Canolfannau Diagnosis Cyflym

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:22, 15 Ionawr 2020

Rydyn ni'n gwybod bod adnabod canser yn gynnar yn gwneud y gwahaniaeth rhwng cael canlyniad da neu ganlyniad gwael pan ei bod hi'n dod i drin y canser hwnnw. Yn syml iawn, mae darganfod canser yn gynnar yn achub bywyd claf. Mae'r dystiolaeth gadarnhaol sy'n dod yn sgil cynlluniau peilot Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg i'w chroesawu'n fawr iawn. Mae pobl Gwynedd yn galw am wasanaeth tebyg, efo dros 1,500 o bobl wedi llofnodi llythyr agored yn galw am ganolfan diagnosis cyflym yn ein hardal ni. Gan ystyried bod canser yn arwain at farwolaeth mwy o bobl yng Ngwynedd nac unrhyw beth arall, a gan ein bod ni'n gwybod bod diagnosis cyflym yn achub bywydau, pryd fedrwn ni weld canolfan diagnosis cyflym yn dod i'r ogledd-orllewin?