1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion? OAQ54924
Diolch, Jayne. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod disgyblion awtistig mewn ysgolion yn cael eu cynorthwyo'n effeithiol i oresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu a allai fod ganddynt. Bydd ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol uchelgeisiol yn ailwampio'r system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn llwyr, a byddant yn sbarduno gwelliannau ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial llawn.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae tua 700,000 o oedolion a phlant ar y sbectrwm awtistiaeth yn y DU, ac os ydych yn cynnwys eu teuluoedd, mae awtistiaeth yn rhan o fywyd bob dydd 2.8 miliwn o bobl, ac eto mae'n dal i gael ei gamddeall yn aml.
Roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y camau diweddaraf sydd ar waith yng Ngwent i godi ymwybyddiaeth ac i gyflwyno Moli i'r Gweinidog a'r Siambr: Moli, The Cow Who Moo She Was Different. Mae Moli yn awtistig ac mae ei stori yn ychwanegiad newydd gwych i ysgolion cynradd a llyfrgelloedd ar draws y rhanbarth. Nod y llyfr yw tynnu sylw at bwysigrwydd croesawu gwahaniaeth a sut y mae gan bawb eu cryfderau unigol eu hunain. Cafodd stori Moli ei lansio yng nghanolfan Serennu Casnewydd, ac fe'i datblygwyd gan bobl ifanc ag awtistiaeth. Daeth i fodolaeth ar ôl i gynghorydd o Gasnewydd, Paul Cockeram, gael ei ysbrydoli gan The Elephant Who Forgot, llyfr a grëwyd gan rieni i godi ymwybyddiaeth o ddementia. Dyma'r trydydd llyfr o'i fath, gyda dau arall ar y gweill. Caiff y llyfrau eu hariannu drwy'r Gronfa Gofal Integredig. Mae'r dulliau meddal hyn o addysgu plant am yr hyn sy'n aml yn bynciau anodd, yn syml ac yn hynod o dreiddgar. Maent yn effeithiol o ran mynd i'r afael â stigma, a gofynnaf i'r Gweinidog edrych yn fanwl ar y prosiectau hyn a gweld sut y gellid cyflwyno'r llyfrau hyn er mwyn i stori Moli fod yn un y byddai holl blant Cymru yn ei hadnabod yn y pen draw.
Wel, diolch, Jayne, a diolch am ddwyn sylw'r Siambr gyfan at argaeledd yr adnodd hwnnw, a gobeithiaf allu cael gwell golwg arno ar ôl i’r cwestiynau ddod i ben. Rydym yn gweithio i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth nid yn unig ymhlith plant, ond hefyd ymhlith ein holl grwpiau proffesiynol, gan gynnwys y rheini sy'n gweithio yng ngwasanaethau awdurdodau lleol, addysg ac iechyd, fel rhan o'n rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae hynny wedi cynnwys cyhoeddi canllawiau i addysgwyr. Mae'r canllawiau hynny’n manylu ar ymyriadau effeithiol ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth mewn lleoliadau addysg. Ac rydym yn parhau i gyflwyno a datblygu ein cynllun dysgu gydag awtistiaeth, gyda rhaglenni wedi'u hanelu at y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd ac addysg bellach. Mae hynny'n cynnwys cyhoeddi a pharatoi pecynnau adnoddau dwyieithog ar gyfer yr holl leoliadau hynny, felly mae hynny'n ein galluogi, fel y dywedais, i helpu i godi ymwybyddiaeth, ac rwy'n siŵr y bydd y llyfr y sonioch chi amdano a Moli'r fuwch yn ychwanegiad defnyddiol at yr adnoddau y bydd eu hangen ar ysgolion i allu mynd i'r afael â'r gwahaniaethau pwysig hyn sy'n bodoli mewn ystafell ddosbarth.
Weinidog, mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae plant ag awtistiaeth yn aml yn cael eu camddeall a gallant ei chael hi’n anodd cymdeithasu a chyfathrebu yn eu cymunedau ac yn eu hamgylchedd. O’r herwydd, gall diffyg ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith plant eraill arwain at ynysu neu fwlio pobl awtistig. Weinidog, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi i sicrhau bod ein hysgolion yn mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth er mwyn hyrwyddo gwell goddefgarwch a dealltwriaeth o awtistiaeth yn ein hystafelloedd dosbarth? Diolch.
Fel y dywedais yn fy ateb i Jayne Bryant, mae gennym raglen Cymru gyfan ar waith i wella ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant. Mae hynny'n cynnwys, fel y dywedais, cynhyrchu canllawiau a deunydd hyfforddi ar eu cyfer, yn ogystal â chynhyrchu adnoddau y gellir eu defnyddio mewn ysgolion, ac wrth gwrs, mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni, mewn amryw o ffyrdd, ond yn bennaf drwy ein maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, lle gallwn fynd ati’n rhagweithiol i archwilio gwahaniaethau o bob math gyda'n plant a sicrhau eu bod yn deall, yn empathetig, yn barchus ac yn wybodus am y cymunedau amrywiol iawn y byddant yn tyfu i fyny ynddynt ac y byddant, gobeithio, yn dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus ynddynt pan fyddant yn gadael ein system ysgolion.