Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch. Weinidog, mae adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gweld degawd o ddirywiad yng Nghymru. Mae canran y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn yr amser targed o bedair awr wedi gostwng o 90.9 y cant ym mis Hydref 2009 i 74.4 y cant ym mis Tachwedd 2019. Mae'r seirenau'n sgrechian uchaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi gostwng o 93.7 y cant ym mis Hydref 2009 i 72.2 y cant fis Tachwedd diwethaf. Mae'r realiti hyd yn oed yn waeth mewn rhai ysbytai, yn enwedig Ysbyty Glan Clwyd, sef yr adran ddamweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf yng Nghymru bellach. Nid yw'r ysbyty hwn erioed wedi cyrraedd y targed o 95 y cant. Pa gamau brys y byddwch yn eu cymryd ar y cyd â phrif weithredwr y bwrdd iechyd i adolygu a diwygio'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd?