1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau? OAQ54910
Dros yr haf a'r hydref gwnaethom dreialu nifer o ddulliau o fynd i'r afael â newyn gwyliau, gan gynnwys gweithio gyda lleoliadau chwarae a lleoliadau cymunedol ledled Cymru drwy ein cynllun peilot gwaith chwarae. Bydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn llywio syniadau ynglŷn â'r ddarpariaeth ehangach y flwyddyn nesaf.
Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn ac mae'n helpu plant o deuluoedd incwm isel, ond rwy'n siŵr y byddai pobl yn rhannu fy ngofid fod cannoedd o deuluoedd—rhai sy'n gweithio ac yn derbyn budd-daliadau a'r rhai sy'n dibynnu'n llwyr ar incwm budd-daliadau—yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddibynnu ar gynlluniau o'r fath i fwydo eu plant yn ystod gwyliau ysgol. Mae'n arwydd o 10 mlynedd o gyni, ac mae newidiadau’r Llywodraeth Dorïaidd i fudd-daliadau a hawliau wedi taro teuluoedd heb fawr o incwm yn galetach na neb arall. Felly, rydym hefyd yn cydnabod bod hynny’n achosi straen aruthrol i rieni a theuluoedd mewn angen o'r fath.
Rydych wedi dweud eich bod yn bwriadu gwerthuso, wrth symud ymlaen, a fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw hwn: pan fyddwch wedi cynnal y gwerthusiad hwnnw ac yn symud ymlaen gyda'r cynllun peilot, ai eich bwriad wedyn yw ehangu mynediad ar gyfer y rheini nad ydynt yn rhan o'r cynllun peilot ar hyn o bryd a pharhau’r mynediad ar gyfer y rheini sy'n rhan o'r cynllun peilot?
Wel, Joyce, mae'r rhesymau pam fod teuluoedd a phlant yn dioddef o newyn gwyliau yn rhai sydd, mewn llawer o achosion, y tu hwnt i'n rheolaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn hollol iawn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gweithredu i leddfu canlyniadau penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill. Roedd gan y cynllun peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau 92 o safleoedd chwarae mynediad agored a chwech o safleoedd y tu allan i'r ysgol i gyd. Fe wnaethant ddosbarthu tua 13,000 o brydau bwyd, sy'n dangos maint y rhaglen benodol honno.
Mae'n bwysig inni gofio mai rhan yn unig o'n hymdrechion i drechu a lliniaru problem newyn gwyliau yw hyn. Mae'n sefyll ochr yn ochr â'n rhaglen draddodiadol ar gyfer cyfoethogi gwyliau ysgol; ein rhaglen bwyd a hwyl sy'n cael ei darparu o fewn ysgolion. Ac rwy'n falch o ddweud ein bod, yn y flwyddyn ariannol newydd, wedi clustnodi cyllid o £1 filiwn ar gyfer y cynlluniau peilot gwaith chwarae a byddwn yn cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol bwyd a hwyl i £2.7 miliwn. Bydd hynny'n caniatáu inni ddarparu 100 y cant o gost y rhaglen honno, sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn rhannol gan awdurdodau lleol. Ond byddwn yn gallu ehangu'r rhaglen honno a chredwn y gallai gyrraedd tua 7,600 o blant yr haf hwn.
Rwy'n croesawu'r cynllun peilot hwn ac rwy'n croesawu'r wybodaeth rydych newydd ei rhoi inni fod mwy o blant yn debygol o elwa o hyn. Rwy’n cydnabod hefyd fod cyllidebau’n dynn a chyda’r Torïaid mewn grym yn San Steffan, nid oes fawr o obaith y bydd ein sefyllfa yn gwella am rai blynyddoedd.
Felly, tybed pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i fanteisio ar y gormodedd enfawr o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu gan archfarchnadoedd bob dydd? A allai defnyddio'r gormodedd hwn wneud y cynllun yn rhatach? Mae fy swyddfa wedi bod yn casglu a dosbarthu bwyd o nifer fach o archfarchnadoedd. Mae'n gynnyrch da a fyddai wedi cael ei daflu i’r bin, yn bennaf oherwydd ei oes silff fer. Nid oes gennym unrhyw gymhwyster—nid oes angen i bobl fod yn derbyn budd-daliadau i gael mynediad at y bwyd hwn—ac o ganlyniad, rydym wedi cael mwy na 6,000 o ymweliadau gan bobl sy’n chwilio am fwyd am ddim dros y chwe mis diwethaf. Felly, a allwch chi ystyried defnyddio'r gwastraff o archfarchnadoedd i alluogi mwy o blant i gael eu bwydo yn ystod gwyliau ysgol?
Diolch i chi am hynny, Leanne, a diolch am eich ymdrechion. Mae gwleidyddion sy'n eistedd yn y Siambr hon yn ymdrechu i wneud yr un peth, a thu allan i'r Siambr hon, mewn amryw o bleidiau gwleidyddol sy'n ceisio rhoi camau ymarferol ar waith yn hyn o beth. Nid ni sy'n cynnal y rhaglenni hynny mewn gwirionedd. Rydym yn sicrhau bod y cyllid ar gael i'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'n sefydliadau trydydd sector allu ei wneud ar lawr gwlad.
Ond rwy'n fwy na pharod i'n swyddogion ofyn i'n partneriaid annog ac edrych ar y cynnig rydych newydd ei gyflwyno. Rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd i helpu i sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei gynnig, yn ogystal â’r ystod o weithgareddau—oherwydd mae honno'n rhan bwysig o'r rhaglen hefyd, yr amrywiaeth o weithgareddau—sy'n cael eu cynnig yn ystyrlon, yn gyffrous ac yn ddeniadol i blant.
Felly, yn ddiweddar, cyfarfûm ag Undeb Rygbi Cymru. Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried sicrhau rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod yr haf ac yn hytrach na sefydlu hynny fel rhaglen unigol, maent yn trafod gyda ni ynglŷn â sut y gallwn eu rhoi mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol fel y gallant weithio ochr yn ochr â'n rhaglen, yn hytrach na dyblygu ymdrechion.
Felly, rydym bob amser yn chwilio am bartneriaid newydd i weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i wneud y profiadau hynny i blant yn ystyrlon, nid yn unig o ran maeth, ond hefyd o ran gweithgareddau a all fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, unigrwydd ac arwahanrwydd, neu golli dysgu yn ystod gwyliau'r haf.