Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch am eich cwestiwn. Mae'r grŵp gweithredu ar ganser, a arweinir gan y GIG, wedi ariannu dwy ganolfan beilot ddiagnosteg gyflym. Ystyriwyd yr adroddiadau gwerthuso interim yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd 2019 ac mae disgwyl i'r gwerthusiad terfynol gael ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mai eleni. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y gwerthusiad a'r effaith ar gynllunio a chyflawni y GIG.