2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2020.
3. Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i wella gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OAQ54901
Rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau i hybu gwelliant gwasanaethau, a nodwyd enghreifftiau o hynny yn fy natganiadau ar 19 Tachwedd 2019, 8 Hydref 2019, a 16 Gorffennaf 2019. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael gwasanaethau iechyd sy'n darparu'r canlyniadau a'r profiad gorau posibl.
Weinidog, mae gennyf gwestiwn am gyflwr gofal amenedigol, ac mae arnaf ofn mai'r sefyllfa hon yw'r norm, yn hytrach na'r eithriad. Mae etholwr wedi cysylltu â mi gydag un o'r enghreifftiau mwyaf torcalonnus i mi glywed amdani o fethiannau'r GIG. Dywed mai cariad tuag at ei phlant yw'r unig beth a'i rhwystrodd rhag dod â'i bywyd i ben. Mae'r fenyw dan sylw hefyd yn cael cefnogaeth gan y Birth Trauma Association, sydd wedi'u synnu gan y methiannau niferus, y diffyg gwelliant o ran mynediad at therapïau seicolegol ac anallu mamau i hunangyfeirio.
Rwyf wedi ysgrifennu at brif weithredwr yr ymddiriedolaeth, i geisio cael cyfiawnder mewn perthynas â'r achos unigol hwn, ond credaf fod y mater yn tynnu sylw at ddiffyg cyffredinol o gyfleusterau gofal amenedigol yma yng Nghymru—mater a amlygwyd sawl blwyddyn yn ôl gan fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, y mae llawer o hiraeth ar ei ôl. Felly, a ydych yn cytuno â mi a chyda Steffan fod angen gwella gofal amenedigol yng Nghymru ar frys, ac os ydych yn cytuno, sut y bwriadwch wneud hynny?
Wel, yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau unigol y cyfeiria'r Aelod atynt, ac os yw'n awyddus i mi roi sylw i'r mater unigol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, ond byddai angen ei chaniatâd hi a'i hetholwr arnaf i wneud hynny, a beth yw'r ymateb i'r cwynion a'r pryderon a godwyd.
O ran yr hyn a wnawn yn ei gylch, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gofal amenedigol cymunedol, ond ceir her hefyd ynghylch darparu'r uned mamau a babanod rydym wedi ymrwymo i'w wneud, ond un rhan o'r jig-so yn unig yw hynny, ac mae'n rhan o'r gwelliant cyffredinol. Felly, ydw, rwy'n credu bod angen eu gwella. Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd. Cafwyd rhywfaint o siom ynghylch cyflymder a graddfa'r newid, ac rwy'n edrych ar ateb dros dro cyn y gellir rhoi un parhaol ar waith ar ofal cleifion mewnol. Ac ymrwymais eto heddiw yn y sesiwn graffu ar y gyllideb gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i sicrhau eu bod hwythau'n cael gwybod pan fyddaf yn darparu diweddariad pellach i'r pwyllgor plant a phobl ifanc.
Ond mae hwn yn faes sylweddol o weithgarwch ac o weithgarwch gwella hefyd. Mae'r arweinydd amenedigol sydd gennym ar waith, Sharon Fernandez, ymwelydd iechyd cydnabyddedig, yn helpu i hybu rhywfaint o'r gwelliant. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am y rhaglen os yw hynny o ddefnydd.
Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl, gofynnais i chi am yr anghysondeb mewn amseroedd rhyddhau o ambiwlansys i fy etholwyr sy'n mynychu Ysbyty Tywysoges Cymru, o gymharu â'r rheini sy'n mynychu ysbytai eraill yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Nawr, cefais ymateb rhyddid gwybodaeth sy'n dangos bod fy etholwyr sy'n byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aros llawer mwy am lawdriniaeth orthopedig na'r rheini sy'n byw mewn mannau eraill yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r cyfnod aros am ben-glin newydd, clun newydd a llawdriniaeth ar yr ysgwydd yn naw mis i drigolion hen ardal Cwm Taf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i fy etholwyr aros ddwywaith yn hwy na hynny, ac o leiaf ddwy flynedd i gael pen-glin newydd. Mae Cwm Taf Morgannwg wedi dechrau rhoi'r achosion symlach ar gontract allanol i ysbytai preifat—gadewch i ni glywed y floedd o ddicter nawr—a thrwy drefnu gwaith ar y penwythnos yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Ond a ydych chi'n fodlon ag annhegwch y ddarpariaeth o fewn un bwrdd iechyd?
Na, nid mewn un bwrdd iechyd y mae'r her yn hyn o beth, ond yn y gwelliant ehangach y gwyddom fod ei angen mewn sawl gwahanol ran o Gymru, yn enwedig o ran llawdriniaethau ar y cymalau. Dyna ran o'r rheswm pam ein bod yn edrych nid yn unig ar y gwaith o wella gofal wedi'i gynllunio, ond yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran ad-drefnu ein hystod o wasanaethau mewn ysbytai, a chyrraedd pwynt o'r diwedd lle rydym yn deall sut i gael system gofal wedi'i gynllunio nad yw gofal brys yn ymyrryd arni ac yn ei gorlwytho. Felly bydd angen i ni edrych eto a gallu cyflawni peth gweithgarwch gofal wedi'i cynllunio lle nad oes gennym ofal brys yn digwydd ar yr un safle.
Nawr, mae hynny'n rhan o'r her nid i un bwrdd iechyd yn unig ond i fyrddau iechyd yn gyffredinol. Dyna ran o'r rheswm pam rwyf wedi'i gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd weithio gyda'i gilydd, yn rhanbarthol, i gynllunio rhai o'r gweithgareddau hynny hefyd, ac rwy'n disgwyl rhoi diweddariad i'r Aelodau yn ystod y flwyddyn ar yr hyn y mae hynny'n debygol o'i olygu, gan fy mod am weld gwelliant ym mhob rhan o'r wlad, nid mewn un ardal bwrdd iechyd yn unig.