfaint o arian yn rhanbarthol; dull gweithredu sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau; cyfleoedd gwell i integreiddio cyllid a phrosiectau gyda meysydd buddsoddi a pholisi yn fwy eang; dull cryf a thrawsbynciol o ymdrin â chydraddoldeb a chynaliadwyedd; un gronfa a ddarperir ar sail ariannu amlflwydd; a phroses symlach.

Mae'r ymrwymiadau hyn, ynghyd â'r cynigion a ddatblygir gennym ar weithio rhanbarthol drwy ein Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r cynllun gweithredu economaidd, wedi gosod sail gadarn i'n gwaith manwl ni gyda rhanddeiliaid i baratoi ein cynigion ymgynghori. Mae llawer o waith i'w wneud eto i ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer cyflenwi yn 2021, ac rwy'n awyddus bod cyfle i'r Aelodau roi adborth ar ein cynigion fel y gallwn adeiladu ar sail y cyfraniadau manwl ac ystyrlon a gawsom eisoes gan y Pwyllgor Gwasanaethau Allanol a Materion Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Cyllid hefyd.

Nid ydym yn tanamcangyfrif yr her enfawr o ran newidiadau mewn diwylliant a llywodraethu a ffyrdd newydd o weithio a ddaw yn sgil Brexit. Rwy'n hyderus yn y cymorth a'r arbenigedd eang gan bartneriaid, a fydd yn ein helpu ni i ystyried beth a sut y byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys model buddsoddi rhanbarthol newydd a all weithio ar gyfer Cymru gyfan.