8. Dadl: Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

– Senedd Cymru am 5:04 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:04, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar Gyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Rwyf wedi derbyn cais gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i droi ar unwaith at drafodion Cyfnod 4, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48. Felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig. Vaughan Gething.

Cynnig

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.48, yn cymeradwyo Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:04, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig gerbron y Cynulliad heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a gyflwynais ar 14 Hydref 2019. Ers cyflwyno'r Bil, mae wedi mynd rhagddo'n llwyddiannus drwy gamau ym mhroses ddeddfu'r Senedd, er i'r amserlen gael ei chwtogi, rydym wedi trafod yn y pwyllgor ac yn y fan yma. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i hyn, ac i'r Llywydd am gytuno i Gyfnod 4 fynd rhagddo ar unwaith ar ôl Cyfnod 3. Hoffwn ddiolch i gadeiryddion, Aelodau a staff y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac wrth gwrs, i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu hystyriaeth, eu gwaith craffu a'u hadroddiadau mewn cysylltiad â'r Bil a'r Memoranda Esboniadol ategol a'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy'n ddiolchgar i'n holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses ddeddfwriaethol hon drwy roi tystiolaeth yn bersonol ac yn ysgrifenedig, yn enwedig i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Mae'r trafodaethau cadarnhaol ag Aelodau, gan gynnwys y sesiynau briffio technegol a gynigiwyd, ynghyd â sesiynau tystiolaeth cyhoeddus gan randdeiliaid, wedi sicrhau y bu craffu gwirioneddol ar y Bil er gwaethaf natur frysiog y Bil.

Rwyf wrth gwrs eisiau diolch i'r Aelodau am gytuno nad oes angen i'r Bil newid. Mae'r Bil yn fyr a phenodol. Dim ond adran 30 o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 y mae'n ei diwygio mewn cysylltiad â chynlluniau ar gyfer bodloni colledion a rhwymedigaethau cyrff penodol o'r gwasanaeth iechyd, i roi pŵer newydd i Weinidogion Cymru sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol drwy reoliadau. Bydd hyn yn darparu'r pŵer galluogi i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun rhwymedigaethau presennol i gwmpasu rhwymedigaethau meddygon ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol a gofnodwyd neu a ddaeth i'w rhan ond na chawsant eu cofnodi, cyn 1 Ebrill 2019.

Mae cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol eisoes wedi'i sefydlu ac yn gweithredu'n llwyddiannus. Mae'n cwmpasu hawliadau am esgeulustod clinigol o 1 Ebrill 2019. Mae'r cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol a'r cynllun rhwymedigaethau presennol yn gydnaws, lle bynnag y bo modd, â'r trefniadau a gyflwynir yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau nad yw meddygon teulu yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr, nad oes effaith negyddol ar recriwtio a chadw meddygon teulu na dim ymyrraeth â'r llif o feddygon teulu ar draws y ffin.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi cytuno i ddarparu, o fis Ebrill 2021, adroddiad blynyddol i fynd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Bydd yr adroddiad hwnnw'n ymdrin â gweithrediad technegol cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol a'r cynllun rhwymedigaethau presennol. Bydd gan feddygon teulu a rhanddeiliaid allweddol eraill ran allweddol yn ei lunio, gan gynnwys sefydliadau amddiffyn meddygol, GIG Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau risg, sy'n gweithredu cynllun rhwymedigaethau'r dyfodol ac a fydd bellach yn ymgymryd â'r broses o ymdrin â hawliadau'r cynllun rhwymedigaethau presennol yn unol â threfniadau triniaeth cynnal bywyd brys rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau amddiffyn meddygol. Bydd yr adroddiad blynyddol hefyd yn amlinellu trefniadau triniaeth cynnal bywyd brys y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau amddiffyn meddygol a'r ffordd y mae'r cynllun wedi'i roi ar waith, ynghyd ag effaith ariannol trefniadau triniaeth cynnal bywyd brys, yn amodol ar lynu wrth unrhyw gytundebau cyfrinachedd.

Yn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 19 Tachwedd, roedd pob aelod a oedd yn bresennol ar y pryd yn cefnogi'r angen am y Bil hwn ac yn cytuno arno. Gobeithiaf y byddwn, bawb yn y Siambr, yn parhau i roi'r un gefnogaeth unfrydol i'r Bil i sicrhau deddfu llawn.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:08, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch yn dda, mae'n anodd cyrraedd consensws yn y lle hwn ar brydiau. Fodd bynnag, mae Bil y GIG (Indemniadau) (Cymru) yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi ennill cymeradwyaeth drawsbleidiol, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod cam olaf y Bil hwn. Hoffwn i ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am y gwaith y mae ef a'i adran wedi'i wneud ar y cynllun rhwymedigaethau presennol, ac i bob aelod o'r pwyllgor a'r staff a aeth â'r Bil drwy'r cyfnodau deddfwriaethol yn yr amser byrraf erioed.

Yn dilyn fy ngwelliant cyntaf yn ystod cyfnod 2, ynghylch paratoi a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf, cefais sicrwydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu dulliau adrodd ar y cynllun rhwymedigaethau presennol, h.y. y Bil hwn sydd ger ein bron, a chynllun rhwymedigaethau y dyfodol. Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar y ddau gynllun, gan alluogi'r pwyllgorau perthnasol a'r Cynulliad cyfan i graffu'n briodol. Gwnaed yr ymrwymiad hwn ar ffurf llythyr a anfonodd y Gweinidog at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar 7 Ionawr, ac yn wir y mae'r Gweinidog newydd ei ailadrodd. Mae'n bwysig ein bod yn cael y Bil hwn yn iawn i sicrhau bod gweithio fel meddyg teulu yng Nghymru yn parhau i fod yn yrfa atyniadol a hyfyw, ac nad oes rhwystrau'n cael eu creu rhwng meddygon teulu sy'n gweithio yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU.

Gan droi at yr ail welliant a gyflwynwyd gennym yng Nghyfnod 2, cododd y gwelliant bryderon sylweddol nad oedd yr Undeb Amddiffyn Meddygol wedi cytuno ar safbwynt gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun rhwymedigaethau presennol. Fodd bynnag, roeddwn i'n fodlon tynnu'r gwelliant hwnnw yn ôl gan fod y Gweinidog wedi rhoi sicrwydd unwaith eto. Ers y cyfnod Pwyllgor hwnnw, rwyf i a sawl aelod arall o'r Cynulliad wedi cael gwybod am bryderon difrifol a godwyd yng nghynllun rhwymedigaethau y dyfodol i feddygon teulu fel y nodir yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019. Mae sefydliadau ac ymarferwyr amddiffyn yn dymuno gofyn am eglurder a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r meini prawf y gellir eu defnyddio i atal amddiffyniad o dan y cynllun.

Ar hyn o bryd, yr adran gwasanaethau cyfreithiol a risg sy'n darparu'r gwasanaethau ymdrin â hawliadau ar gyfer meddygon teulu, er enghraifft, sy'n digwydd ar ôl 1 Ebrill 2019. Mae sefydliadau amddiffyn wedi mynegi pryderon nad yw gwasanaethau cyfreithiol a risg yn deall yn llawn y gwahanol ddynameg wrth gefnogi meddygon teulu unigol drwy broses hawliad, yn hytrach na'r gwasanaethau hawliadau i ymddiriedolaethau'r GIG. Un enghraifft o wahanol ddynameg ar waith yw y gallai meddygon teulu wynebu erlyniad lluosog. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw ymdrin â chŵyn, hawliad, ymchwiliad disgyblu, ymchwiliad gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, cwest o bosibl ac ymchwiliad troseddol o bosibl. Mae pryder gwirioneddol y bydd unrhyw fynegiant o rwymedigaeth yn nacáu hawliad sydd wedi'i dderbyn gan wasanaethau cyfreithiol a risg. Nid yw hyn yn cydweddu'n dda â'r ddyletswydd gonestrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chyflwyno drwy'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).

Felly, Gweinidog, er fy mod i'n croesawu'r cam cadarnhaol a ddaw yn sgil y Bil hwn i ddarparu indemniad cost rhesymol i ddarparwyr gofal sylfaenol, a gaf i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn ichi ystyried y cwestiynau canlynol: wrth edrych ar ganlyniadau, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu meincnodi'r cynllun rhwymedigaethau yn y dyfodol? Pa sicrwydd y gall meddygon teulu ei gael y byddant yn cael eu cynnwys ym mhob cam o'r hawliad ac y byddant yn cael yr wybodaeth lawn, gan gynnwys rhannu drafftiau o'r holl ddogfennau perthnasol â meddygon teulu ymlaen llaw? Pa eglurder y gallwch chi ei roi ynghylch defnyddio data am hawliadau meddygon teulu at ddibenion eraill heblaw ymdrin â hawliadau yn uniongyrchol? Ac mae'r GIG yn Lloegr, er ei fod yn cefnogi safbwynt sy'n debyg i'ch un chi o ran rhwymedigaethau yn y dyfodol, wedi sicrhau ei feddygon teulu na fyddan nhw, ac rwy'n dyfynnu, yn atal indemniad o dan y cynllun esgeulustod clinigol ar gyfer ymarfer cyffredinol oherwydd bod ymarferydd wedi cymryd camau i gydymffurfio â'i rwymedigaethau moesegol, proffesiynol neu statudol. Felly, pa ymrwymiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud i efelychu'r sicrwydd hwn yng Nghymru?

Rwy'n deall yn llwyr y bydd hyn yn cael ei gynnwys o dan y Rheoliadau. Nid yw'n tynnu oddi ar y ddeddfwriaeth sydd ger ein bron, sydd, fel y dywedais, yn derbyn ein cefnogaeth lawn ac sy'n cael croeso mawr iawn gan feddygon teulu ar hyd a lled Cymru. Ond, mae yna hen ddywediad Saesneg, Gweinidog, sy'n dweud mai yn y manylder y mae'r diafol, ac er ein bod yn fodlon cefnogi'r Bil hwn er gwaethaf ei gynnydd cyflym drwy'r broses ddeddfwriaethol, mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau bod meddygon teulu yng Nghymru yn cael yr un lefel gwasanaeth a'r un safon o amddiffyniad o'r cynllun rhwymedigaethau presennol a gefnogir gan y wladwriaeth ag yr oedd ganddyn nhw o'r blaen. Diolch yn fawr.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:12, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ategu'r hyn y mae Angela Burns a'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud wrth ddiolch i bawb sydd wedi galluogi'r darn pwysig hwn o waith i gael ei wneud mewn modd amserol, a oedd yn hanfodol. Mae'n debyg y byddai'r Gweinidog yn disgwyl imi ddweud nad ydym yn dymuno mynd i'r arfer o ddeddfu ar frys, ond roedd rheswm arbennig pam yr oedd yn gwneud synnwyr i gyflymu'r broses ddeddfwriaethol hon ac rydym ni ar feinciau Plaid Cymru wedi bod yn fodlon iawn cefnogi hynny a chefnogi'r syniad y tu ôl i'r Bil hwn, sydd, wrth gwrs, i wneud y proffesiwn meddygon teulu yng Nghymru yn fwy atyniadol i feddygon ifanc ac, yn wir, i gadw pobl yn eu gyrfaoedd. Felly, rydym yn hapus iawn i gefnogi'r ddeddfwriaeth heddiw. Rydym yn falch iawn bod y Llywydd wedi caniatáu i'r dadleuon gael eu symud ymlaen mor gyflym o Gyfnod 3 i Gyfnod 4, ac rydym yn hapus i gefnogi hynny.

Pan ddechreuodd yr Undeb Amddiffyn Meddygol godi rhai pryderon gyda ni, roedd gen i rywfaint o ymdeimlad, efallai, na fyddai rhywun yn disgwyl i dyrcwn gefnogi cyflwyno'r Nadolig ac y gallai fod rhywfaint o hunan-fudd fel sefydliad yn rhai o'r ymholiadau yr oedden nhw yn eu codi, ac fe wnaethom ni archwilio hynny gyda nhw yn y pwyllgor. Ond byddwn i yn ategu rhai o'r pryderon y mae Angela Burns wedi eu codi ynghylch y manylder a fydd yn dilyn. Efallai na fydd y Gweinidog yn gallu rhoi atebion llawn i ni heddiw, a bydd y broses adrodd a bennodd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol yn hynny o beth.

Ni fyddaf yn ailadrodd y pryderon y mae Angela Burns wedi eu codi ynghylch derbyn rhwymedigaeth, oherwydd un o gryfderau ein proffesiwn meddygol yw eu bod yn atebol mewn nifer o ffyrdd i nifer o gyrff pan fydd pethau yn mynd o chwith neu pan fydd honiad bod pethau wedi mynd o chwith. Ac ni fyddem ni'n dymuno ychwanegu unrhyw beth at y system hon a fyddai'n gwneud meddygon teulu yn gyndyn i gymryd rhan yn onest. O ran y pwynt ynghylch y ddyletswydd gonestrwydd a fydd yn cael ei chyflwyno mewn deddfwriaeth newydd, byddai'n chwerthinllyd, yn fy marn i, pe byddai un rhan o Lywodraeth Cymru yn dweud wrth feddygon, 'Ni allwch chi gyfaddef pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le', gadewch i ni ddweud wrth gwest neu wrth y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ar yr un pryd â dweud wrthyn nhw ein bod yn disgwyl iddyn nhw fod yn onest a'n bod yn gosod, o leiaf ar gyrff cyhoeddus—a hoffai rai ohonom weld y ddyletswydd gonestrwydd yn cael ei gosod yn fwy cyffredinol ar unigolion—. Felly, rwy'n siŵr nad oes unrhyw fwriad i wneud hynny, ond byddai'n ddefnyddiol i'r Gweinidog ein sicrhau ni heddiw y bydd yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw, yn debyg i'r hyn sydd eisoes wedi ei roi i'r proffesiwn yn Lloegr.

Ac mae'r pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud, Dirprwy Lywydd, yn ymwneud â natur yr adroddiad. Mae'n hynod gadarnhaol bod y Gweinidog wedi cytuno i adrodd yn flynyddol mewn ymateb i welliant meinciau'r Ceidwadwyr, ond mae angen inni wybod beth yr ydym yn adrodd arno a beth yr ydym yn meincnodi yn ei erbyn. Mae'r Undeb Amddiffyn Meddygol wedi gwneud rhai awgrymiadau i'r pwyllgor am rai o'r pethau hynny: efallai y byddem yn dymuno gweld beth yw cost amddiffyn hawliad ar gyfartaledd; efallai y byddem yn dymuno ystyried cyfradd llwyddiant y broses o ymdrin â'r hawliad. Nawr, rwyf i braidd yn amwys ynghylch hynny oherwydd ni fyddem ni eisiau dweud mai'r peth iawn bob tro yw bod y meddyg yn cael ei amddiffyn yn llwyddiannus, oherwydd weithiau bydd y meddyg ar fai a dylid ei gael ar fai.

Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol—unwaith eto, ni fyddwn i'n disgwyl i'r Gweinidog allu dweud hyn wrthym ni heddiw—pan fydd y broses wedi'i sefydlu a'r rheoliadau ar waith, byddai'n dda iddo rannu â ni beth fydd y meincnodau a'r adroddiad. Efallai yr hoffai ymateb i'r pwyntiau a wnaed gan yr Undeb Amddiffyn Meddygol neu efallai ddim. I'r Pwyllgor, mae'r Gweinidog wedi dweud yn garedig y bydd yn llunio adroddiad blynyddol hefyd. Ni allwn graffu'n llwyddiannus ar yr adroddiad blynyddol hwnnw oni bai ein bod yn glir ynghylch beth sy'n cael ei fesur, ble yr ydym ni ar ddechrau'r broses, a beth yw'r cynllun i wella perfformiad o'i gymharu â meincnodau allweddol penodol.

Felly, gyda hynny, rwy'n ymuno â siaradwyr eraill, Dirprwy Lywydd, wrth gymeradwyo'r ddeddfwriaeth hon i'r Cynulliad, gan ddiolch eto i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor ac aelodau'r pwyllgorau eraill a fu'n craffu ar hyn, a'r holl staff sydd wedi ein cefnogi yn y broses mewn ffordd mor fedrus, fel y byddan nhw'n ei wneud bob amser.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:16, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd, yn amlwg, rwyf i hefyd yn codi o blaid y Bil indemniadau y GIG hwn ac yn diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hyd yn hyn. Nawr, mae rhai o'r amheuon ynghylch y Bil wedi eu crybwyll yn dda gan Helen Mary Jones ac Angela Burns felly ni fyddaf i yn mynd ar yr un trywydd, heblaw i nodi bod angen ystyried sut y mae gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth yn cydweddu â'i gilydd. Mae gennym ni Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, mae gennym ni'r ddyletswydd gonestrwydd, a nawr mae gennym ni Fil indemniad y GIG. Mae'n rhaid ystyried rhywfaint sut y mae pob un o'r rhain yn cydweddu â'i gilydd.

Ac er mwyn i bawb gael gwybod, fel yr wyf wedi ei ddweud yn nhrafodaethau'r pwyllgor iechyd ynghylch y Bil hwn, efallai y bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod i wedi bod yn feddyg teulu—[torri ar draws.]—yn gweithio'n wirfoddol pryd bynnag y byddaf yn AC, ond nid wyf yn ymarfer bellach ac felly nid oes gen i fuddiant personol uniongyrchol yn y Bil indemniadau y GIG hwn sydd ger ein bron ni heddiw. Gofynnwyd i mi am eglurhad; gobeithio fy mod i wedi rhoi'r eglurhad. Croesewir y Bil ei hun yn eang. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:18, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cwestiynau ychwanegol a'u cyfraniadau heddiw. Rwyf i wrth fy modd i weld, unwaith eto, fod diben a phwrpas y Bil yn dal i gael eu cefnogi ar draws y Siambr.

I ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan Helen Mary Jones ac Angela Burns, hoffwn i roi sicrwydd priodol, o ran sut i fesur llwyddiant—wel, mae llwyddiant yn golygu mwy nag un peth. Mae'n ymwneud â'r sylfaen ariannol i'r hyn sy'n digwydd, â'r gost i'r pwrs cyhoeddus, ond mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth gan y sawl sy'n darparu'r gwasanaeth gofal iechyd proffesiynol hwnnw. Mae hefyd yn ymwneud â beth mae hynny'n ei olygu i'r unigolyn maen nhw'n ei weld, yn ei drin ac yn gweithio gydag ef, felly nid wyf i'n credu ei fod mor syml â dweud bod yna fesur. Ac i fod yn deg, fe wnaeth Helen Mary Jones gydnabod hynny yn rhan o'i chyfraniad hefyd.

Ac nid wyf i'n gweld bod gwrthdaro rhwng y ddyletswydd gonestrwydd yr ydym yn ceisio ei chyflwyno a gweithrediad y cynllun hwn, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'r ddyletswydd gonestrwydd yn newid ffaith y realiti rhwymedigaeth nac fel arall. Felly, byddem ni'n dal yn awyddus i weithwyr proffesiynol meddygol ymgysylltu'n llawn â'r ddyletswydd gonestrwydd, fel yn wir y byddai'r cyrff sy'n eu cynrychioli yn awyddus iddyn nhw ei wneud hefyd; ni fu unrhyw awgrym nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, nac y dylai hynny effeithio rywsut ar y ffordd y mae penderfyniadau rhwymedigaeth yn cael eu gwneud neu beidio. Ac wrth sôn am hynny, i ymdrin â'r pwyntiau a gododd Angela Burns, ni ddylai unrhyw feddyg teulu yng Nghymru deimlo na chredu, na bod ag unrhyw achos rhesymol dros gredu, y bydd dirywiad yn ansawdd y gwasanaeth nac, yn wir, amddiffyniad, boed hynny o'i gymharu â'u cydweithwyr yn Lloegr neu mewn mannau eraill. Dylen nhw fod yn ffyddiog yng ngweithredwyr y gronfa risg yn sgil y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'u cydweithwyr mewn gofal eilaidd. Nid yw hyn yn ymwneud ag amddiffyn ymddiriedolaethau'r GIG yn unig, na'r ffaith, fel y gwnaethoch chi sôn, am unigolion a'u statws eu hunain o fewn y proffesiwn, y potensial ar gyfer gweithredu rheoleiddiol, nac, yn wir, yr ymchwiliadau gan asiantau gorfodi'r gyfraith yr ydym wedi eu gweld. Maen nhw i gyd wedi digwydd yng nghyd-destun gofal mewn ysbytai, ac mae'n rhan o'r hyder sydd gan amrywiaeth o weithredwyr o ran y dewis sydd i'w wneud ynghylch pwy bellach fydd yn mynd ati i weithredu'r cynllun, bod cofnod llwyddiannus o ddeall y cyd-destun y caiff gofal iechyd ei ddarparu oddi mewn iddo, a'r gwahanol risgiau a heriau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu hwynebu, ac yn yr achos hwn yn benodol, wrth gwrs, feddygon teulu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys, wrth gwrs, Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, nid yn unig o ran eu cefnogaeth gyffredinol i'r Bil neu o ran y rheoliadau drafft, ond wrth inni ddwyn y rhain ymlaen i'w cymeradwyo a'u rhoi ar waith, gobeithio. Felly, rwy'n hapus i wneud yr ymrwymiadau hynny, i barhau i weithio gyda rhanddeiliaid, ac i ddarparu'n llawn yr holl fanylion y gallem ni ac y dylem ni eu darparu i'r lle hwn i graffu arnyn nhw ymhellach yn y dyfodol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:20, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50 C mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.