– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 15 Ionawr 2020.
Ac felly, dyma ni yn cyrraedd y cyfnod ar gyfer y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Mick Antoniw, ac mi wnaf i adael i bobl adael y Siambr yn dawel.
Os gall pobl adael y Siambr yn dawel, mae gennym fusnes yn parhau, a galwaf ar Mick Antoniw i gyflwyno'r ddadl yn ei enw ef—Mick Antoniw.
Diolch i chi, Lywydd. Drwy hanes, ceir dynion a menywod—boed drwy wyddoniaeth a dysgu, drwy ddiwylliant, y celfyddydau, masnach, arloesi neu ymdrech wleidyddol—sydd wedi hybu buddiannau eu cenedl a'i phroffil mewn modd sy'n ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol. Yn aml, caiff eu cyflawniadau effaith fyd-eang ac fe'u cydnabyddir yn briodol yn sgil hynny.
Yng Nghymru, mae gennym lawer o arwyr o'r fath, ond yn anffodus nid yw llawer ohonynt wedi cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Mewn gwirionedd, erys llawer, hyd heddiw, yn anhysbys yng Nghymru heblaw i nifer fach o bobl sydd â diddordeb. I ryw raddau, mae cyflawniad Cymreig ynghudd o dan hunaniaeth dra-arglwyddiaethol y DU neu Brydain, ond beth bynnag yw'r rheswm, mae angen inni gywiro'r hanes a datgan cyfraniad balch Cymru i ddigwyddiadau'r byd.
Rwy'n gobeithio y bydd y newid yn ein cwricwlwm ysgol yn cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth, ond rwy'n credu bod rhan gan y Senedd hon i'w chwarae hefyd yn helpu i sicrhau bod arwyr Cymru yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Nid y diben yw creu rhyw fath o gwlt personoliaeth, ond sicrhau yn hytrach fod cyfraniad Cymru at ddigwyddiadau, hanes a datblygiad rhyngwladol yn cael ei gydnabod yn briodol, fel sy'n wir yn achos y rhan fwyaf o wledydd eraill.
Dim ond amser i ganolbwyntio ar rai ohonynt sydd gennyf, ond credaf y bydd cydnabod y rhain yn helpu i ddechrau'r broses. Eleni roedd hi'n 80 mlynedd ers un o'r gweithredoedd arwrol mawr yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Ar y diwrnod hwnnw, achubodd y Cymro a'r gŵr o Gaerdydd, Archibald Dickson, fywydau 2,638 o ddynion, menywod a phlant a oedd yn ffoi o Sbaen a milwyr ffasgaidd y Cadfridog Franco a oedd yn nesu. Arweiniodd blocâd o borthladd Alicante gan longau rhyfel Eidalaidd a'r bygythiad o awyrennau bomio Almaenig at olygfeydd o anhrefn ac anobaith. Roedd Capten Dickson yr SS Stanbrook yn dyst i'r golygfeydd trasig hyn, ac mewn gweithred o ddewrder pur, gadawodd ei gargo ar ôl ac yn lle hynny, derbyniodd y ffoaduriaid ar fwrdd y llong. Ddeng munud wedi dechrau'r daith, daeth sŵn ffrwydradau a bomiau'n disgyn ger y Stanbrook. Eto i gyd, torrodd Capten Dickson y blocâd, gan achub llawer o fywydau yn ddi-os. Yn Alicante, mae cofeb i'r Capten Dickson yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg ac mae cynlluniau ar y gweill i ddadorchuddio plac yn union yr un fath yn y Pierhead ar ystâd y Cynulliad.
Lywydd, ym mis Tachwedd bob blwyddyn yn Wcráin mae aelodau o'r gymuned ryngwladol yn nodi'r diwrnod y cofir am ddioddefwyr newyn artiffisial Stalin yn 1932-33, a elwir yn Holodomor, sy'n golygu marwolaeth drwy newyn mewn Wcreineg. Newyn oedd hwn a grëwyd gan Stalin i orfodi cyfunoli amaethyddiaeth ac i dorri gwrthwynebiad Wcreinaidd i reolaeth Rwsia Sofietaidd yn Wcráin. Cafwyd mwy na 4,000 o derfysgoedd yn erbyn y polisi hwn a chafodd y rhain eu trechu'n ddidrugaredd. Ym mis Rhagfyr 1932, gorchymynodd pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol i'r holl rawn, gan gynnwys hadau i'w hau, gael eu hatafaelu. Cafodd pentrefi a fethodd gydweithredu eu rhestru a'u hamddifadu'n fwriadol o fwyd hyd at farwolaeth, ac amcangyfrifwyd bod 1 filiwn o bobl wedi'u halltudio i Siberia. Bu farw oddeutu 4 miliwn i 6 miliwn o bobl, ac amcangyfrifir bod tua dwy ran o dair o'r plant wedi marw. Mae'n amhosibl cael ffigurau manwl gywir oherwydd bod Stalin wedi gorchymyn i'r holl gofnodion gael eu dinistrio.
Roedd y newyddiadurwr Cymraeg ei iaith, Gareth Jones, a aned yn Aberystwyth, ac a gladdwyd yn y Barri, yn dyst i'r Holodomor ac ynghyd â Malcolm Muggeridge, roedd yn un o'r newyddiadurwyr prin a fu'n ddigon dewr i adrodd ar faint y newyn a'i achosion. Mae'n cael ei ystyried yn arwr yn Wcráin, lle mae'n cael ei anrhydeddu, a chyn bo hir, bydd stryd yn y brifddinas, Kyiv, yn cael ei henwi ar ei ôl. Ar 31 Ionawr yn sinema Chapter yng Nghaerdydd, bydd BAFTA Cymru yn cynnal dangosiad cyntaf yng Nghymru o'r ffilm newydd Mr Jones, gyda'r actor James Norton yn serennu ynddi, ac yna cynhelir sesiwn holi ac ateb. Caiff Gareth Jones ei gydnabod dramor, ond prin y gwyddys amdano yng Nghymru. Ond mae'n arwr Cymreig go iawn ac yn batrwm o newyddiaduraeth foesegol.
Teithiodd John Hughes, diwydiannwr Cymreig a pheiriannydd o Ferthyr Tudful, gyda thîm o lowyr a pheirianwyr o Gymru i Donetsk yn yr Wcráin, a oedd yn rhan o ymerodraeth Rwsia ar y pryd, i sefydlu diwydiant glo a dur mewn lle a oedd i ddod yn un o ddinasoedd cynhyrchu dur mwyaf y byd, ac fe'i henwyd ar ei ôl ar y pryd fel Hughesovka. Mae cerflun iddo yng nghanol y ddinas, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gerflun neu gydnabyddiaeth iddo yng Nghymru, er gwaethaf ei statws ryngwladol.
Lywydd, dim ond tri arwr cymharol anhysbys yw'r rhain, ond mae llawer mwy: Arthur Horner, llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru, cyn aelod o Fyddin Dinasyddion Iwerddon yn ystod y chwyldro Gwyddelig, a enillodd enw da yn rhyngwladol fel dadleuwr dros lowyr a'u hamodau gwaith ar draws y byd; Bertrand Russell, enillydd Gwobr Nobel mewn llenyddiaeth, awdur, athronydd, dyneiddiwr o fri rhyngwladol a hyrwyddwr rhyddid i feddwl; Francis Lewis o Landaf, un o'r rhai a lofnododd ddatganiad annibyniaeth yr Unol Daleithiau; Henry Richard, Tregaron, ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch ac ymgyrchydd dros ddiddymu caethwasiaeth; Thomas Jefferson, awdur y datganiad annibyniaeth, yr oedd ei deulu'n hanu o Eryri—yn wir, roedd tua thraean o'r rhai a lofnododd ddatganiad annibyniaeth America o dras Gymreig; Robert Owen, o'r Drenewydd, a gafodd gydnabyddiaeth ryngwladol fel un o sylfaenwyr a hyrwyddwyr cynnar y mudiad cydweithredol, ac y dywedodd Friedrich Engels amdano, 'Mae i bob mudiad cymdeithasol, pob gwir ddatblygiad... ar ran y gweithwyr gysylltiad ag enw Robert Owen'; a llawer o rai eraill a aeth ymlaen i gael llwyddiant rhyngwladol fel sylfaenwyr undebau llafur a mudiadau cymdeithasol yn rhyngwladol.
Lywydd, yn ogystal â thynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod cyfraniad yr arwyr Cymreig hyn i'n hanes, fy mwriad heddiw yn y ddadl fer hon yw tanlinellu hefyd pa mor bwysig ydynt i'n dyfodol fel modelau rôl ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau i ddod.
Ni soniais am Paul Robeson. Wrth gwrs, ni chafodd ei eni'n Gymro, ond mewn sawl ffordd mae'n Gymro enwog iawn, i'r graddau ei fod wedi cael ei gydnabod fwy yng Nghymru mae'n debyg nag yn ei wlad enedigol hyd yn oed, ac efallai y dylid cael cerflun i Paul Robeson ym mhrifddinas Cymru.
Mae ar bob cenedl angen ei harwyr, ac yn awr yn fwy nag erioed. Mae'r heriau sy'n wynebu cenedlaethau heddiw yn anferthol. O newid hinsawdd i chwilio am wrthfiotigau newydd, o'r cynnydd mewn ffasgaeth i lygredd ein cefnforoedd, mae angen cenhedlaeth newydd o arwyr ar Gymru a'r byd yn awr, a chredaf y cânt eu hysbrydoli'n rhannol gan y gorffennol.
Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr imi ymateb i'r ddadl hon. Dadl fer yw un o'n darnau mwy creadigol o'r Rheolau Sefydlog, yn yr ystyr ei bod yn caniatáu i Aelodau ddewis pwnc, a chyfrifoldeb unrhyw Weinidog priodol sydd ar gael yw ymateb i'r ddadl wedyn. Ond rwy'n arbennig o falch o allu gwneud hynny heddiw oherwydd, drwy ddewis dathlu rhyngwladolwyr o Gymru sydd wedi cael effaith ddiamheuol yn rhyngwladol, rwy'n credu eich bod wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ailysgrifennu'r cwricwlwm ar gyfer ein gwlad ein hunain.
Oherwydd credaf ei bod yn rhan o broses ymreolaeth gynyddol y bydd y cenhedloedd a'r rhanbarthau sy'n cyflawni'r ymreolaeth honno nid yn unig yn ceisio ailysgrifennu'r presennol a'r dyfodol, ond ailysgrifennu'r gorffennol hefyd; mewn gwirionedd, mae ei ddeall mewn modd a allai fod wedi ymddangos yn wrthwynebus neu'n ymylol neu hyd yn oed yn eithafol mewn rhyw bersbectif arall yn cynrychioli traddodiad y mae angen inni ei ddathlu wrth inni gryfhau ein hadnoddau syniadol ar gyfer yr hyn sy'n ein hwynebu, fel y disgrifiwyd gennych yn dda ar ddiwedd eich sylwadau.
Dyna pam rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle yn dweud bod cyflawniadau Cymreig ynghudd yn y gorffennol o dan 'hunaniaeth dra-arglwyddiaethol y DU neu Brydain', i ddyfynnu eich geiriau eich hun, a chredaf ei bod hi'n bryd i ni ailddatgan hynodrwydd ein treftadaeth, ac ailddiffinio'r cyfraniad y mae Cymru wedi'i wneud i ryngwladoliaeth yn enwedig. Mae hynny'n cynnwys gwaddol y mudiad heddwch a'r gefnogaeth i Gynghrair y Cenhedloedd, a mynd yn ôl i sefydlu'r Deml Heddwch yma yn ein prifddinas ein hunain, drwodd i hanes hir y mudiad heddwch, y mudiad gwrth-niwclear, mudiad y menywod. Mae'r rhain i gyd yn agweddau ar ein hanes sydd ag arwyddocâd rhyngwladol yn perthyn iddynt.
Rwy'n falch eich bod wedi dewis eich—nid eich 10 arwr uchaf yn hollol, ond roeddech chi bron yno, rwy'n meddwl. Ac rwy'n falch hefyd o weld y gair 'arwyr' yn cael ei ddefnyddio nid yng nghyd-destun rhyw gyflawniad unigolyddol, fel sy'n digwydd weithiau, hyd yn oed gydag arwyr chwaraeon ac arwyr eraill, ond ein bod yn dathlu'r ffaith bod yr arwyr hyn yn dod o gymuned, o gefndir, o brofiad cymdeithasol, y maent wedyn yn ei gymryd i gyflawni drostynt eu hunain. Ond nid drostynt eu hunain yn unig y maent yn cyflawni, maent yn cyflawni dros y diwylliant y daethant ohono.
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr yn bersonol yn y rhyfel cartref yng ngwledydd Sbaen, a chefais y fraint yn fy mywyd fy hun o gael adnabod a chael sgyrsiau diddorol iawn â Tom Jones, a adwaenid gan bawb—yn Gymraeg, yn sicr, ac yn Saesneg hefyd, mae'n debyg, yng Nghymru—fel Twm Sbaen. Mae ei brofiad a'i gyfraniad, nid yn unig yn ystod y gwrthdaro yn Sbaen ond i wleidyddiaeth mudiad yr undebau llafur a'r chwith a rhyngwladoliaeth yng Nghymru, yn un nodedig iawn.
Roeddwn hefyd yn falch eich bod wedi crybwyll y digwyddiadau yn yr Wcráin, ac yn amlwg mae gennych gysylltiad personol a theuluol cryf â'r fan honno, ac rwy'n credu bod gennym lawer i'w ddysgu o hyd am frwydr Wcráin drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o'r ugeinfed ganrif i'r unfed ganrif ar hugain. Mae dewis Gareth Jones yn ein hatgoffa eto o bwysigrwydd newyddiaduraeth annibynnol a gallu pobl i godi llais, gyda Malcom Muggeridge, fel y disgrifioch chi. Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna stryd yn Kyiv wedi'i henwi ar ei ôl, ac roeddwn yn falch iawn o glywed hynny ac edrychaf ymlaen at gefnogi eich ymdrechion chi ac eraill i sicrhau ei fod yn cael ei gydnabod i'r un graddau yng Nghymru.
John Hughes, eto, meteorolegydd a pheiriannydd nodedig. Faint o Gymry neu bobl a aned yng Nghymru sydd wedi sefydlu dinas? Ni allaf feddwl am un yn uniongyrchol. Mae'n siŵr bod rhyw ffigwr anghydffurfiol arwyddocaol a ddylai fod wedi dod i fy meddwl. Efallai, mewn gwirionedd, mai'r Mormoniaid a fyddai'n cyfateb iddo, yn Salt Lake City. Ond yn sicr, mae bod wedi gwneud hynny a sefydlu canolfan weithgynhyrchu yn gyfraniad nodedig.
Ac yna, gan nesu at ein hamser ni, drwy hanes undeb y glowyr, down at Bertrand Russell yn awr. Rwy'n falch o ddweud yn y Siambr hon i mi gael y fraint o gyfarfod â Bertrand Russell yng nghyd-destun y mudiad heddwch, yng nghyd-destun y cyfraniad a wnaeth gyda'i delegram enwog a anfonwyd o Benrhyndeudraeth i Washington a Moscow adeg argyfwng taflegrau Cuba, a oedd yn gyfnod brawychus iawn i mi fel dyn cymharol ifanc ac i lawer o bobl eraill. Roedd yn sicr yn athronydd mawr ac yn ddyneiddiwr o fri. Nid wyf yn meddwl ei fod yn fawr o genedlaetholwr Cymreig, ond ni allaf ei feirniadu am hynny.
Yn amlwg, y ffigurau rhyngwladol eraill a grybwyllwyd gennych: mae yna ysfa gref, yn enwedig ar ran fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, i'n gweld yn dathlu Robert Owen yn iawn, a byddwn yn gwneud hynny. Ond mae hefyd yn bwysig yn y dathliadau hynny ein bod yn gallu cydnabod bod rhyngwladoliaeth fel y câi ei hyrwyddo gan y meibion a'r merched hyn o Gymru yn rhywbeth y mae angen inni ei adfer heddiw. Nid ymwneud â datganoli i Gymru yn unig y mae'r lle hwn, mae'n ymwneud â'r hyn y gall Cymru barhau i'w gyfrannu i'r byd rhyngwladol.
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.