– Senedd Cymru am 4:59 pm ar 14 Ionawr 2020.
Eitem 6 ar yr agenda yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol ar Reoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, a galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn wir, y ddeddfwriaeth sylfaenol a ddiwygir gan yr offeryn statudol yw Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019, sy'n rheoli'r modd y gweithredir peilotiaeth forwrol yn y DU. Mae peilot morwrol yn forwr nad yw'n rhan o griw'r llong, sydd â gwybodaeth fanwl am fynediad i borthladd neu ardal beryglus lle mae llywio'n anodd, sydd ag arbenigedd mewn llywio llongau ac sy'n defnyddio'r wybodaeth honno i sicrhau bod llong yn cael mordaith ddiogel mewn ardal benodedig.
Nawr, testun yr offeryn statudol yw diweddaru'r diffiniad o 'Wladwriaeth yr AEE' yn Neddf Peilotiaeth 1987. Mae hyn yn ymwneud â chynnwys gwladwriaethau sy'n rhan o gytundeb yr AEE. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, nid yw'r diffiniad o 'Wladwriaeth yr AEE' yn Neddf Peilotiaeth 1987 yn cynnwys unrhyw wladwriaethau a ddaeth yn rhan o gytundeb yr AEE ar ôl mis Mai 2003 pan gafodd y diffiniad ei fewnosod yn y Ddeddf.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud y diwygiad hwn yn unol ag adran 2 (2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a fydd yn cael ei diddymu ar y diwrnod ymadael. Dyna pam, er bod yr amryfusedd hwn wedi bodoli am gyfnod sylweddol, fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu gwneud y gwelliant hwn nawr. Bydd y diwygiad hwn yn sicrhau bod y llyfr statud yn gywir ac yn gyfoes cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r newidiadau hyn hefyd yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, i'r graddau eu bod yn ymwneud â pheilotiaeth ddatganoledig, ac mae peilotiaeth ddatganoledig wedi ei llunio'n ffurfiol o fater neilltuedig peilotiaeth yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Dirprwy Lywydd, ystyriaf y newid yn un cwbl dechnegol, annadleuol, ac yn un nad yw'n golygu unrhyw newid polisi. Fodd bynnag, mae'n bwysig serch hynny yr anrhydeddir swyddogaeth y Cynulliad wrth ystyried materion cyfreithiol datganoledig ac y rhoddir cyfleoedd i drafod a chraffu ar newidiadau deddfwriaethol yn ymwneud â Chymru gan ei chorff priodol a etholir yn ddemocrataidd, ac ar y sail hon rwyf wedi cyflwyno cynnig i drafod yr offeryn statudol hwn.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwn ar gyfer Rheoliadau Deddf Peilotiaeth 1987 (Diwygio) 2019 yn ein cyfarfod ar 6 Ionawr 2020. Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ddydd Gwener diwethaf, 10 Ionawr.
Wrth ystyried y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a'n hymateb iddo, bu i ni hefyd ystyried y llythyr anfonodd y Gweinidog atom ni, dyddiedig 17 Rhagfyr 2019. Gellir dod o hyd i'r llythyr hwnnw drwy adroddiad y pwyllgor. Yn y llythyr, dywedodd y Gweinidog, o ran proses y memorandwm cydsyniad offeryn statudol:
Safbwynt y Prif Weinidog, oherwydd swmp gwaith y broses o gywiro offerynnau statudol a chyfyngu ar amserlenni, oedd dod i gyfaddawd i sicrhau y byddai pob memorandwm cydsyniad offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Brexit yn cael eu trin mewn modd amserol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, y cyfaddawd oedd nad yw Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi cyflwyno cynigion i'w trafod ar femoranda cydsyniad offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Brexit. Yn ei lythyr, dywedodd y Gweinidog:
Mewn gohebiaeth â chi ym mis Awst, dywedodd y Prif Weinidog, gan fod y rhan fwyaf o'r rhaglen i gywiro'r llyfr statud wedi'i chwblhau i raddau helaeth, dyma'r amser priodol i ailedrych ar y dull hwn a dychwelyd at y drefn arferol lle mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cynigion ar gyfer memoranda cydsyniad offeryn statudol.
Felly, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog heddiw rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod, ac rydym ni wedi gwneud bellach, ac rydym yn fodlon â'r memorandwm hwnnw. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. Galwaf ar y Gweinidog i ymateb, os yw'n teimlo—.
Cynigwyd.
Wedi ei gynnig, iawn. Diolch. Mae hynny'n iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.