1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol? OAQ54913
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu darpariaeth addas ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig, a dyrennir cyllid i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw. Rwyf hefyd wedi sicrhau bod £20 miliwn ar gael i gefnogi'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, ac wrth gwrs, i fod yn deg, yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch siarad â ni am y cyllid hwnnw ar gyfer helpu awdurdodau lleol ac addysgwyr i baratoi ar gyfer gofynion y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Ac yn y gyllideb ddrafft, rydych wedi ymrwymo £9 miliwn i ddau faes gwariant arall, gan gynnwys helpu cynghorau i ymdrin â'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol. Ac eto, o ganlyniad i gylch gwariant Llywodraeth y DU, gwyddom fod £35 miliwn o gyllid canlyniadol i'r bloc Cymreig o'i ddyraniad cyllideb i anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol. Felly, nid wyf yn sôn am y £700 miliwn a gafodd sylw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, ac y bydd pawb ohonom yn ei ddisgwyl yn eiddgar, rwy’n sôn am y £35 miliwn o'r cylch gwariant. Rydych yn blaenoriaethu eich gwariant, rwy'n gwybod hynny, ond ni allaf gredu bod ein hangen am fuddsoddiad mewn AAA ac ADY gymaint yn llai nag yn Lloegr. Pam nad ydych chi wedi gwario £35 miliwn ar AAA ac ADY?
Wel, fel y dywedais wrth yr Aelod wrth ateb ei chwestiwn cyntaf, mae'r mwyafrif helaeth o gostau ysgol yn cael eu talu o'r grant cynnal refeniw. Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol fod y Llywodraeth wedi gallu cynyddu’r arian a roddir i awdurdodau lleol yn sylweddol eleni. Mae'r ychwanegiad at y setliad llywodraeth leol, a chyllid newydd arall ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn gwneud cyfanswm o £220 miliwn ar gyfer 2020-2021, ac mae hyn yn fwy na'r hyn a gawsom yn y cylch gwariant mewn perthynas â chyllid ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol o Loegr. Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn Lloegr wedi'i gynnwys yn y cynnydd cyffredinol ar gyfer ysgolion, felly rydym wedi gallu sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y grant cynnal refeniw. Rwy'n ymwybodol o bwysau penodol yn y gymuned ADY, a dyna pam y byddwn yn ategu'r cynnydd yn y grant cynnal refeniw gydag £8 miliwn ychwanegol o fy nghyllideb fy hun, a mwy nag £1 filiwn i sicrhau lleoliadau arbenigol ar gyfer y plant sydd â’r anghenion mwyaf dwys ar gyfer astudio ôl-16.
Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r arian ychwanegol rydych wedi'i roi yn fawr. Mae gennyf etholwr sydd â phlentyn sydd angen y math hwnnw o gefnogaeth, ond yn anffodus, nid yw'n ei gael oherwydd nad oes diagnosis wedi'i wneud eto. Ond hefyd, rwy'n gwerthfawrogi'r £20 miliwn rydych yn ei roi tuag at y paratoadau ADY ar gyfer gweithredu'r Bil yn 2021. Ond bydd awdurdodau lleol, felly, yn edrych yn ofalus iawn ar yr arian ychwanegol, er mwyn iddo gyflawni yn erbyn y cynnydd disgwyliedig yn y gofynion y bydd yn rhaid iddynt eu bodloni o ganlyniad i'r newidiadau hynny. Nawr, fel y dywedais, mae gennyf etholwr y byddai ei blentyn yn cael y gefnogaeth ymhen 18 mis yn ôl pob tebyg oherwydd bod y gofynion yn newid o ddim ond diagnosis i anghenion plentyn mewn gwirionedd. O ganlyniad, byddant yn cael y cymorth hwnnw. Ond mae angen arian ar gynghorau i'w ddarparu. A ydych yn bwriadu cynyddu’r cyllid i awdurdodau lleol yng nghyllidebau’r dyfodol, er mwyn sicrhau—pan ddaw’r newid hwn i rym, pan ddaw’r cynnydd, a bydd cynnydd yn y galw—y bydd y cynnydd hwnnw’n cael ei ariannu ac y bydd y plant hynny’n cael y cymorth y maent ei angen?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, David. Mae dau bwynt pwysig iawn yma. Yn gyntaf, rwy'n disgwyl bod pob awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn diwallu anghenion plant o dan y ddeddfwriaeth gyfredol, ac ni ddylai fod unrhyw esgus dros beidio â diwallu'r anghenion hynny cyn cyflwyno'r Bil ADY newydd. Mae gan y plant hynny amddiffyniadau a hawliau yn awr, a dylai awdurdodau lleol fod yn eu darparu. Er, mae’n rhaid i mi ddweud, mae gwariant awdurdodau lleol ar AAA mewn ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hon wedi'i gyllidebu i fod oddeutu £405 miliwn, sy'n gynnydd o 6.1 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Felly, mae awdurdodau lleol yn buddsoddi yn addysg y plant hyn.
O ran cyflwyno'r Ddeddf, fe fyddwch yn ymwybodol, fel y dywedais yn fy ateb i Suzy Davies, fod £20 miliwn wedi'i ddarparu i gefnogi'r gwaith o weithredu’r Ddeddf, yn benodol ar gyfer anghenion dysgu proffesiynol staff ac awdurdodau addysg lleol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno'n llwyddiant. Bydd rhagor o wybodaeth ariannol ar gael i'r Aelodau pan fyddwn yn cyhoeddi'r cod statudol a fydd yn sail i'r ddeddfwriaeth honno yn ddiweddarach eleni.
Roedd y Gweinidog yn ddigon caredig i dreulio rhywfaint o amser yn fy etholaeth ddoe yn cyfarfod ag athrawon ADY, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr amser a dreuliodd yn siarad â'r bobl hynny, ond hefyd am y sgwrs a gafwyd, a oedd yn fuddiol i bawb yn fy marn i. Roedd yr athrawon yno, Weinidog, yn dweud yn glir iawn, er mwyn cyflawni'r weledigaeth, sydd, yn fy nhyb i, yn cael ei rhannu ar bob ochr i'r Siambr hon, eu bod angen yr adnoddau, yr amser a'r gefnogaeth i allu cael y pethau hyn yn iawn.
A allwch roi ymrwymiad inni heddiw, Weinidog, y byddwch yn ceisio rhoi'r pecyn hwn at ei gilydd? Oherwydd roedd y ddeddfwriaeth, wrth gwrs, yn rhan o raglen drawsnewid ac nid dyna oedd y rhaglen yn ei chyfanrwydd. Ac wrth gyflawni'r cod, pan fyddwch yn gallu gwneud hynny, byddwn yn trawsnewid profiad addysg i blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion dysgu ychwanegol hynny.
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am hwyluso'r cyfarfod ddoe, ac am ymdrechion yr athrawon y cyfarfûm â hwy ddoe yn y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, yn ein hysgolion, a'r unigolyn sy'n ceisio cydlynu dulliau ADY ledled y rhanbarth? Roedd eu hadborth yn ddefnyddiol iawn i mi. Roeddent yn dweud yn glir iawn nad ydynt angen unrhyw hyfforddiant pellach ar elfennau'r ddeddfwriaeth newydd, ond eu bod bellach angen rhywfaint o hyfforddiant mewn perthynas â’r cyfrifoldebau ymarferol o wneud y swydd honno o ddydd i ddydd.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr hefyd mewn clywed y gwahanol agweddau tuag at statws cydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn strwythurau rheoli ysgol, gyda rhai ohonynt yn teimlo efallai nad yw uwch dimau rheoli yn rhoi digon o bwyslais ar anghenion y rôl benodol honno. Felly, cafwyd trafodaethau defnyddiol iawn, a byddaf yn mynd ar eu trywydd gyda fy swyddogion ac yn adrodd yn ôl i'r Aelod fel y gall yntau adrodd yn ôl i'r aelodau staff hynny roeddwn yn ddiolchgar iawn am gael eu cyfarfod ddoe.